Tueddiadau Poblogaeth Diweddar
Dadansoddiad o newid demograffig tymor hwy yn Abertawe gan ddefnyddio'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn.
Cyflwyniad
Cyhoeddwyd yr amcangyfrifon swyddogol diweddaraf o boblogaethau ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, ar gyfer canol 2024, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar 30 Gorffennaf 2025. Dyma'r pedwerydd tro i'r amcangyfrifon gael eu cyhoeddi yng nghanol blwyddyn ers Cyfrifiad 2021. Mae amcangyfrif canol 2024 yn dangos bod poblogaeth Abertawe, sef 251,300, wedi cynyddu 2,300 (+0.9%) ers canol 2023, ac mae 12,100 (+5.0%) yn uwch na'r cyfanswm yng nghanol 2014.
Rhwng Cyfrifiadau, mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth blynyddol sy'n ymwneud â chanolbwynt y flwyddyn (30 Mehefin). Yn hanesyddol, cyfrifir yr amcangyfrifon hyn drwy ddefnyddio'r Cyfrifiad dengmlwyddol fel meincnod, a chyfuno data cofrestriadau genedigaethau a marwolaethau dilynol gydag amcangyfrifon o lif mudo mewnol (o fewn y DU) a llifoedd mudo rhyngwladol. Gellir nodi tueddiadau poblogaeth tymor hwy dangosol drwy ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol (gan gynnwys Abertawe), sydd ar gael yn ôl i 1981.
Yn unol ag arfer sefydledig yn dilyn pob Cyfrifiad, pennodd y SYG sylfaen newydd ar gyfer yr amcangyfrifon canol blwyddyn o 2012 i 2021, ond nid 2011 na chynt, ochr yn ochr â chyhoeddi canlyniadau canol 2022 yn wreiddiol. Ar gyfer y cyhoeddiad diweddaraf (data canol 2024), mae amcangyfrifon gwreiddiol canol 2022 a chanol 2023 hefyd wedi'u diwygio i ystyried yr amcangyfrifon diweddaraf o fudo mewnol a rhyngwladol. Mae'r dadansoddiad hwn yn adlewyrchu'r amcangyfrifon diweddaraf, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau.
Tueddiadau poblogaeth tymor hir
Mae'r duedd tymor hir swyddogol o ran poblogaeth amcangyfrifedig Abertawe ers 2001 i'w gweld yn y graff llinell yn Ffigwr 1. Mae hyn yn cynnwys poblogaeth Abertawe a gofnodwyd gan y tri Chyfrifiad o 2001 a llinell duedd sy'n dangos amcangyfrifon canol blwyddyn hyd at 2024.
Ffigur 1: Newid ym mhoblogaeth Abertawe 2001-2024 (Word doc, 122 KB)
Roedd cyfanswm y boblogaeth yng nghanlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 oddeutu 8,100 (3.3%) yn is na'r amcangyfrif gwreiddiol (cyn y Cyfrifiad) canol 2020 ar gyfer Abertawe, a thua 500 (0.2%) yn is na ffigur Cyfrifiad 2011. Felly, gan eu bod yn is na'r llinell duedd flaenorol, gwnaeth canlyniadau Cyfrifiad 2021 awgrymu bod y tueddiadau twf tybiedig yn Abertawe yn anghywir. Mae'r llinell duedd tymor hir a ddangosir yn Ffigwr 1 bellach yn dangos bod poblogaeth amcangyfrifedig Abertawe wedi cynyddu'n gyson rhwng 2001 a 2011 cyn aros ar yr un lefel yn ystod y 10 mlynedd canlynol. Fodd bynnag, mae'r duedd gyffredinol i gynyddu wedi ailddechrau o 2021.
Cydrannau newid yn y boblogaeth
Mae cyhoeddi'r amcangyfrifon canol blwyddyn ac elfennau'r data am newidiadau yn rhoi darlun tymor hir i ni o newidiadau mewn poblogaethau lleol. Yn wahanol i elfennau'r amcangyfrifon sy'n ymwneud â mudo, sy'n cael eu diwygio'n fwy rheolaidd yn dilyn newidiadau mewn methodoleg, nid yw ystadegau ar gyfer genedigaethau a marwolaethau - sy'n seiliedig ar systemau gweinyddol sefydledig - yn newid yn aml.
