Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd fach
Mae amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer ardaloedd bach yn Abertawe'n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (SYC).
Y data poblogaeth diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Wardiau Etholiadol ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE) yn Abertawe yw amcangyfrifon canol blwyddyn 2024. Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) yn unedau adrodd ystadegol a ddatblygwyd gan y SYG gyda phoblogaeth o rhwng 1,000 a 3,000 o bobl. Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG) yn cael eu hadeiladu o grwpiau ACEHI cyfagos ac mae ganddynt boblogaeth o rhwng 5,000 a 15,000.
Mae amcangyfrifon cryno o'r boblogaeth leol (2024) ar gael ar y dudalen hon. Caiff data lefel ACEHI, ACEHG a Wardiau ar gyfer ardaloedd yn Abertawe eu dangos ar sail y grwpiau cyfnod bywyd bras: plant (0-15), oedran gweithio (16-64) a phobl hŷn (65+). Mae ffeil ychwanegol ar gael sy'n dangos data poblogaeth fesul blwyddyn oedran unigol ar gyfer ardaloedd bach yn Abertawe, i helpu gyda chyfrifiadau a dadansoddiadau.
Poblogaeth Abertawe 2024 ACEHI (PDF, 357 KB)
Poblogaeth Abertawe 2024 ACEHG (PDF, 728 KB)
Poblogaeth Abertawe 2024 Wardiau (PDF, 338 KB)
2024 Poblogaeth ACEH Wardiau (Excel doc, 237 KB)
Newidiadau i ffiniau ardal
Newidiodd ffiniau wardiau etholiadol ac ardaloedd cynnydd ehangach (ACE) Abertawe yn 2022. Newidiodd ffiniau'r wardiau yn dilyn adolygiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022 ac mae 32 o wardiau etholiadol yn Abertawe bellach. Ar wahân, adolygwyd yr ardaloedd daearyddol ystadegol cyn cyhoeddi canlyniadau lleol o Gyfrifiad 2021. O ganlyniad, mae gan Abertawe bellach 30 ACEHG a 150 ACEHI.
Mae delweddau map ar y dudalen hon yn dangos lleoliad cyffredinol y ACEHI a'r wardiau etholiadol yn Abertawe. Mae mapiau unigol o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach a Wardiau Abertawe hefyd ar gael yma. Mae'r tudalennau hyn hefyd yn cynnwys manylion y newidiadau diweddar i'r ffiniau.
Amcangyfrifon lleol
Yn Abertawe, mae'r amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach ar gyfer canol 2024 yn nodi:
- Ar lefel ward, mae amcangyfrifon o gyfanswm y boblogaeth yn amrywio o oddeutu 16,900 o bobl (Treforys) i 2,500 o bobl (Pontlliw a Thircoed).
- Mae'r amcangyfrifon lleol ar gyfer yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach hefyd yn amrywio. Ar lefel ACEHG, mae'r boblogaeth yn amrywio o oddeutu 11,200 o bobl (Abertawe 016 - 'Glandŵr') i 5,100 (Abertawe 018 - 'Llanmorlais a'r Crwys'). Ar gyfer ACEHI, mae cyfanswm y boblogaeth yn amrywio o oddeutu 3,300 o bobl ('Glandŵr 4') i 1,000 ('Pennard 1').
- Gellir defnyddio'r data i ddangos gwahaniaethau ardal yn y boblogaeth yn ôl grŵp oedran. Ar lefel ward, mae'r cyfrannau uchaf o blant (0-15 oed) yn Townhill, Penderi a Phenlle'r-gaer (pob un dros 21%); mae'r cyfrannau uchaf o bobl 16-64 oed yn Uplands, y Castell ac yn ardal y Glannau (dros 74%); ac mae'r cyfrannau uchaf o bobl 65 oed ac yn hŷn yn wardiau Pennard, Gŵyr a Llandeilo Ferwallt (dros 35%).
Ynglyn â'r data
Cyhoeddwyd yr amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach ar gyfer wardiau ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 7 Tachwedd 2025. Mae'r ffigurau hyn yn gyson ag amcangyfrifon poblogaeth diwygiedig awdurdodau lleol ar gyfer canol 2024 a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2025. Mae rhagor o wybodaeth am yr amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach ar gael ar wefan SYG (Yn agor ffenestr newydd).
Ystadegau lefel gymunedol
Mae'r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar gyfer ardaloedd Cynghorau Cymuned a Thref ar gyfer canol 2022. Mae dadansoddiadau oedran ar gyfer yr ardaloedd hyn ar gael ar gyfer y tri grŵp eang. Mae'r ffeil crynodeb hefyd yn cynnwys amcangyfrifon aelwyd o Gyfrifiad 2021.
Poblogaeth Abertawe CTC canol 2022 (PDF, 333 KB)
Mae mapiau unigol a gwybodaeth bellach am yr ardaloedd cymunedol yn Abertawe ar gael yma.
Os oes gennych fwy o ymholiadau ynghylch amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach yn Abertawe, cysylltwch â ni.
Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.
