Adnoddau pellach a chyngor i bobl anabl
Sefydliadau cefnogaeth ac adnoddau ar-lein ar gyfer pobl sy'n byw ag anableddau.
Lifeways Support Options
Mae Lifeways yn helpu pobl i fyw bywydau mwy boddhaus ac annibynnol drwy ddarparu cefnogaeth i oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth, anableddau corfforol, anafiadau i'r ymennydd neu anghnion iechyd meddwl.
Macular Society
Mae'r Gymdeithas Clefyd Macwlaidd yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth ymarferol er mwyn hyrwyddo annibyniaeth, hyder ac ansawdd bywyd ar gyfer pobl â chlefyd macwlaidd.
RNIB
Y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB), un o brif elusennau colli golwg y DU a'r gymuned fwyaf o bobl ddall a rhannol ddall.
Royal Association for Deaf People (RAD)
Mae RAD yn gweithio gyda phobl â phob math o fyddardod. Mae'n arbenigo mewn materion eiriolaeth a chyflogaeth, cymorth cyfreithiol a datblygu cymunedau pobl fyddar.
Swansea Access for Everyone (SAFE)
Mae Mynediad i Bawb Abertawe (SAFE) yn grŵp mynediad lleol sy'n gweithio tuag at sicrhau amgylchedd adeiledig sy'n hygyrch i bawb.
Swansea Association Independent Living (SAIL)
Sefydliad gwirfoddol lleol o bobl anabl yw Cymdeithas Byw'n Annibynnol Abertawe (SAIL), sy'n gweithio i ddileu'r rhwystrau sy'n atal pobl anabl rhag byw bywydau llawn ac annibynnol.
The Disabilities Trust
Elusen genedlaethol sy'n darparu gofal, darpariaeth ailsefydlu ac atebion cymorth i bobl a chanddynt namau corfforol difrifol, anaf i'r ymennydd ac anawsterau dysgu, yn ogystal â phlant ac oedolion ag awtistiaeth.