Taliad Uniongyrchol
Trefnu eich cefnogaeth eich hun gyda Thaliad Uniongyrchol
Taliadau Uniongyrchol a Covid-19
Mae'r Tîm Taliadau Uniongyrchol wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch defnyddio Taliadau Uniongyrchol a chyfraith cyflogaeth yn ystod pandemig Covid-19:
-
Taliadau Uniongyrchol a Covid-19: Cwestiynau Cyffredin (PDF, 129KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol (PDF, 19KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Os ydych chi yn gymwys am gymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, efallai bydd yn well gennych chi drefnu eich cefnogaeth eich hun, yn hytrach na derbyn y gwasanaethau a ddarperir neu a drefnwyd gennym ni er mwyn cael mwy o hyblygrwydd, dewis neu reolaeth. Mae'n bosib y gallwn ni wneud taliad i chi a fydd yn eich galluogi i wneud hyn. Gelwir hyn yn Daliad Uniongyrchol.
Cyn y gallwch dderbyn Taliad Uniongyrchol fe fydd yn rhaid i chi gael eich hasesu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a bod yn gymwys i dderbyn y gwasanaethau.
Mae Taliad Uniongyrchol yn cynyddu eich annibyniaeth a'ch dewis trwy roi reolaeth i chi brynu a rheoli eich cefnogaeth eich hun er mwyn cwrdd â'r anghenion a nodwyd yn eich asesiad. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n:
- cyflogi rhywun yn uniongyrchol i'ch helpu gyda'ch gofal (Cynorthwy-ydd Personol)
- prynu gofal oddi wrth asiantaeth ofal breifat gofrestredig
- gwneud eich trefniadau eich hun yn hytrach na defnyddio gofal dydd neu gofal seibiant y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae'n bosib darparu rhai o'ch anghenion gofal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a trefnu eraill eich hun gan ddefnyddio Taliad Uniongyrchol.
Mwy o wybodaeth am Daliad Uniongyrchol
Am fwy o wybodaeth ewch i Rheoli'ch cefnogaeth gyda Thaliadau Uniongyrchol (Ffeithlen 003). Hefyd gallwch lawrlwytho/argraffu'r wybodaeth hon ar ffurf ffeithlen
/opt/www/content/media/pdf/Rheoli eich cefnogaeth gyda Thaliadau Uniongyrchol (Ffeithlen 003) (PDF, 107KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Gweler Enghreifftiau o Daliadau Uniongyrchol am fwy o syniadau sut i ddefnyddio Taliad Uniongyrchol.
Mae gennym hefyd Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am Daliadau Uniongyrchol.
Ffeithlen ar gyfer bobl sy'n ystyried defnyddio taliad uniongyrchol i brynu gofal gan asiantaeth gofal cartref
Gwybodaeth am Asiantaethau Gofal Cartref i Bobl sy'n Defnyddio Taliadau Uniongyrchol (Ffeithlen 046) (PDF, 48KB)Yn agor mewn ffenest newydd