Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Prosiect YGG Tirdeunaw

Mae Rhaglen Amlinellol Strategol Band B y cyngor a gymeradwywyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2017 yn cynnwys ysgol gynradd newydd a darpariaeth Dechrau'n Deg yn YGG Tirdeunaw.

Ariennir y prosiect hwn ar y cyd gan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.

Ymgymerwyd â phroses ymgynghori ym mis Medi 2018 ar gynnig i gynyddu maint yr ysgol o 2 ddosbarth mynediad (nifer derbyn - 60 o ddisgyblion) i 2.5 dosbarth mynediad (nifer derbyn - 75 o ddisgyblion). Cafodd adolygiad o ddalgylchoedd ysgolion Cymraeg ei gynnwys fel rhan o'r cynnig. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau ffurfiol i'r hysbysiad statudol a chymeradwywyd y cynnig gan Gabinet Cyngor Abertawe yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2019. Mae manylion hyn i'w cael yn: democracy.swansea.gov.uk

Mae'r prosiect yn cynnwys

Adeilad newydd ar safle newydd ar gyfer YGG Tirdeunaw fydd yn:

  • Darparu ysgol newydd ar gyfer YGG Tirdeunaw ar dir yn YGG Bryn Tawe.
  • Darparu amgylchedd dysgu addas at y diben ar gyfer yr 21ain ganrif i YGG Tirdeunaw â lle i 525 o ddisgyblion amser llawn a dosbarth meithrin ar gyfer 75 o blant.
  • Darparu lleoliad priodol ar gyfer darpariaeth Dechrau'n Deg a fydd yn adleoli o'i leoliad presennol ar hen safle Daniel James
  • Gwella trefniadau traffig yn y safle newydd yn Heol Gwyrosydd a darparu lle parcio newydd i fysus a choetsis sy'n gwasanaethu'r ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd.
  • Cynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg yn yr ardal/Abertawe.
  • Dileu amod adeilad categori C.
  • Lleihau gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni.
  • Gwella effeithlonrwydd adeilad.

Y diweddaraf am gynnydd - Ionawr 2022

Ar 14 Medi 2019, dechreuodd gwaith ar yr adeilad ysgol newydd gwerth £11.5 miliwn ar gyfer YGG Tirdeunaw ac ar 3 Tachwedd 2021, yn gynt na'r dyddiad gorffen disgwyliedig, agorodd yr ysgol ei drysau i staff a disgyblion.

Gweithiodd staff yn galed er mwyn paratoi a gosod yr ystafelloedd dosbarth a'r ardaloedd adnoddau dysgu i sicrhau y byddai disgyblion yn ymgartrefu'n gyflym yn eu hadeilad newydd.

Ariannwyd yr adeilad ysgol cyfoes deulawr ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.

Mae'r lleoliad newydd lai na milltir i ffwrdd o'i hen leoliad ond mae bellach yn fwy canolog ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion yr ysgol. Bydd darpariaeth Dechrau'n Deg newydd hefyd ar safle'r ysgol, sef rhaglen y blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant dan 4 oed.

Mae'r ystafelloedd dosbarth newydd yn olau, yn lliwgar ac fe'u dyluniwyd i ddarparu awyrgylch creadigol i ysbrydoli disgyblion i ddysgu a datblygu. Mae hefyd ardaloedd y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol y gall y gymuned eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.

Mae'r adeilad ecogyfeillgar wedi derbyn gradd Ardderchog BREEAM ac mae'r cynllun yn cynnwys dyluniad draenio cynaliadwy, naturiol ac amlswyddogaethol sy'n gwella bioamrywiaeth. Yn unol â menter Sero-Net 2030 Cyngor Abertawe, gosodwyd nifer o bwyntiau gwefru cerbydau trydan (EVCP) ym maes parcio'r ysgol.

Gweithiodd Morgan Sindall yn ddiogel yn ystod y pandemig i gyflwyno'r ysgol ac fel rhan o'r budd cymunedol ehangach, gwnaeth waith hefyd i wella'r ddwy ganolfan gymunedol ym Mhen-lan.

 

Project timeline
Cerrig milltir allweddolMisBlwyddyn
Cais cynllunioMedi2019
Cyfnod tendroHydref - Rhagfyr2019
Adroddiad i'r cabinetIonawr2020
Cymeradwyaeth ariannol llywodraeth cymruChwefror2020
Dyfarnu'r contract adeiladuChwefror/Mawrth2020
Dechrau'r adeiladuMawrth2020
Gwaith yn dechrau ar y priffyrddMehefin2020
Dyddiad dechrau adeiladu'r ysgolMedi2020
Cwblhau adeiladuRhagfyr2021
Y cyfleuster yn agor i ddisgyblionYn gynnar2022

 

Tîm Prosiect

Y tîm y tu ôl i'r prosiect

Enw

Teitl

Mrs J JamesPennaeth
Alayne SmithRheolwr Datblygu Achos Busnes yr Ysgol
Sarah ReesSwyddog Cefnogi'r Prosiect
Darrel BarnesRheolwr Dylunio Pensaerniol
Powell Dobson ArchitectsRheolwr Dylunio Pensaerniol
Nigel HawkinsRheolwr Prosiectau a Chaffael
Andrew BullerUwch-syrfew Meintiau
Peter RogersSwyddog Adeiladu, Dylunio a Rheoli
Ron McLeanUwch-reolwr Prosiect - AECOM
Antony Davies / Charlotte BalcombePenseiri - Powell Dobson Architects.
Close Dewis iaith