Toglo gwelededd dewislen symudol

Y diweddaraf ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLI) - ysgolion

Mae'r CDLI yn darparu ymagwedd newydd at hyrwyddo a rheoli newidiadau ar draws Dinas a Sir Abertawe. Bydd yn rhoi pwyslais ar wella cyfraniad cymunedol; sylfaen dystiolaeth gryfach, cynnwys mwy penodol a gwell ansawdd a chysondeb.

O ganlyniad i'r CDLI, mae'n debygol y bydd angen lleoedd ysgol ychwanegol. Rydym yn gweithio gyda'r adran gynllunio a datblygwyr posib i sicrhau'r buddsoddiad priodol gan ddatblygwyr fel y gellir darparu'r seilwaith addysg gofynnol i ateb y galw am leoedd disgyblion yn y dyfodol.

Gallai'r buddsoddiad yn yr isadeiledd addysg fod ar ffurf cyfraniadau ariannol neu, yn achos datblygiadau mawr (500+ o unedau/tai), mae'n bosibl y gallai datblygwr ddarparu adeilad ysgol newydd o fewn y datblygiadau newydd.

Bydd unrhyw fuddsoddiad sy'n cael ei sicrhau yn cael ei gyflwyno fesul cam dros gyfnod y CDLI, sef o fabwysiadu'r polisi tan 2025. Mae'n debygol y bydd angen proses ffurfiol lle bydd angen ymgynghori a'r holl grwpiau a diddordeb, gan gynnwys rhieni a llywodraethwyr ysgol ar gyfer cynigion i ad-drefnu darpariaeth ysgol.

Pan fydd mwy o eglurder a sicrwydd gennym o ran maint y buddsoddiad yn y dyfodol, byddwn yn cydweithio'n agos ag ysgolion a chyrff llywodraeth i fapio cynigion manwl o ran opsiynau i ateb y galw cynyddol am leoedd disgyblion yn eu hardal.

Os bydd gennych gwestiynau, mae croeso i chi e-bostio education@abertawe.gov.uk neu mynd i Cynllun Datblygu Lleol (CDLI) Mabwysiedig.

Close Dewis iaith