Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut caiff eich budd-dal ei dalu?

Dysgwch sut y byddwch yn derbyn unrhyw fudd-daliadau y gallwch eu hawlio gennym ni.

Sut mae Gostyngiad Treth y Cyngor yn cael ei dalu?

Os ydych yn derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor, ni fyddwch fel arfer yn derbyn hwn fel taliad gwirioneddol. Yn hytrach, bydd y swm a ddyfernir i chi'n cael ei ddefnyddio i leihau swm treth y cyngor y mae'n rhaid i chi ei dalu.

Sut caiff Budd-dal Tai ei dalu?

Os oes hawl gennych i dderbyn Budd-dal Tai, yna gellir talu hwn mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan ddibynnu ar y math o eiddo rydych yn byw ynddo. Efallai y bydd eich taliad cyntaf yn fwy na'r swm arferol oherwydd ei fod yn cynnwys ôl-daliad o'r dyddiad y dechreuodd eich hawl.

Tenantiaid y cyngor/deiliaid contract

Os ydych yn tenant y cyngor/deiliad contract, caiff eich Budd-dal Tai ei dalu i'ch cyfrif rhent unwaith yr wythnos. Bydd unrhyw fudd-dal yr ydych yn ei dderbyn yn cael ei ddidynnu oddi ar eich rhent llawn gan adael llai o rent, neu ddim rhent, i chi ei dalu. Bydd eich swyddfa dai ranbarthol leol yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am swm y rhent sydd ar ôl i chi ei dalu.

Tenantiaid preifat/deiliaid contract

Y ffordd fwyaf diogel i ni dalu Budd-dal Tai i denantiaid preifat/deiliaid contract yw trwy gredyd uniongyrchol i'ch cyfrif banc. Os hoffech i'ch Budd-dal Tai gael ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen isod a'i hanfon drwy e-bost i Budd-daliadau@abertawe.gov.uk.

Cais i Fudd-dal Tai gael ei dalu i gyfrif banc neu cymdeithas adeiladu (PDF) [35KB]

Caiff y rhan fwyaf o denantiaid preifat/deiliaid contract eu talu bob pythefnos, fel ôl-ddyledion. Os ydych yn cael eich talu drwy gredyd uniongyrchol i'ch cyfrif banc (BACS), bydd eich arian yn cyrraedd eich cyfrif bob yn ail ddydd Mercher.

Os ydym yn anfon siec atoch, dylai eich cyrraedd bob yn ail ddydd Iau.

Taliadau uniongyrchol i landlordiaid

Os ydych yn un o'r nifer bach o bobl y mae eu Budd-dal Tai'n cael ei dalu'n uniongyrchol i'w landlordiaid, caiff ei dalu bob pedair wythnos drwy ôl-ddyledion. Mae hyn yn cynnwys pobl y mae eu landlordiaid yn Gymdeithasau Tai. 

I'r rhan fwyaf o bobl mewn eiddo a rentir yn breifat, ni ellir talu Budd-dal Tai'n uniongyrchol i'r landlordiaid oni bai fod yr hawliwr yn methu rheoli ei faterion ariannol, yn annhebygol o dalu ei rent neu y mae ganddo ôl-ddyledion rhent o 8 wythnos neu fwy.

Cyngor ar fudd-daliadau os ydych yn landlord Cyngor ar fudd-daliadau os ydych yn landlord