Toglo gwelededd dewislen symudol

Taith gerdded Parc Singleton

Pellter: 2.1 milltir /3.4km

Parc Singleton yn Sgeti yw'r parc trefol mwyaf yn Abertawe. Mae Gardd Fotaneg yng nghanol y parc. Mae gan y gerddi samplau gwych o blanhigion prin ac egsotig o bedwar ban byd a phedwar tŷ gwydr tymherus. Bydd y daith gerdded hon yn mynd â chi drwy'r Gerddi Botaneg, felly beth am gael seibiant ar y daith i ymweld â'r tai gwydr? Mae mynediad am ddim. Mae palmant ar hyd y llwybr ac mae taith gerdded i fyny'r rhiw i'w chwblhau wrth y man cychwyn. Fel arall, gallwch gerdded o'r parc ar Heol y Mwmbwls lle mae gwasanaeth bws rheolaidd. Mae toiledau ar gael yn y parc ac mae lluniaeth ar gael gerllaw.

Man dechrau a gorffen

Mynediad i Barc Singleton ar Heol Gŵyr

Sut i gyrraedd

Mae lleoedd parcio ar y stryd ar gael gerllaw a pharcio i'r anabl ar gael yng Ngerddi Botaneg Singleton. Mae safle bws gerllaw

Cyfleusterau

Mae toiledau ar gael yn y parc ac mae lluniaeth ar gael gerllaw.

Taith gerdded Parc Singleton (PDF) [169KB]