Toglo gwelededd dewislen symudol

Parcio coetsis

Mannau parcio a gollwng ar gyfer bysiau a choetsis.

Abertawe

Bydd coetsis sy'n ymweld ag Abertawe'n gallu gollwng a chasglu o'r lleoliadau canlynol. Sylwer bod yr amser aros yn gyfyngedig i 10 munud:

Sylwer, unwaith bydd y goets wedi gollwng teithwyr, mae'n rhaid i'r gyrrwr barcio yn yr ardal barcio ddynodedig ar gyfer coetsis ger safle Parcio a Theithio Fabian Way - dilynwch y dolenni hyn i ddod o hyd i'r lleoliad cywir -

Gellir cael mynediad naill ai drwy ffonio 01792 480526 neu drwy wasgu'r botwm galw wrth y gatiau. Naill ai caiff y gatiau eu hagor neu darperir côd pin i chi er mwyn agor y gatiau. Codir tâl o £10 ar gyfer pob cyfnod aros a gallwch ei dalu yn un o'r Peiriannau Talu ac Arddangos.

Ni chaniateir cysgu dros nos yn yr ardal parcio Coetsis/Lorïau oni bai fod y cerbyd wedi'i ddylunio'n arbennig i ganiatáu cysgu. Sylwer, nid oes unrhyw gyfleusterau e.e. dŵr ffres, dŵr gwastraff, cawodydd, toiledau neu gyflenwadau pŵer ar y safle. Os bydd unrhyw achos o faeddu amhriodol yn y maes parcio, bydd y cyngor yn ceisio adennill y costau glanhau. 

Defnyddir teledu cylch cyfyng ar draws y cyfleuster cyfan hwn.

Mwmbwls

Ar gyfer coetsis sy'n ymweld â'r Mwmbwls, sylwer nad oes man gollwng dynodedig swyddogol yn y Mwmbwls oherwydd cynllun y pentref hyfryd hwn. Os ydych chi'n gollwng neu'n casglu yma, gwnewch hynny'n gyflym ac yn ddiogel (sylwer, gwneir hyn ar eich menter eich hun).

Yr ardal barcio ar gyfer coetsis yn y Mwmbwls yw Maes Parcio Bae Bracelet SA3 4JT - https://what3words.com/reception.value.defers

Gŵyr

I gael gwybod am barcio coetsis ar Benrhyn Gŵyr, edrychwch ar y meysydd parcio ger traethau - y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cynnig mannau parcio i goetsis. 

I gael syniadau am bethau i'w gweld a'u gwneud ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr, ewch i wefan swyddogol y cyrchfan: www.croesobaeabertawe.com

Close Dewis iaith