O ganol 1995 i ganol 2019, roedd cydbwysedd bras rhwng nifer y genedigaethau a'r marwolaethau blynyddol yn Abertawe, ac nid oedd llawer o flynyddoedd pan oedd cyfanswm (wedi'i dalgrynnu) yr un mwy na 300 yn fwy na'r llall. Roedd gormodedd cymharol fach o farwolaethau dros enedigaethau rhwng 1995 a 2005 a'r gwrthwyneb (mwy o enedigaethau na marwolaethau) o 2007 i 2014. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon canol blwyddyn o 2015 yn nodi mwy o farwolaethau na genedigaethau yn Abertawe ym mhob blwyddyn, gyda'r pum mlynedd diweddaraf (o ganol 2019 i ganol 2024) yn dangos y gwahaniaeth mwyaf (700 y flwyddyn ar gyfartaledd).
Gall yr amcangyfrifon canol blwyddyn hefyd nodi tueddiadau mudo ar lefel awdurdod lleol. Rhwng 1991 a 2001, mae'r amcangyfrifon blynyddol yn dangos y bu mwy o allfudo o Abertawe (i fannau eraill yn y DU a thramor) na mewnfudo i Abertawe. Fodd bynnag, newidiodd y duedd i'r gwrthwyneb o 2001, wrth i'r data awgrymu twf yn y boblogaeth yn Abertawe a ysgogwyd i raddau helaeth gan fudo. Y mewnlif net o fudo (yn y DU ac yn rhyngwladol) oedd 1,500 y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2001 a 2011. Yn dilyn hynny, adroddwyd bod tueddiadau mudo cyffredinol yn gymharol sefydlog rhwng 2011 a 2019, ond bu cynnydd net uwch yn ystod 2019-20. Nid oedd llawer o newid yn 2020-21 ond mae'r amcangyfrifon yn dangos lefelau sylweddol uwch o gyfanswm mudo net yn ystod y blynyddoedd rhwng 2021 a 2023, yn ogystal â chynnydd cyffredinol parhaus (ond is) yn 2023-24.
Mae Tabl 1 yn nodi cydrannau cryno cyhoeddedig diweddaraf data newid poblogaeth ar gyfer Abertawe - sef genedigaethau, marwolaethau a mudo net - ar gyfer y cyfnod rhwng 2000 a 2024. Mae'r tabl hefyd yn dangos effaith y Cyfrifiad a'r amcangyfrifon canol blwyddyn cysylltiedig ar ystadegau a thueddiadau poblogaeth, ac mae pob Cyfrifiad (yn 2001, 2011 a 2021) wedi tueddu i greu rhyw fath o newid sylweddol yn y gyfres tymor hir.
Mae tabl 2 yn ymchwilio'n agosach i'r data a gyhoeddwyd am fudo (drwy elfennau manwl y ffigyrau newid a gyhoeddwyd gan y SYG) ac yn dangos cyfraniad cymharol mudo mewnol (yn y DU) a rhyngwladol i newidiadau yn y boblogaeth yn Abertawe ers 2011.
Tabl 2: Amcangyfrif o fudo blynyddol i Abertawe ac yn ôl, 2011-2024 (Word doc, 23 KB)
- O ganol 2011 i ganol 2016, mae'r amcangyfrifon yn awgrymu bod Abertawe wedi profi allfudo mewnol net (yn y DU), sef cyfartaledd o tua -600 y flwyddyn, wedi'u gwrthbwyso gan fewnfudo rhyngwladol net uwch, ar gyfartaledd o +800 y flwyddyn.
- Rhwng canol 2016 a chanol 2021, roedd y ffigurau ar gyfer mudo mewnol net i Abertawe yn amrywio mewn blynyddoedd unigol, ond roedd y newid cronnol yn gymharol wastad yn gyffredinol (-100 y flwyddyn ar gyfartaledd). Parhaodd mewnfudo rhyngwladol net blynyddol ond ar gyfradd ychydig yn arafach na chynt (y cyfartaledd oedd +600 y flwyddyn rhwng 2016 a 2021).
- Mae'r amcangyfrifon ar gyfer y tair blynedd diweddaraf (canol 2021 i ganol 2024) yn dangos bod mudo mewnol net wedi newid cyfeiriad yn sydyn (i ffigwr net negyddol mawr) yn 2023-24. Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos cynnydd net uwch o fudo rhyngwladol, sef +5,200 y flwyddyn ar gyfartaledd yn ystod y cyfnod hwn o dair blynedd.
