Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio

Mae hawl gan unrhyw un i gyflwyno sylwadau am gais cynllunio.

Gallwch wneud sylw ar gais cynllunio drwy'r ddolen chwilio am gais cynllunio. Chwliwch am rif y cais a chliciwch ar y ddolen 'gwneud sylw'.

Fel arfer rydym yn caniatáu 21 diwrnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o'r dyddiad y caiff y cais ei gyhoeddi.

Gellir cyflwyno sylwadau'n ysgrifenedig i'r tîm rheolaeth cynllunio.

Dylid cyflwyno sylwadau yn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad safle/i'r wasg.

Sylwer nad yw'r cyngor yn derbyn sylwadau dienw am geisiadau cynllunio. Ni chaiff sylwadau dienw a dderbynnir eu hystyried wrth werthuso'r cais.

Wrth asesu ceisiadau cynllunio, yr unig sylwadau y gallwn eu hystyried yw'r rhai sy'n ymwneud ag ystyriaethau cynllunio perthnasol ac nid y rhai sy'n seiliedig ar bethau nad yw pobl yn eu hoffi, cwynion, materion nad ydynt yn ymwneud â chynllunio sy'n gysylltiedig â hawliadau niwsans neu anghydfodau cyfreithiol etc.

Gall enghreifftiau o ystyriaethau materol gynnwys:

  • lleoliad, dyluniad a golwg allanol y datblygiad arfaethedig (e.e. uchder neu faint mewn perthynas ag eiddo cyfagos)
  • colli golau'r haul neu olau dydd
  • colli preifatrwydd
  • tebygolrwydd o sŵn gormodol, neu fygdarthau
  • digonolrwydd trefniadau parcio a mynediad arfaethedig
  • effaith traffig ychwanegol
  • effaith ar goed
  • tirweddu a chynigion ar gyfer triniaeth i ffiniau (waliau a ffensys)

Mae gwrthwynebiadau, nad ydynt yn ymwneud â chynllunio'n gyffredinol ac na ellir eu hystyried, fel arfer yn cynnwys:

  • effaith ar werth eiddo
  • effaith ar sefydlogrwydd adeileddol (gall hyn gael ei gynnwys yn y Rheoliadau Adeiladu)
  • sŵn, aflonyddwch neu anghyfleustra o ganlyniad i waith adeiladu (cynhwysir hyn yn y Ddeddf Rheoli Llygredd)
  • anghydfodau'n ymwneud â ffiniau (gan gynnwys problemau cytundebau waliau cydrannol)
  • cyfamodau cyfyngu (gan gynnwys hawliau i oleuni)
  • gwrthwynebiad i gystadleuaeth fusnes
  • amgylchiadau personol yr ymgeisydd (oni bai y gellir dangos eu bod yn berthnasol o ran termau cynllunio e.e. darparu cyfleusterau i'r anabl)
  • gwrthwynebiad i egwyddor datblygiad y mae caniatâd cynllunio amlinellol wedi'i roi iddo eisoes.