Toglo gwelededd dewislen symudol

Peiriannau talu meysydd parcio

Gwybodaeth am y peiriannau talu yn ein meysydd parcio.

Dyma ffordd ddi-ffwdan o dalu am eich parcio gan ddefnyddio cardiau digyffwrdd, cardiau neu arian parod. Os ydych chi wedi parcio mewn maes awyr neu faes parcio y telir i'w ddefnyddio mewn dinasoedd eraill, mae'n bosib eich bod chi wedi gweld systemau tebyg ar waith:

Peiriannau talu ac arddangos

Peiriannau Solar: Fydd angen pwyso y botwm Pŵer I ddechrau y peiriant. Unwaith fod y peiriant solar wedi dechrau, mae'r broses yr un peth ar gyfer prif beiriannau a pheiriannau solar:

Taliad arian parod

  1. Dewis Iaith
  2. Mewnosodwch eich Rhif Cofrestru
  3. Mewnosodwch arian parod i'r swm ofynnol
  4. Pwyswch y botwm Gwyrdd
  5. Cyhoeddi tocyn

Taliadau cerdyn

  1. Dewis Iaith
  2. Mewnosodwch eich Rhif Cofrestru
  3. Pwyswch y botwm taliadau cerdyn
  4. Dewisiwch y swm gan bwyso y botwm +
  5. Ydych chi eisiau derbyniad?
    • Gwrydd: Ydw
    • Coch: Nac Ydw
  6. Mewnosodwch neu tapiwch eich cerdyn I wneud taliad
  7. Cyhoeddi tocyn
    • Derbyniad ar gael os ofynnwyd

Taliadau drwy'r ap

Talwch drwy ap MiPermit - ar gael i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Android ac Apple. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.mipermit.com

 

Peiriannau talu â rhwystr

Pam nad oes ganddynt docynnau?

Ni fydd angen i chi godi tocyn ar gyfer parcio am fod y system yn gwneud y cyfan ar eich rhan drwy ddefnyddio systemau camerâu i adnabod eich car wrth i chi gyrraedd y maes parcio a'i adael.

Felly, beth fydd angen i mi ei wneud?

Heblaw am beidio â chymryd tocyn, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth yn wahanol wrth i chi gyrraedd y maes parcio, neu ei adael.

  1. Gyrrwch i mewn i'r maes parcio fel arfer. Bydd camera adnabod rhif cofrestru awtomatig yn nodi plât rhif eich cerbyd wrth i chi gyrraedd fel nad oes angen i chi gasglu tocyn.
  2. Ar eich ffordd yn ôl i'ch car, nodwch blât rhif eich cerbyd yn y man talu a thalwch am barcio yn y ffordd arferol, gydag arian parod, cerdyn digyffwrdd neu gerdyn. Mae botwm dewis ar y bysellbad fel y gallwch ddewis i dalu yn Gymraeg neu'n Saesneg.
  3. Byddwch yn gadael y maes parcio pan fydd y camera'n adnabod plât rhif eich cerbyd ac yn codi'r atalfa. Os ydych chi wedi anghofio talu, gallwch dalu drwy ddefnyddio cerdyn digyffwrdd neu gerdyn wrth yr allanfa.

Beth os ydw i wedi anghofio talu wrth y peiriant?

Dim problem. Er ei bod yn haws talu wrth y peiriannau talu ar droed sydd ar bob llawr, gallwch dalu gyda cherdyn digyffwrdd neu gerdyn wrth yr allanfa.

Oes angen i mi gofio fy rhif cofrestru?

Oes. Bydd angen i chi nodi'ch rhif yn y peiriant wrth y man talu fel bod eich cerbyd yn cael ei adnabod ac er mwyn i chi dalu am hyd yr amser rydych wedi parcio yno.

Beth am ddydd Sul pan fydd y maes parcio am ddim?

Fel bob amser, gallwch barcio ym maes parcio'r Cwadrant am ddim ar ddydd Sul. Ni fydd angen i gwsmeriaid ddefnyddio'r mannau talu gan fydd yr atalfeydd yn codi'n awtomatig wrth y mannau cyrraedd a gadael pan fydd cerbyd yn gyrru tuag atynt.

Ydy'r dechnoleg yn newydd?

Nac ydy. Mae'r dechnoleg wedi bod ar waith am nifer o flynyddoedd. Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig (ANPR) yw'r enw ar y dechnoleg ac mae'n cael ei defnyddio mewn meysydd parcio â thâl a meysydd parcio am ddim ar draws y wlad. Er enghraifft, os ydych yn mynd i faes parcio mewn archfarchnad neu faes parcio gwasanaethau traffordd lle gall y parcio am ddim fod yn gyfyngedig i ddwy awr, bydd system ANPR ar waith yno sy'n adnabod eich cerbyd wrth i chi gyrraedd y maes parcio a'i adael.

Beth os oes angen cyngor arnaf?

Mae'n hawdd dod i'r arfer â'r peiriant gan mai'r unig beth sy'n wahanol yw nad oes angen i chi gasglu tocyn. I ddechrau, bydd gennym staff wrth y fynedfa a'r peiriannau talu i'w hesbonio i chi.

Mae gen i Fathodyn Glas - sut bydd y system yn fy adnabod i?

Bydd deiliaid bathodynnau glas yn talu'r un pris â defnyddwyr eraill y meysydd parcio. Mae lleoedd parcio dynodedig ar gael fel arfer.

Mae gen i hawlen - sut y bydd hyn yn effeithio arna i?

Rydym wedi rhoi gwybod i'n prif sefydliadau busnes y mae ganddynt hawlenni wedi'u trefnu gyda ni. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y newidiadau sydd eu hangen fel rhan o'r broses, e-bostiwch meysydd.parcio@abertawe.gov.uk

Ydw i'n gallu defnyddio ap MiPermit yn y Cwadrant?

Na - mae'r ap MiPermit ar gyfer ein meysydd parcio talu ac arddangos yn unig.

 

Ad-daliadau

Os hoffech wneud cais am ad-daliad oherwydd problem â pheiriant talu - e-bostiwch diffygionmaesparcio@abertawe.gov.uk neu anfonwch lythyr i'r Gwasanaethau Parcio, Blwch Post 588, Abertawe SA1 9GD.

Bydd angen cynnwys esboniad manwl sy'n nodi'ch rheswm dros wneud cais am ad-daliad. Sylwer ni roddir ad-daliadau am ordaliadau oni bai bod problem gyda'r peiriant.

Rhowch eich enw a'ch cyfeiriad llawn gan nad oes modd ad-dalu i gerdyn bob tro, ac efallai bydd rhaid anfon siec.

Gwneir gwiriadau, at ddibenion archwiliad, i sicrhau bod modd rhoi'r ad-daliad. Os nad yw'n bosib rhoi ad-daliad byddwch yn derbyn ymateb yn ogystal ag esboniad llawn.

Close Dewis iaith