Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut i dalu am barcio

Gwybodaeth am y peiriannau talu yn ein meysydd parcio.

Dyma ffordd ddi-ffwdan o dalu am eich parcio gan ddefnyddio cardiau digyffwrdd, cardiau neu arian parod.

Peiriannau talu ac arddangos

Peiriannau Solar: Fydd angen pwyso y botwm Pŵer I ddechrau y peiriant. Unwaith fod y peiriant solar wedi dechrau, mae'r broses yr un peth ar gyfer prif beiriannau a pheiriannau solar.

Taliad arian parod

  1. Gwasgwch y botwm baner felen i ddewis iaith
  2. Defnyddiwch y botymau +/- glas i ddewis tariff (opsiynau Bathodyn Glas a phreswylydd ar gael yma)
  3. Mewnosodwch eich rhif cofrestru cerbyd
  4. Mewnosodwch arian parod

Taliadau cerdyn

  1. Gwasgwch y botwm baner felen i ddewis iaith
  2. Defnyddiwch y botymau +/- glas i ddewis tariff (opsiynau Bathodyn Glas a phreswylydd ar gael yma)
  3. Mewnosodwch eich rhif cofrestru cerbyd
  4. Gwasgwch y botwm cerdyn gwyn
  5. Defnyddiwch y botymau +/- glas i ddewis tariff
  6. Gwasgwch y botwm tic gwyrdd ar ôl i chi ddewis y tariff cywir (gan gynnwys y gostyngiad i breswylwyr)
  7. Dewiswch a ydych chi eisiau derbynneb neu beidio
  8. Dilynwch y cyfarwyddiadau arferol ar gyfer talu â cherdyn

Parking machine keyboard.

Taliadau ap MiPermit

Talwch drwy ap MiPermit - ar gael i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Android ac Apple.

Hafan MiPermit Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

Hawlen Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr
Mae hawlen am ddim ar gael o'r enw 'Hawlen Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr' ar y porth MiPermit (Yn agor ffenestr newydd) ar gyfer preswylwyr fel y gallant wneud cais am ostyngiad. Bydd hwn wedyn yn ychwanegu'r ffi ar gyfer preswylwyr wrth dalu i barcio yn y dyfodol.

 

Peiriannau talu â rhwystr

Pam nad oes ganddynt docynnau?

Ni fydd angen i chi godi tocyn ar gyfer parcio am fod y system yn gwneud y cyfan ar eich rhan drwy ddefnyddio systemau camerâu i adnabod eich car wrth i chi gyrraedd y maes parcio a'i adael.

Felly, beth fydd angen i mi ei wneud?

Heblaw am beidio â chymryd tocyn, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth yn wahanol wrth i chi gyrraedd y maes parcio, neu ei adael.

  1. Gyrrwch i mewn i'r maes parcio fel arfer. Bydd camera adnabod rhif cofrestru awtomatig yn nodi plât rhif eich cerbyd wrth i chi gyrraedd fel nad oes angen i chi gasglu tocyn.
  2. Ar eich ffordd yn ôl i'ch car, nodwch blât rhif eich cerbyd yn y man talu a thalwch am barcio yn y ffordd arferol, gydag arian parod, cerdyn digyffwrdd neu gerdyn. Mae botwm dewis ar y bysellbad fel y gallwch ddewis i dalu yn Gymraeg neu'n Saesneg.
  3. Byddwch yn gadael y maes parcio pan fydd y camera'n adnabod plât rhif eich cerbyd ac yn codi'r atalfa. Os ydych chi wedi anghofio talu, gallwch dalu drwy ddefnyddio cerdyn digyffwrdd neu gerdyn wrth yr allanfa.

Beth os ydw i wedi anghofio talu wrth y peiriant?

Dim problem. Er ei bod yn haws talu wrth y peiriannau talu ar droed sydd ar bob llawr, gallwch dalu gyda cherdyn digyffwrdd neu gerdyn wrth yr allanfa.

Oes angen i mi gofio fy rhif cofrestru?

Oes. Bydd angen i chi nodi'ch rhif yn y peiriant wrth y man talu fel bod eich cerbyd yn cael ei adnabod ac er mwyn i chi dalu am hyd yr amser rydych wedi parcio yno.

Ydy'r dechnoleg yn newydd?

Nac ydy. Mae'r dechnoleg wedi bod ar waith am nifer o flynyddoedd. Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig (ANPR) yw'r enw ar y dechnoleg ac mae'n cael ei defnyddio mewn meysydd parcio â thâl a meysydd parcio am ddim ar draws y wlad. Er enghraifft, os ydych yn mynd i faes parcio mewn archfarchnad neu faes parcio gwasanaethau traffordd lle gall y parcio am ddim fod yn gyfyngedig i ddwy awr, bydd system ANPR ar waith yno sy'n adnabod eich cerbyd wrth i chi gyrraedd y maes parcio a'i adael.

Beth os oes angen cyngor arnaf?

Mae'n hawdd dod i'r arfer â'r peiriant gan mai'r unig beth sy'n wahanol yw nad oes angen i chi gasglu tocyn. I ddechrau, bydd gennym staff wrth y fynedfa a'r peiriannau talu i'w hesbonio i chi.

Mae gen i Fathodyn Glas - sut bydd y system yn fy adnabod i?

Bydd deiliaid bathodynnau glas yn talu'r un pris â defnyddwyr eraill y meysydd parcio. Mae lleoedd parcio dynodedig ar gael fel arfer.

Mae gen i hawlen - sut y bydd hyn yn effeithio arna i?

Rydym wedi rhoi gwybod i'n prif sefydliadau busnes y mae ganddynt hawlenni wedi'u trefnu gyda ni. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y newidiadau sydd eu hangen fel rhan o'r broses, e-bostiwch meysydd.parcio@abertawe.gov.uk

Ydw i'n gallu defnyddio ap MiPermit yn y Cwadrant?

Na - mae'r ap MiPermit ar gyfer ein meysydd parcio talu ac arddangos yn unig.

 

Ad-daliadau

Os hoffech wneud cais am ad-daliad oherwydd problem â pheiriant talu - e-bostiwch diffygionmaesparcio@abertawe.gov.uk neu anfonwch lythyr i'r Gwasanaethau Parcio, Blwch Post 588, Abertawe SA1 9GD.

Bydd angen cynnwys esboniad manwl sy'n nodi'ch rheswm dros wneud cais am ad-daliad. Sylwer ni roddir ad-daliadau am ordaliadau oni bai bod problem gyda'r peiriant.

Rhowch eich enw a'ch cyfeiriad llawn gan nad oes modd ad-dalu i gerdyn bob tro, ac efallai bydd rhaid anfon siec.

Gwneir gwiriadau, at ddibenion archwiliad, i sicrhau bod modd rhoi'r ad-daliad. Os nad yw'n bosib rhoi ad-daliad byddwch yn derbyn ymateb yn ogystal ag esboniad llawn.