Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffyrdd o dalu rhent y cyngor

Mae sawl ffordd wahanol o dalu'ch rhent i'r cyngor.

Debyd Uniongyrchol

Y ffordd hawsaf o dalu yw trwy ddebyd uniongyrchol wythnosol neu fisol, a fydd yn dod allan o'ch cyfrif banc yn awtomatig.

Cwblhewch:  Ffurflen Debyd Uniongyrchol (rent tai cyngor) (PDF) [47KB] a'i dychwelyd i'r Tîm Rhenti

 

Ar-lein

Talu'ch rhent y cyngor ar-lein Talu'ch rhent y cyngor ar-lein

 

Trosglwyddiad banc

Gallwch dalu'ch bil yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyngor. Cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfrif neu ni fyddwn yn gallu talu'r arian i'ch cyfrif. Cysylltwch â ni os nad ydych yn adnabod y rhif hwn.

Lloyds Bank PLC, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe, SA1 3AF.

Côd didoli 30-00-00
Rhif y cyfrif 00283290

 

Cerdyn talu mewn Swyddfa Bost neu Payzone

Gofynnwch i'ch swyddog rhenti am gerdyn talu fel y gallwch dalu yn unrhyw Swyddfa Bost neu unrhyw siop sydd â logo Payzone - Chwilio am siopau Payzone.

Ni fydd unrhyw daliadau a wneir gan ddefnyddio'ch cerdyn talu ar ddydd Iau neu ddydd Gwener yn ymddangos tan yr wythnos ganlynol.

 

Dros y ffôn

Os ydych yn gwybod eich cyfeirnod rhent, gallwch ffonio'n gwasanaeth awtomataidd ar unrhyw adeg.

Cymraeg - 0300 456 2775

Saesneg - 0300 456 2765

Os nad ydych yn gwybod eich cyfeirnod rhent, ffoniwch 534094 yn ystod oriau swyddfa.

 

Swyddog rhenti

Gallwch ffonio'r Tîm Rhenti yn ystod yr oriau swyddfa a thalu â Visa, Mastercard, Maestro neu Electron. 

 

Swyddfeydd tai ardal

Talu mewn unrhyw swyddfa dai ardal.

Sylwer: dim ond gyda cherdyn debyd a chredyd y gallwch chi dalu.

 

Canolfan Ddinesig

Gellir hefyd gwneud taliadau yn y Ganolfan Ddinesig.

 

Yn syth o'ch cyflog (gweithwyr y cyngor yn unig)

Gall gweithwyr Cyngor Abertawe sydd â thenantiaeth y cyngor dalu eu rhent yn syth o'u cyflog:  Ffurflen didynnu rhent o gyflog (PDF) [207KB]

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Gorffenaf 2024