Toglo gwelededd dewislen symudol

Adfywio Treforys

Adfywio Treforys yw grŵp partneriaeth sy'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi adfywio Treforys yn economaidd, gan ganolbwyntio ar Stryd Woodfield.

Mae ei rôl yn cynnwys y canlynol:

  • nodi materion adfywio allweddol 
  • adnabod a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau lleol 
  • rhannu gweithgareddau/adnoddau o bosib er mwyn cyd-gyflwyno camau gweithredu 
  • cyfle i ddefnyddio asedau'n well a sut gall cyrff cyhoeddus weithio'n well gyda'i gilydd 
  • casglu barn pobl a busnesau lleol er mwyn llywio'r Cynllun Gweithredu
  • mwyafu'r buddion i bobl a busnesau lleol trwy weithgareddau adfywio 
  • hyrwyddo agenda adfywio economaidd Treforys 
  • cysylltu â phartneriaethau/grwpiau perthnasol eraill yn yr ardal er mwyn chwilio am arfer gorau a'i adnabod

Cynnydd hyd yma

  • Nifer o eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto mewn partneriaeth â'r sector preifat - disgwylir i ragor agor yn 2023 gan gynnwys man cyd-weithio
  • Digwyddiad Nadolig Fictoraidd blynyddol i ddathlu treftadaeth y dref a denu rhagor o ymwelwyr i'r dref (Tachwedd 2021 a 2022)
  • Cyfres o daflenni llwybrau cerdded a throeon treftadaeth a gynhelir gan grwpiau cyfeillion lleol
  • Grantiau dechrau busnes i gefnogi busnesau newydd
  • Cwblhawyd y gwaith gwyrddu Cam 1 yn gynnar yn 2022 i wella Woodfield Street fel lle deniadol i bobl siopa ac ymweld ag ef:  Map o gynllun gwella Woodfield Street (PDF) [3MB]
  • Mae amrywiaeth o gyngor a chymorth i fusnesau (gan gynnwys grantiau dechrau busnes) ar gael drwy dîm cymorth i fusnesau y cyngor
  • Bydd llwybrau cerdded treftadaeth a ddatblygwyd ar gyfer ardal Cwm Tawe Isaf yn denu ymwelwyr i'r ardal
  • Cynhaliwyd digwyddiad Nadolig Fictoraidd cychwynnol ar 27 Tachwedd  2021 i ddenu ymwelwyr i'r dref
  • Sefydlwyd hwb cyflogadwyedd yng Nghapel Seion Newydd i helpu pobl i ddod o hyd i waith - ar agor bob dydd Mercher
  • Dechreuodd ymgyrch siopa'n lleol i helpu i gynyddu masnach ar Woodfield Street ym mis Tachwedd 2020: Siopwch yn Lleol, Siopwch yn Nhreforys
  • Posteri i gefnogi siopa'n lleol etc. ar gael yn totallylocally.org (Yn agor ffenestr newydd)
  • Trafodaethau ag asiantaethau allweddol i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch: Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMACau)
  • Map cymunedol lleol wedi'i ddatblygu gan y Tabernacl -  Map Ein Treforys (gan y Tabernacl) (PDF) [7MB]
  • Cynllun prawf i wella blaenau siopau - caiff pedwar cynllun eu datblygu, a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2023
  • Trefnwyd bod arian o'r Gronfa Benthyciadau Canol Trefi ar gael i berchnogion eiddo/busnesau er mwyn iddynt ailddefnyddio lle masnachol gwag
  • Arian grant i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto
  • Yn gweithio gyda pherchnogion eglwys Sant Ioan i'w hailddefnyddio er mwyn annog ymwelwyr lleol - disgwylir iddi agor yn haf 2023
  • Mae grŵp wedi'i greu ar WhatsApp er mwyn ymgysylltu â masnachwyr
  • Gweithio gyda grwpiau cyfeillion er mwyn datblygu cyfleoedd a chyllid a sicrhawyd i hyrwyddo treftadaeth Treforys
  • Cwblhawyd gwaith mapio ar asedau a gweithgareddau cymunedol cyfredol yn Nhreforys
  • Arolygiad o berchnogaeth eiddo a deiliaid ar Stryd Woodfield
  • Gweithio gyda pherchnogion eiddo lleol i ailddefnyddio adeiladau
  • Cynhaliwyd digwyddiad canolfan fusnes ar 6 Rhagfyr 2018
  • Datblygwyd cynllun gweithredu a chaiff ei ddatblygu gyda rhanddeiliaid
Close Dewis iaith