Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Prosiect YGG Tan-y-lan

Mae Rhaglen Amlinellol Strategol Band B y cyngor, sydd wedi'i chymeradwyo mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan.

Mae'r cyngor hefyd wedi cyflwyno cais am grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg â'r nod o ychwanegu at y cyflwyniad Band B er mwyn cefnogi cyflwyno 0.5 dosbarth mynediad ychwanegol (105 o leoedd), a darparu adeilad newydd â 2 ddosbarth mynediad ar gyfer yr ysgol i wella'r ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol a galluogi cynnydd yn y galw am leoedd. Cafodd y cais ei ailarchwilio a'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru (LlC) mewn egwyddor ym mis Ionawr 2019.

Cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol (ABA) gan LlC ym mis Rhagfyr 2018; cymeradwyodd y Cabinet y cynllun a'r dyfarniad contract ym mis Hydref 2019. Cymeradwywyd yr Achos Busnes Llawn gan LlC ym mis Tachwedd 2019.

Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Abertawe'r cynnig ar 21 Mawrth 2019, gellir gweld manylion hyn yn Ymgynghoriadau AoS2020 Medi 2018 a 17 Hydref 2019: democracy.swansea.gov.uk

Mae'r prosiect cynnwys:

Adeilad newydd ar Heol Beacon's View ar gyfer YGG Tan-y-Lan a fydd yn:

  • Darparu amgylchedd dysgu 21ain ganrif sy'n addas i'r diben ar gyfer disgyblion a staff presennol YGG Tan-y-lan yn unol a Bwletin Adeiladu 99 (BB99).
  • Cynnyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg yn yr ardal leol/Abertawe (hyd at 420 o leoedd amser llawn yn ogystal a Meithrin)
  • Diddymu amod categori C - adeilad
  • Lleihau gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni
  • Gwella effeithlonrwydd adeilad.

 

Y diweddaraf am y cynnydd - Ionawr 2022

  • Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr rhithwir, Mai 2020.
  • Dechrau ar y safle - 6 Gorffennaf 2020.
  • Digwyddiad torri tyweirch - 8 Gorffennaf 2020.
  • Seiliau - Hydref 2020.
  • Waliau cynnal - Hydref 2020.
  • Gosod pyst - Hydref 2020.
  • Gosod sylfeini a'r slabiau - Hydref 2020.
  • Ffrâm ddur wedi'i chwblhau - Rhagfyr 2020.
  • Cymeradwyaeth y Cabinet i newid y dyddiad gweithredu - Rhagfyr 2020: Agenda i'r Cabinet ddydd Iau 17 Rhagfyr 2020, 10.00am Dinas a Sir Abertawe.
  • Gosod carreg goffa'n rhithwir Ionawr 2021.
  • System ffrâm ddur yn ei lle Ionawr 2021.
  • Cwblhau'r Amlen Adeiladu Allanol, Haf 2021.
  • Cwblhau ardaloedd gemau aml-ddefnydd, Haf 2021.
  • Cwblhau'r gwaith gosod mewnol, Hydref 2021.
  • Claddu capsiwl amser, Hydref 2021.
  • Ysgol wedi'i chwblhau a'i thosglwyddo o'r contractwr (Kier), Rhagfyr 2021.
  • Ysgol yn agor i ddisgyblion, Ionawr 2022.
  • Agoriad swyddogol gan Arweinydd Cyngor Abertawe, y Chynghorydd Rob Stewart, 9 Chwefror 2022.

 

Cynnwys rhanddeiliad

Mae barn ein rhanddeiliaid yn hanfodol wrth ddatblygu a llunio prosiectau ac unwaith y bydd prosiect wedi'i gwblhau, mae'n ein helpu i ddeall a wnaethom gyflawni'r hyn yr oeddem yn bwriadu ei wneud, a chael y buddion mwyaf posib.

Community engagement events were held on 5 and 6 December 2.30pm - 6.30pm at Clase Community Centre. 

The first Newsletter was distributed in local area 30 June 2020:  Cylchlythyr Tan-y-Lan Rhif 3 (PDF) [3MB]

Dosbarthwyd rhagor o gylchlythyrau ym mis Medi a mis Tachwedd 2020 i roi'r diweddaraf i breswylwyr lleol am gynnydd y prosiect.

Manteision i'r Gymuned

Gofynnwyd i ddisgyblion o YGG Tan-y-lan a phlant o'r ardal gyfagos ddylunio posteri i'w cynnwys ar hysbysfyrddau'r safle ym mis Mai a Mehefin 2020.

Cymerodd disgyblion o Ysgol Pen-y-Bryn, Ysgol Gynradd y Clâs ac YGG Tan-y-lan ran mewn prosiect 'Gwesty Pryfed' yn hydref 2020.

Yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020, cyflwynodd Kier gyfleoedd lleoliad gwaith 'Rhithwir' i ddisgyblion Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan. Darparodd y lleoliadau hyn fewnwelediad i'r diwydiant adeiladu a'r amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael.

Daeth disgyblion o'r prosiect hwn i'r safle ar 24 Medi 2021.

Cynhaliwyd gweithgareddau ymgysylltu amrywiol gyda'r ysgol yn ystod 2021, gyda Kier ac YGG Tan-y-lan, gan gynnwys ymweliad Adam yn yr Ardd ym mis Ebrill 2021

Ymweliadau staff a disgyblion i'r safle trwy gydol Hydref 2021.

Claddu capsiwl amser, Hydref 2021.

Prosiect YGG Tan-y-lan - amserlen

Mae'r canlynol yn grynodeb o'r cerrig milltir allweddol ar gyfer y prosiect.

Prosiect YGG Tan-y-lan - tîm y prosiect

Y tîm y tu ôl i'r prosiect.
Close Dewis iaith