
Ydych chi'n gymwys ar gyfer Pasbort i Hamdden?
Ar gael i breswylwyr Dinas a Sir Abertawe.
Os ydych yn breswylydd yn Ninas a Sir Abertawe, mynnwch weld a ydych yn gymwys ar gyfer Pasbort i Hamdden.
Dilynwch y rhestr wirio syml hon i weld a allwch ddechrau arbed arian heddiw! Os ydych chi'n ateb YDW i unrhyw un o'r cwestiynau hyn gallwch gyflwyno cais am PIH.
- Budd-dal Tai
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Chwilio am Waith sy'n Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) sy'n Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn Gwarantedig
- Credyd Treth Gwaith ac yn meddu ar gerdyn/tystysgrif eithrio credyd treth GIG cyfredol
- Credyd Treth Plant ac yn meddu ar gerdyn/tystysgrif eithrio credyd treth neu GIG cyfredol
- Aelod o gynllun incwm isel y GIG ac yn meddu ar Dystysgrif HC2 gyfredol
- Partner i rywun sy'n hawlio un o'r budd-daliadau uchod ac yn byw yn yr un cyfeiriad ac wedi'ch cynnwys yn eu hawliad am fudd-dal
- O dan 17 oed ac yn ddibynnydd rhiant/gwarchodwr sy'n derbyn un o'r budd-daliadau uchod
- 17-19 oed ac mewn addysg amser llawn (statws nid uwch) neu wedi cofrestru ar gwrs hyfforddi ac wedi'ch cynnwys ar gais budd-dal eich rhieni/gwarcheidwad
- Oedolyn ifanc (o dan 20 oed) sydd mewn addysg amser llawn neu wedi'ch cofrestru ar gwrs hyfforddi ac yn cael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
- Credyd cynhwysol - Os oedd eich enillion yn ystod eich asesiad diwethaf yn:
- £435 neu lai
- £935 neu lai, os ydych yn cael elfen ar gyfer plentyn neu os yw'ch gallu i weithio'n gyfyngedig
Os ydych yn rhiant maeth neu'n geisiwr lloches gallech hefyd fod yn gymwys. I gael cyngor ar basport i hamdden, gallwch e-bostio pih@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 635353 rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae gennym nifer mawr o ymholiadau ar hyn o bryd, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.
Mae'r llyfryn Pasbort i Hamdden yn cynnwys ffurflen gais PIH ac mae'r llyfryn ar gael yn nifer o lleoliadau yn Abertawe.
Neu, gallwch printio'r ffurflen gais isod. Cwblhewch y ffurflen gais ac unwaith mae wedi'i cwblhau gallwch fynd a'r ffurflen i yn Abertawe.
Sut rydw i'n gwneud cais am PIH?