Adnoddau pellach a chyngor i bobl anabl
Sefydliadau cefnogaeth ac adnoddau ar-lein ar gyfer pobl sy'n byw ag anableddau.
ADAPT
Mae ADAPT yn cynorthwyo pobl anabl i ddod o hyd i lety sydd wedi'i addasu'n briodol.
Age Cymru Gorllewin Morgannwg
Cofrestrwch nawr i gael cymorth a chyngor am ddim.
Anabledd Cymru
Sefydliad aelodaeth o grwpiau anabledd ledled Cymru, sy'n hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac annibyniaeth yr holl bobl anabl ac yn hyrwyddo model cymdeithasol o anabledd.
Anabledd Dysgu Cymru
Adnoddau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a'u cefnogwyr.
Canolfan Abertawe ar gyfer Pobl Fyddar
Dyma ganolfan lle gall pobl fyddar a thrwm eu clyw ddod i gymryd rhan yn yr amrywiol weithgareddau y gall fod ganddynt ddiddordeb ynddynt.
Carewatch
Mae Carewatch yn darparu canlyniadau gofal o ansawdd uchel i bobl agored i niwed sydd am fyw gartref, yn annibynnol.
Cartrefi Cymru
Mae Cartrefi yn cefnogi pobl ag anawsterau dysgu, awtistiaeth, ymddygiadau heriol, pobl hŷn a gofalwyr yn bennaf.
Cefnogaeth Dementia BIPBA (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)
Mae'r tîm cymorth dementia ym maes gofal sylfaenol yn Abertawe yn darparu pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sy'n pryderu am newidiadau yn eu hiechyd gwybyddol, hy eu sgiliau meddwl a'u cof.
Compass Independent Living
Mae Compass Independent Living yn rhan o Compass Disability Services, sefydliad a arweinir gan gwsmeriaid yng Ngwlad yr Haf sy'n darparu gwasanaethau ledled y wlad.
Contact Cymru
Elusen sy'n cynnig cymorth i deuluoedd a chanddynt blant anabl.
Cydlynwyr ardaloedd lleol
Gall eich cydlynydd ardal leol eich helpu i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth yn eich cymuned.
Cymdeithas Dai Pobl
Cymdeithas tai nid er elw sy'n cynnig atebion a chefnogaeth mewn perthynas â thai.