Toglo gwelededd dewislen symudol

Strwythur y Gweithlu a Gweithgarwch Economaidd

Data'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB).

Mae'r ystadegau diweddaraf am strwythur gweithlu Abertawe, gan ddefnyddio data o Arolwg Poblogaeth Blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), yn awgrymu bod cyfraddau gweithgarwch economaidd a chyflogaeth yn Abertawe yn is na chyfartaleddau Cymru a'r DU. Mae canrannau uwch o gyflogaeth yn y sectorau gwasanaethau a chanrannau cyfatebol is ym maes gweithgynhyrchu yn Abertawe. Mae cyfrannau uwch o bobl yn gweithio'n rhan-amser ac mae llai o hunangyflogaeth yn Abertawe na'r cyfartaleddau cenedlaethol. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon yr arolwg yn fwy anwadal ar lefel leol. Mae'r nifer cymharol fawr o fyfyrwyr sy'n byw yn Abertawe hefyd yn cael rhywfaint o effaith ar yr ystadegau.

Tabl 2 Strwythur y Gweithlu - mesurau allweddol (Word doc, 28 KB)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Tachwedd 2025