Taliad uniongyrchol
Trefnu eich cefnogaeth eich hun gyda thaliad uniongyrchol.
Os ydych yn gymwys am gymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, efallai bydd yn well gennych chi drefnu eich cymorth eich hun. Gall hyn roi mwy o hyblygrwydd, dewis a rheolaeth i chi. Efallai y gallwn gynnig taliad i chi er mwyn hwyluso hyn, sef taliad uniongyrchol.
Cyn y gallwch dderbyn taliad uniongyrchol fe fydd yn rhaid i chi gael eich hasesu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a bod yn gymwys i dderbyn y gwasanaethau.
Gall taliad uniongyrchol gynyddu'ch annibyniaeth a'ch dewis drwy roi'r rheolaeth i chi brynu a rheoli eich cymorth eich hun er mwyn diwallu'ch anghenion gofal a chymorth a aseswyd. Er enghraifft, gallech:
- gyflogi rhywun yn uniongyrchol i'ch helpu gyda'ch gofal (cynorthwy-ydd personol);
- prynu cymorth gan asiantaeth gofal cofrestredig preifat;
- gwneud eich trefniadau eich hun yn hytrach na defnyddio gofal dydd neu gofal seibiant y Gwasanaethau Cymdeithasol;
- brynu cymorth gan ficrofentr;
- prynu cyfarpar;
- prynu technoleg gynorthwyol.
Mae'n bosib darparu rhai o'ch anghenion gofal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a trefnu eraill eich hun gan ddefnyddio taliad uniongyrchol.
Pwy sy'n gallu cael taliad uniongyrchol?
Gellir cynnig taliadau uniongyrchol i bawb bron sy'n gymwys i dderbyn Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. Mewn rhai achosion prin, gall Gorchmynion Llys sy'n ymwneud â dibyniaeth ar gyffuriau/alcohol olygu nad yw Taliad Uniongyrchol yn bosib.
Gall dergyn taliad uniongyrchol o 16 oed. Nid oes cyfyngiad oed uchaf. Gall rhiant neu ofalwr dderbyn taliad uniongyrchol i gefnogi plentyn dan 18 oed.
Sut ydw i'n derbyn taliad uniongyrchol?
I dderbyn taliad uniongyrchol, mae angen i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gwblhau asesu eich anghenion gofal neu gefnogaeth yn y lle gyntaf.
Os asesir eich bod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau ac rydych yn dewis derbyn taliad uniongyrchol, bydd eich gweithiwr cymdeithasol neu'ch swyddog rheoli gofal yn trafod y canlyniadau personol yr hoffech eu cyflawni â chi.
Gellir datblygu cynllun i fynd i'r afael â'ch anghenion gofal a chymorth ochr yn ochr â phobl sy'n bwysig i chi, gyda'r nod o ddiwallu'r anghenion hynny drwy daliad uniongyrchol.
Ar ôl cytuno ar y cynllun, bydd ymgynghorydd o'r tîm cefnogi taliadau uniongyrchol yn eich cefnogi i drefnu taliad uniongyrchol ac yn darparu cyngor ynghylch sut i reoli'r trefniant hwn.
Os ydych eisoes yn derbyn gwasanaethau, gallwch ddewis defnyddio taliad uniongyrchol ar unrhyw bryd. Siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol neu'ch swyddog rheoli gofal.
Os ydych wedi cael gwybod nad ydych yn gymwys i dderbyn gwasanaeth, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn taliad uniongyrchol.
Wneud cais am asesiad o eich angen gofal neu chefnogaeth Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion