Beth gallaf ei ddefnyddio fel prawf i ymaelodi â PIH?
Edrychwch drwy'r tabl isod i bennu pa fath o dystiolaeth y bydd ei hangen arnoch.
Prawf cyfeiriad
Pob ymgeisydd: Gofynnir am brawf o gyfeiriad ar gyfer pob ymgeisydd, e.e. bil cyfleustod neu fil Treth y Cyngor. Yn dilyn cyfarwyddiadau diweddar y Llywodraeth, mae'r llinellau ffôn ar gau dros dro. Os cewch unrhyw anawsterau, e-bostiwch eich ymholiad at pih@abertawe.gov.uk a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosib. Mae gennym nifer mawr o ymholiadau ar hyn o bryd, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.
Prawf o Fudd-daliadau
Gweler isod fanylion ynghylch y math o fudd-dal a pha dystiolaeth sydd ei hangen.
Budd-dal Tai
Nid oes angen cyflwyno tystiolaeth ar gyfer y budd-dal hwn oherwydd bydd Cyngor Abertawe'n ei gwirio.
Budd-dal Treth y Cyngor
Nid oes angen cyflwyno tystiolaeth ar gyfer y budd-dal hwn oherwydd bydd Cyngor Abertawe'n ei gwirio.
Cymhorthdal Incwm
Y llythyr dyfarniad, neu lythyr diweddar yn cadarnhau derbyn budd-dal.
Lwfans Ceiswyr Swydd (yn seiliedig ar incwm)
I brofi Lwfans Ceiswyr Swydd (yn seiliedig ar incwm) mae'n rhaid dangos y llythyr datganiad budd-dal tair tudalen i gyd a roddir pan dderbynnir y budd-dal cyntaf.
Credyd Pensiwn Gwarantedig
Y llythyr dyfarniad neu lythyr diweddar yn cadarnhau derbyn budd-dal.
Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG
Y Llythyr Dyfarniad a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG yn dangos eich bod yn derbyn gofal optegol a deintyddol am ddim.
Credyd Treth Plentyn a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG
Y Llythyr Dyfarniad a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG yn dangos eich bod yn derbyn gofal optegol a deintyddol am ddim.
Credyd Cynhwysol
Y llythyr dyfarnu Credyd Cynhwysol sy'n cadarnhau lefel eich enillion.
Cynllun Incwm Isel y GIG
Y dystysgrif HC2 ar gyfer gofal optegol a deintyddol y GIG am ddim.
17-19 oed mewn addysg llawn amser/hyfforddiant wedi'i enwi ar gais rhieni am fudd-dal
Prawf o statws myfyriwr llawn amser/gynhwysiad ar gynllun hyfforddi a gymeradwywyd (gweler isod) a phrawf eich bod wedi'ch cynnwys ar gais eich rhieni/gwarcheidwaid am fudd-dal:
Wedi cofrestru ar gyfer addysg heblaw addysg uwch:
TGAU a Safon Uwch
NVQ lefel 1, 2 neu 3
Diploma Cenedlaethol BTEC, tystysgrif genedlaethol a Diploma 1af
Tystysgrif Addysg Albanaidd Gradd Uwch neu gyfwerth.
Wedi cofrestru ar gynllun hyfforddiant a gymeradwywyd:
Adeiladu Sgiliau
Prentisiaethau Modern Sylfaenol neu Brentisiaethau Modern
Oedolyn Ifanc a Gynorthwyir
Os ydych chi yn y categori hwn, bydd rhaid i'ch cynrychiolydd Gwasanaethau Cymdeithasol gysylltu â'r Swyddfa PTL i drefnu prawf cymhwyster a mynediad i'r cynllun.
Ceiswyr Lloches
Cerdyn adnabod Swyddfa Gartref y Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches (CCC) neu ffurflen HC2W y GIG neu lythyr caniatâd gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru.
I gael cyngor ar basport i hamdden, gallwch e-bostio pih@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 635353 rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae gennym nifer mawr o ymholiadau ar hyn o bryd, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar