Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno cais am Hawlen Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr neu adnewyddu'ch hawlen

Mae Hawlenni Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr am ddim ac maent yn caniatáu i breswylwyr Abertawe barcio am bris gostyngol ym meysydd parcio'r cyngor.

Gall ceisiadau gymryd hyd at 2 ddiwrnod gwaith i gael eu gwirio a'u prosesu. 

Ni fydd hawl gennych i barcio am bris gostyngol nes eich bod yn derbyn eich hawlen ddigidol drwy'r ap MiPermit.

Bydd angen i chi ddarparu un o'r canlynol wrth wneud cais am hawlen pris arbennig ar gyfer preswylwyr neu wrth adnewyddu'ch hawlen.

  • eich llyfr cofrestru V5 - mae'n rhaid iddo ddangos eich enw a'ch cyfeiriad yn Abertawe
  • eich trwydded yrru - mae'n rhaid iddi ddangos eich enw a'ch cyfeiriad yn Abertawe
  • bil cyfleustod - Mae'n rhaid iddo ddangos eich enw a'ch cyfeiriad (o'r 3 mis diwethaf)
  • cyfriflen Banc - Mae'n rhaid iddo ddangos eich enw a'ch cyfeiriad (o'r 3 mis diwethaf)

Cyn cyflwyno cais, darllenwch yr amodau a thelerau.

Cyflwyno cais am Hawlen Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr neu adnewyddu'ch hawlen (MiPermit) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae'r hawlen pris arbennig hon yn ddilys os ydych yn talu am barcio drwy ap MiPermit yn unig.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am sut i gael y pris gostyngol i breswylwyr drwy beiriant talu yn y maes parcio yma: Sut i dalu i barcio

Close Dewis iaith