Toglo gwelededd dewislen symudol

Adnoddau pellach a chyngor i bobl anabl

Sefydliadau cefnogaeth ac adnoddau ar-lein ar gyfer pobl sy'n byw ag anableddau.

Hearing Link

Elusen ar draws y DU i bobl sydd yn neu wedi colli'u clyw, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Independence at Home

Elusen yw Independence at Home sy'n darparu grantiau i bobl o bob oed a chandynt anabledd corfforol neu ddysgu neu salwch tymor hir sydd mewn angen ariannol.

Interplay

Mae 'Interplay' yn brosiect sy'n ceisio integreiddio pobl ifanc ag anghenion arbennig i gyfleoedd chwarae a hamdden sydd ar gael i unrhyw blentyn yn eu cymuned. Maent yn derbyn plant a phobl ifanc 2 i 19 oed ac yn darparu gweithgareddau gwyliau, ar ôl ysgol a thros y penwythnos yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.

Leonard Cheshire Discover IT

Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth arnoch neu os hoffech allu cael gafael ar yr offer cywir, mae gennym gydlynwyr digidol a gwirfoddolwyr ledled y DU i'ch helpu chi i ddod yn gwbl ddigidol.

Lifeways Support Options

Mae Lifeways yn helpu pobl i fyw bywydau mwy boddhaus ac annibynnol drwy ddarparu cefnogaeth i oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth, anableddau corfforol, anafiadau i'r ymennydd neu anghnion iechyd meddwl.

Macular Society

Mae'r Gymdeithas Clefyd Macwlaidd yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth ymarferol er mwyn hyrwyddo annibyniaeth, hyder ac ansawdd bywyd ar gyfer pobl â chlefyd macwlaidd.

Mixtup

Mae 'Mixtup' yn glwb ieuenctid i bobl ifanc 11-25 oed â galluoedd cymysg. Mae 'Mixtup' yn glwb sy'n canolbwyntio ar, ac yn cael ei redeg gan bobl ifanc yn bennaf. Mae'n ceisio rhoi'r pethau y mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc am eu cael i'w aelodau - eu hannibyniaeth a'u rhyddid i ffwrdd o'u cyfrifoldebau beunyddiol, bod yn nhw eu hunain a chael hwyl mewn lleoliad diogel ac ysgogol.

National Autistic Society Cymru

Mae'n darparu ystod eang o wasanaethau cefnogi personol o ansawdd i bobl ar y sbectrwm awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Niwrowahaniaeth Cymru

Helpu i wella bywydau pobl niwrowahanol a'u teuluoedd yng Nghymru.

RNIB

Y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB), un o brif elusennau colli golwg y DU a'r gymuned fwyaf o bobl ddall a rhannol ddall.

Royal Association for Deaf People (RAD)

Mae RAD yn gweithio gyda phobl â phob math o fyddardod. Mae'n arbenigo mewn materion eiriolaeth a chyflogaeth, cymorth cyfreithiol a datblygu cymunedau pobl fyddar.

SortedSupported

Gyfeiriadur ar-lein hawdd ei ddefnyddio sydd ar gael am ddim i helpu oedolion i ddod o hyd i gymorth iechyd meddwl a lles yn lleol.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Gorffenaf 2023