Toglo gwelededd dewislen symudol

Anrheg Nadolig gynnar wedi'i chynllunio ar gyfer plant ifanc mewn pedair cymuned yn y ddinas

Mae gwaith yn dechrau'r mis hwn ar bedair ardal chwarae newydd ym Mharc Brynmill, ardal chwarae DFS yn Nhreforys yn ogystal ag yn Nhrefansel yng Nghwmbwrla a Blaen-y-maes yn Ward Penderi.

brynmill play area artist impression

Maent yn ychwanegol at y gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd i ddiweddaru ardaloedd chwarae ym Mhlas-marl, Gendros, Pontlliw, Canolfan y Ffenics a Chlydach.

A disgwylir i'r cyngor gytuno ar fwy o gynlluniau dros y misoedd sy'n dod a fydd yn dod â nifer y cynlluniau a gwblhawyd i fwy na 60 dan raglen hynod boblogaidd sydd wedi bod o fudd i gymunedau ledled Abertawe.

Bydd siglenni, carwsélau, fframiau dringo ac unedau amlchwarae yn nodweddion yn yr ardaloedd chwarae newydd lle bydd gwaith yn dechrau yn ddiweddarach y mis hwn, rhan o ymgyrch barhaus £7m y cyngor i gael plant i chwarae yn eu cymdogaethau

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Ers diwedd y pandemig rydym wedi gosod bron 50 o ardaloedd chwarae newydd neu wedi eu huwchraddio mewn cymdogaethau ledled y ddinas.

"Mae plant wrth eu boddau gyda'r ardaloedd chwarae newydd ac mae rhieni wedi bod yn galw am ragor o ardaloedd chwarae ar gyfer ardaloedd fel Brynmill a Blaen-y-maes. Dyma pam rydym wedi trefnu i osod 15 ardal chwarae newydd eleni. Rydyn ni'n obeithiol iawn y bydd y plant wrth eu bodd â'r hyn maen nhw'n ei weld pan fydd y gwaith wedi'i orffen.

"Rydym yn rhagweld y dylai'r pedair ardal chwarae newydd y mae ein contractwyr yn dechrau arnynt y mis hwn fod yn barod mewn pryd ar gyfer gwyliau'r Nadolig ysgolion, a fyddai'n anrheg wych i'r cymunedau hynny."

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Gwnaethom ymrwymiad i fuddsoddi cymaint mewn ardaloedd chwarae oherwydd gwelsom pa mor bwysig oeddent i deuluoedd ifanc a phlant fel lle rhydd i fynd iddo wrth i ni i gyd ddod allan o'r pandemig.

"Roeddem am barhau i annog cyfleoedd i fynd allan ac o fy ymweliadau â'r safleoedd, mae'n amlwg iawn bod yr adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol."

Ers dechrau'r rhaglen ardaloedd chwarae mae cymunedau ar draws Abertawe wedi gweld buddsoddiad mewn ardaloedd sy'n cynnwys Mayhill, West Cross, Garnswllt, Bôn-y-maen, Mawr, Pengelli, Pen-clawdd a Gellifedw.

I gael gwybod mwy am fuddsoddiad mwyaf erioed y cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i: Cenhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae i'n plant

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Hydref 2023