Amodau a thelerau Pasbort i Hamdden
Amodau a thelerau'r cynllun Pasbort i Hamdden.
Y broses ymgeisio, data a chymhwystra
Mae Pasbort i Hamdden ar gael i'r preswylwyr hynny sy'n byw y tu mewn i ffiniau Dinas a Sir Abertawe ac sy'n gymwys yn ôl un o'r categorïau.
Codir ffi o £3 ar gyfer pob cerdyn. Yr ymgeisydd (neu ei riant/warcheidwad) sy'n gyfrifol am sicrhau ei fod yn gymwys i wneud cais am Basbort i Hamdden cyn i'r ffurflen gael ei llenwi a'i chyflwyno, a chyn i daliad gael ei wneud. Mae'r taliad at ddibenion gweinyddu'r cais ac ni ellir ei ad-dalu hyd yn oed os na chyflwynir cerdyn Pasbort i Hamdden.
Ar ôl gwirio cais yr ymgeisydd a chadarnhau ei fod yn gymwys, anfonir cerdyn aelodaeth Pasbort i Hamdden at bob ymgeisydd drwy'r post. Pan fydd yr ymgeisydd wedi cael y cerdyn hwn (cyn pen 10 niwrnod gwaith fel arfer), bydd yn gallu elwa o'r cynllun (drwy gael cyfraddau rhatach, er enghraifft).
Mae aelodaeth yn ddilys am 12 mis o'r dyddiad cyflwyno, ac mae'n dod i ben ar y dyddiad a ddangosir ar y cerdyn. Ni ellir cyflwyno cais arall am aelodaeth yn gynt na phythefnos cyn y dyddiad dod i ben.
Bydd cyflwyno cais yn gyfystyr â chysyniad gan bob ymgeisydd (neu ei riant/warcheidwad) y gellir gwirio ffynonellau data sydd gan Gyngor Abertawe i gadarnhau ei fod yn gymwys.
Os na cheir ymateb i gais am ragor o wybodaeth i ategu'r cais cyn pen un mis calendr, ystyrir bod y cais yn anghyflawn a chaiff ei ddileu o'r system.
Gellir ychwanegu partner neu blentyn unrhyw bryd yn ystod cyfnod aelodaeth y prif ymgeisydd. Daw ei aelodaeth i ben ar yr un pryd ag y daw aelodaeth y prif ymgeisydd i ben.
Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu wrth gyflwyno cais am Basbort i Hamdden. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio er mwyn darparu'r gwasanaeth rydych wedi cyflwyno cais amdano ac ni fydd yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd penodol oni bai fod yn rhaid i ni wneud hynny neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch data fel un sy'n seiliedig ar ganiatâd. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, darllenwch ein polisi preifatrwydd corfforaethol.
Defnyddio eich Pasbort i Hamdden
Dim ond deiliad y cerdyn Pasbort i Hamdden a all ddefnyddio'r cerdyn.
Mae'r cerdyn Pasbort i Hamdden yn caniatáu i ddeiliad y cerdyn, y mae ei ffotograff yn ymddangos arno, elwa o fuddion cynllun Pasbort i Hamdden Cyngor Abertawe, yn unol â'r amodau a'r telerau hyn.
Gellir defnyddio Pasbort i Hamdden ym mhob cyfleuster sy'n cyfranogi yn y cynllun - gellir cael y manylion gan y cyfleusterau unigol.
Mae'n rhaid cyflwyno cerdyn Pasbort i Hamdden yn swyddfa docynnau'r cyfleuster hamdden bob tro y caiff ei ddefnyddio, er mwyn cael gostyngiad.
Mae Pasbort i Hamdden yn rhoi hawl i aelodau drefnu un sesiwn arferol ar unrhyw adeg benodol. Gellir trefnu i ddefnyddio cyfleuster eto ar ddiwedd sesiwn, os yw ar gael, ac os yw'r ail sesiwn at ddefnydd penodol yr aelod yn unig. Bydd trefniadau cadw lle arferol yn berthnasol.
Camddefnyddio'r cynllun Pasbort i Hamdden
Os bydd rhywun yn ceisio defnyddio cerdyn Pasbort i Hamdden rhywun arall neu gerdyn sydd wedi dod i ben, caiff y cerdyn hwn ei atafaelu wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i'r mater.
Os bydd rhywun yn camddefnyddio'r cynllun mewn unrhyw ffordd, caiff ei wahardd yn barhaol rhag cael Pasbort i Hamdden yn y dyfodol, a gall wynebu camau eraill gan y cyngor.
Bydd darparu gwybodaeth anghywir gyda'r bwriad o dwyllo'r cyngor yn arwain at fforffedu cerdyn Pasbort i Hamdden aelod a gall olygu camau gweithredu eraill gan y cyngor.
Mae Cyngor Abertawe'n cadw'r hawl, yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt, i ddiddymu Pasbort i Hamdden rhywun, a'i atal rhag elwa ar ei fuddion, os nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau, neu os nad yw'n glynu wrth yr holl drefniadau sy'n berthnasol i'r cynllun.
Adnewyddu aelodaeth / cardiau a gollir
I adnewyddu eu haelodaeth, mae angen i aelodau gyflwyno tystiolaeth sy'n dangos eu bod yn gymwys hyd at bythefnos cyn i'w cerdyn presennol ddod i ben.
Cedwir gwybodaeth am aelod am chwe mis ar ôl y dyddiad dod i ben er mwyn caniatáu ar gyfer ymholiadau aelod ac iddo adnewyddu ei aelodaeth.
Os bydd deiliad cerdyn Pasbort i Hamdden yn colli neu'n difrodi ei gerdyn, neu os bydd ei gerdyn yn cael ei ddwyn, gall wneud cais am gerdyn arall, ar yr amod nad yw ei amgylchiadau wedi newid, i swyddfa'r cynllun Pasbort i Hamdden drwy e-bostio PTL@abertawe.gov.uk. Codir ffi ymgeisio am bob cerdyn newydd. Bydd gan y cerdyn newydd yr un dyddiad dod i ben â'r cerdyn gwreiddiol.