Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Casglu sachau pinc

Gallwch ddefnyddio sachau pinc ar gyfer plastigion. Rydym yn eu casglu yn ystod eich wythnos binc.

Pink recycling bag.
Mae gan y rhan fwyaf o cartrefi yn Abertawe fagiau pinc ailddefnyddiadwy ar gyfer eu casgliadau ailgylchu plastig erbyn hyn. Mae rhai ardaloedd ac aelwydydd sydd dal yn gorfod defnyddio'r bag plastig pinc defnydd untro oherwydd y math o gerbyd a ddefnyddir i'w gwasanaethu.

Cesglir y plastigion o'r bagiau hyn gan gerbydau gwahanol a chânt eu prosesu ar wahân felly mae'n bwysig defnyddio'r bagiau a roddwyd i chi a chyfarwyddyd iddynt yn unig neu efallai na chaiff eich plastig ei gasglu. 

Er mwyn sicrhau y cesglir eich sachau ar gyfer ailgylchu:

Beth i'w roi yn y sachau

Diolch yn fawr

Gallwch roi'r holl eitemau canlynol gyda'i gilydd yn eich bag pinc ailddefnyddiadwy:

  • poteli plastig gan gynnwys poteli dŵr, poteli llaeth, poteli pop, poteli siampŵ, etc
  • hambyrddau bwyd plastig glân
  • caeadau a chapiau poteli plastig rhydd
  • tybiau marjarîn/hufen iâ plastig
  • potiau iogwrt plastig 
  • tiwbiau past dannedd gwag (gadewch unrhyw gaeadau)

Dim diolch

Peidiwch â rhoi'r eitemau canlynol yn eich bag pinc ailddefnyddiadwy:

  • bagiau plastig a bagiau cario
  • papur swigod
  • haenen lynu
  • pecynnau creision a phapurau siocledi â thu mewn plastig wedi'i feteleiddio (sgleiniog)
  • eitemau brwnt
  • eitemau trydanol
  • caeadau ffilm (fel o brydau bwyd microdon)
  • potiau blodau
  • eitemau mawr (megis dodrefn gardd)
  • teganau plastig
  • eitemau plastig caled iawn e.e. basgedi golchi dillad a bowlenni golchi llestri
  • polystyren

Er nad oes modd ailgylchu'r eitemau hyn fel rhan o'ch casgliad ar ymyl y ffordd, efallai y gallwch eu hailgylchu yn un o'n canolfannau ailgylchu neu yn rhywle arall: Lleoliadau ailgylchu eraill

Plastig meddal elastig

Ni chaiff eitemau plastig meddal, fel bagiau siopa a haenen lynu, eu derbyn mewn bagiau/sachau pinc gyda photeli, tybiau a hambyrddau plastig. Os rydych am roi'r rhain mewn unrhyw sach yn eich cartref, rhaid eu rhoi yn y sach ddu. 

Fodd bynnag, gellir ailgylchu rhai eitemau plastig meddal gan gynnwys bagiau siopa, pecynnau bara, bagiau rhewgell, pecynnau creision a deunydd lapio os ydych chi'n mynd â nhw i'r banciau penodol mewn archfarchnadoedd mawr.

Lleoliadau ailgylchu eraill