Newid poblogaeth fesul oedran, 2014-2024
Mae proffil cyffredinol Abertawe'n parhau i ddangos poblogaeth sy'n heneiddio'n gyson, a bu'r rhan fwyaf o'r twf amcangyfrifedig rhwng 2014 a 2024 yn y carfannau hŷn (yn enwedig pobl 70 oed ac yn hŷn). Mae cynnydd i'w weld hefyd mewn grwpiau oedran penodol eraill, gan gynnwys pob carfan pum mlynedd rhwng 5-44 oed a 55-64 oed. Cafodd hyn ei wrthbwyso'n rhannol gan ostyngiadau poblogaeth mewn carfanau eraill - 0-4 oed, 45-54 oed a 65-69 oed. Mae ffigwr 2 yn dangos y newidiadau ym mhoblogaeth amcangyfrifedig Abertawe yn ôl carfan oedran pum mlynedd rhwng 2014 a 2024, ac mae Atodiad 1 yn dangos y newidiadau hyn ar ffurf tabl.
Yn nhermau grwpiau 'cyfnod bywyd' allweddol, mae'r tueddiadau cyffredinol yn Abertawe dros y cyfnod o ddeng mlynedd fel a ganlyn:
- Pob person: cynnydd yn y cyfanswm cyffredinol o 12,100 (+5.0%), o 239,200 yn 2014 i 251,300 yn 2024.
- Plant (0 i 15 oed): wedi cynyddu ychydig, sef 600 (1.4%), i 42,000 yn 2024.
- Oedran gweithio (16-64): wedi cynyddu 6,800 (+4.5%) i 158,300, sef ychydig yn is na chyfradd gyffredinol y cynnydd ym mhoblogaeth Abertawe.
- Pobl hŷn (65 oed ac yn hŷn): wedi cynyddu ar raddfa uwch, sef +10.2% (+4,800), i 51,000 yn 2024. Dyma arwydd o boblogaeth sy'n heneiddio, yn unol â thueddiadau cyffredinol.
Ar gyfer carfannau penodol llai, mae'r newidiadau yn Abertawe rhwng 2014 a 2024 fel a ganlyn:
- 0-4 oed: gostyngiad sylweddol o oddeutu 1,800 (-13.6%), gyda niferoedd yn y garfan hon yn gostwng yn bennaf oherwydd cyfraddau genedigaethau is diweddar.
- 5-15 oed: cynnydd o 2,400 (+8.4%). Mae'r cynnydd hwn i'w weld yn bennaf yn y grŵp 11-15 oed (+1,700 / 13.3%), sy'n rhannol gysylltiedig â'r cynnydd bach mewn genedigaethau 0 2006 i 2012.
- 16-24 oed: cynnydd cyffredinol o 900 (+2.7%), gyda'r twf mwyaf o fewn yr oedrannau 20-23.
- 25-29 oed: cynydd o 1,000 (+6.3%) yn y garfan hon rhwng 2014 a 2024.
- 30-39 oed: wedi cynyddu'n fwy, sef 4,900 (+17.3%), yn bennaf o 36 i 39 oed.
- 40-49 oed: gostyngiad o 2,200 o bobl (-7.0%).
- 55-64 oed: cynnydd o 3,100 (+11.2%), sy'n cyd-fynd â'r cynnydd mawr mewn genedigaethau babanod yn y 1960au.
- 70-79 oed: cynnydd mwy sylweddol o 3,700 (+19.1%), sy'n adlewyrchu'r cynnydd mawr mewn genedigaethau babanod wedi'r rhyfel (yr Ail Ryfel Byd).
- 75 oed ac yn hŷn: cynnydd amcangyfrifedig o 18.9% (+4,100), i 25,700 o bobl. Mae cyfradd y cynnydd yn y boblogaeth 85+ oed dros y deng mlynedd hyd at 2024 ychydig yn is, sef 12.1%.
