Toglo gwelededd dewislen symudol

Sicrhau Hawliau Plant!

Cynllun i helpu Cyngor Abertawe i roi hawliau plant wrth wraidd ei benderfyniadau.

Cyfranogiad

Mae hyn yn...

Sicrhau bod trefniadau o ansawdd dda ar waith i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, a bod eu barnau'n cael eu clywed, wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Byddwn yn gwneud y canlynol...

  • Cynnwys plant yn uniongyrchol yng nghamau dylunio, monitro a gwerthuso'r gwasanaethau maent yn eu derbyn.
  • Dysgu sut mae sefydliadau eraill yn gwneud hyn a datblygu cynlluniau sy'n diwallu anghenion plant a phobl ifanc yn Abertawe.
  • Datblygu targedau clir i wrando ar blant a phobl ifanc o grwpiau ar y cyrion.
  • Cynnwys plant wrth recriwtio staff y mae ganddynt gyfrifoldebau sy'n effeithio ar blant.
  • Mabwysiadu'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc i sicrhau bod profiad plant wrth gymryd rhan yn un o safon.

Grymuso

Mae hyn yn...

Hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc fel eu bod yn teimlo y gallant eu harfer.

Byddwn yn gwneud y canlynol...

  • Rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen ar blant i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt (e.e. adroddiadau iaith syml).
  • Rhoi cyfleoedd y mae eu hangen ar blant i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt (e.e. cyfleoedd i graffu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau e.e. rhoi cyfle i grŵp o bobl ifanc ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau allweddol).
  • Meithrin perthnasoedd â grwpiau o bobl ifanc i ganiatáu iddynt graffu ar waith yn gyson. E.e grwpiau/fforymau ieuenctid, neu gallech ystyried creu eich grŵp ieuenctid eich hun.
  • Rhoi'r wybodaeth neu'r hyfforddiant y mae eu hangen ar blant er mwyn iddynt wneud hyn yn gywir.

Gwreiddio

Mae hyn yn...

Rhoi systemau ar waith i sicrhau, pan fydd y cyngor yn gwneud penderfyniadau, ei fod yn gallu nodi a dangos tystiolaeth o sut mae wedi meddwl am effaith ei benderfyniad ar hawliau plant.

Mae hyn hefyd yn golygu sicrhau bod y rheini sy'n gweithio gyda phenderfyniadau, neu'r rheini sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, yn deall y CCUHP a sut mae eu gwaith yn effeithio ar hawliau plant.

Byddwn yn gwneud y canlynol...

  • Sicrhau bod gan arweinwyr a staff wybodaeth dda am hawliau plant (CCUHP) a'u helpu i ddeall sut y gall fod o fudd i waith ein sefydliad.
  • Defnyddio ein hadnoddau i gyflwyno hyfforddiant ar hawliau plant.
  • Sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr sy'n gyfrifol am hyrwyddo hawliau plant a gosod targedau ar gyfer sut i wreiddio hawliau plant ym mhob agwedd o'n gwaith.
  • Sicrhau bod adnoddau AD/ariannol ar gael i gefnogi a hyrwyddo hawliau plant.

Atebolrwydd

Mae hyn yn...

Cael systemau ar waith i adrodd ar yr hyn rydym yn ei wneud i wireddu hawliau plant yn Abertawe.

Byddwn yn gwneud y canlynol...

  • Cyhoeddi diweddariad blynyddol hygyrch sy'n dangos sut rydym wedi gweithio tuag at wireddu hawliau plant yn Abertawe.
  • Rhoi adborth rheolaidd i blant mewn fformat addas.
  • Darparu gwybodaeth hygyrch i blant am sut i ddarparu adborth ar yr hyn rydym yn ei wneud yn dda neu'r hyn y gallem ei wella, cwynion neu dal staff i gyfrif.
  • Cyhoeddi diweddariad blynyddol hygyrch yn dangos sut rydym wedi gweithio i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn Abertawe yn cael ei chwrdd.

Peidio â gwahaniaethu

Mae hyn yn...

Gwneud ymdrechion arbennig i sicrhau bod plant a phobl ifanc a allai fod yn llai tebygol o ddefnyddio'u hawliau yn cael cyfle cyfartal i allu gwneud hynny.

Byddwn yn gwneud y canlynol...

  • Sicrhau bod gan staff yr wybodaeth ddiweddaraf am y Ddeddf Cydraddoldeb a'u bod yn derbyn hyfforddiant rheolaidd i gynyddu eu hymwybyddiaeth o anghenion gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc.
  • Defnyddio Asesiad Effaith Hawliau Plant i ystyried sut y gallai penderfyniadau unigol (e.e. prosiectau/gwasanaethau) effeithio ar wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc.
  • Defnyddio'r wybodaeth sydd gennym am anghenion plant a phobl ifanc i ystyried a yw ein gwasanaethau'n cyrraedd yr holl grwpiau pobl ifanc.
  • Darparu gwybodaeth i blant mewn iaith neu fformat sy'n addas ar gyfer eu hoedran a'u haeddfedrwydd, eu diwylliant neu eu hanabledd.
Close Dewis iaith