Casgliadau
Amcangyfrifon poblogaeth canol 2024 y pedwerydd i gael eu cyhoeddi ers canlyniadau Cyfrifiad 2021. Fel o'r blaen, mae Cyfrifiad 2021 yn gosod meincnod newydd ar gyfer amcangyfrifon poblogaeth blynyddol yn y dyfodol, ac fel arfer diwygiwyd yr amcangyfrifon ar gyfer y blynyddoedd cyn y Cyfrifiad diweddaraf (2012 i 2021) gan y SYG. Mae'r cyhoeddiad diweddaraf hefyd yn cynnwys diwygiadau i amcangyfrifon canol 2022 a chanol 2023.
I grynhoi, mae'r gyfres ystadegau poblogaeth swyddogol gyfredol yn awgrymu'r tueddiadau demograffig tymor hir canlynol yn Abertawe:
- Gan wrthdroi'r duedd a gofnodwyd yn y 1990au, cofnodwyd twf poblogaeth cyson rhwng 2001 a 2011. Fodd bynnag, mae'r duedd ar i fyny wedi ailddechrau ers canol 2021, ac amcangyfrifwyd bod y cyfanswm wedi cynyddu 13,400, neu 5.6%, yn ystod y tair blynedd hynny.
- O 1991 i 2019, roedd genedigaethau a marwolaethau (newid naturiol) yn weddol gytbwys, er y bu ychydig mwy o farwolaethau na genedigaethau yn Abertawe o 1993 i 2005 ac o 2015 i 2019, a'r gwrthwyneb i hynny (mwy o enedigaethau na marwolaethau) rhwng 2007 a 2014. Fodd bynnag, cafwyd gormodedd llawer mwy arwyddocaol o farwolaethau ers 2020.
- Mae cyfraniad mudo mewnol (DU) a rhyngwladol at y newid mewn poblogaeth yn Abertawe wedi amrywio o 2011 i 2021; gydag amcangyfrif o fudo mewnol net blynyddol cyfartalog o -300 a mudo rhyngwladol o +700.
- Fodd bynnag, mae'r amcangyfrifon o 2021 i 2024 yn dangos twf blynyddol cyfartalog mwy drwy fudo rhyngwladol net (+5,200). Mae'r ffigyrau mudo mewnol (yn y DU) net wedi newid o werthoedd cadarnhaol (2021-23) i werth negyddol mwy (mwy o allfudo na mewnfudo) yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf.
- Roedd poblogaeth Abertawe wedi heneiddio'n gyffredinol rhwng 2014 a 2024, a bu'r cynnydd mwyaf yn nifer y bobl 5-14 oed, 20-39 oed, 55-64 oed a 70+ oed.
- Gyda charfannau oedran eraill, cafwyd gostyngiad mewn poblogaeth dros y cyfnod hwn, gan gynnwys y garfan 0 i 4 oed (yn bennaf oherwydd y gostyngiadau diweddar mewn genedigaethau) a phobl 45-54 oed.
- Rhwng 2014 a 2024, mae cyfanswm y boblogaeth oedran gweithio (16-64 oed) yn Abertawe wedi cynyddu 6,800 neu 4.5%, ac amcangyfrifir bod nifer y bobl 65 oed ac yn hŷn wedi cynyddu 4,800 neu 10.2%.
Mae Atodiad 1 (Word doc, 21 KB) yn cynnwys tabl sy'n dangos y newidiadau rhwng amcangyfrif canol-blwyddyn 2014 a 2024 yn Abertawe ar gyfer pob carfan oedran pum mlynedd.
Mae Atodiad 2 (Word doc, 24 KB) yn cynnwys tabl sy'n dangos y newidiadau yng nghyfansymiau amcangyfrif canol-blwyddyn rhwng 2014 a 2024 ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Sylwer: Ceir rhagor o wybodaeth genedlaethol am yr amcangyfrifon poblogaeth ar wefan SYG (Yn agor ffenestr newydd).
Mae mwy o wybodaeth am yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar gael ar y dudalen Poblogaeth. Mae'r dudalen hefyd yn cynnwys dolenni i wybodaeth leol ychwanegol am boblogaeth a demograffeg, gan gynnwys: ystadegau cyfrifiadau; amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer ardaloedd bach yn Abertawe; dwysedd poblogaeth; amcangyfrifon aelwydydd; rhagamcaniadau poblogaeth ac aelwyd.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr amcangyfrifon canol-blwyddyn o'r boblogaeth, neu os oes gennych gwestiynau ynghylch newid demograffig yn Abertawe, cysylltwch â ni.