Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ailalluogi yn y gymuned

Cefnogaeth tymor-byr a gynlluniwyd i alluogi pobl hŷn neu bobl anabl i fyw mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi.

Rhaglen tymor byr hyblyg - fel arfer am uchafswm o chwe wythnos - yw gwasanaethau ailalluogi i gefnogi pobl ag iechyd corfforol neu feddwl gwael neu anabledd i gynnal eu hannibyniaeth. Mae gwasanaethau ailalluogi'n adeiladu ar yr hyn y gall unigolion ei wneud ac yn eu cefnogi i fagu hyder ac annibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain a rheoli cynifer o dasgau pob dydd â phosib ar eu pennau eu hunain.

Gefnogaeth ailalluogi

Mae'r Gwasanaeth Gofal Cartref Integredig yn dwyn ynghyd staff gofal cymdeithasol ac iechyd i ddarparu gwasanaeth ailalluogi sy'n ceisio alluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosib. Gallai hyn gynnwys:

  • Gofal Cartref - help gyda gofal personol a thasgau pob dydd nes i chi deimlo'n ddigon cryf, neu'n ddigon hyderus, i wneud pethau drosoch eich hun.
  • Therapi Galwedigaethol - dysgu ffyrdd haws o wneud pethau yn y cartref, a defnyddio offer i'ch helpu i fod yn fwy annibynnol.
  • Gwybodaeth am Larymau cymunedol (lifelines) neu gyfarpar arall a fydd yn eich helpu i deimlo'n fwy diogel yn eich cartref.
  • Cysylltiadau â gwasanaethau cymunedol - gwybodaeth am grwpiau neu sefydliadau yn eich cymuned leol a all gynnig y gefnogaeth lai dwys y bydd ei hangen arnoch yn y tymor hwy. 

Gwella gartref

Gwella gartref wedi arhosiad yn yr ysbyty yw'r arfer cyffredin bellach mewn cymunedau ledled Cymru.

Gall fod yn anodd ymdopi am yr ychydig ddyddiau cyntaf, ac mae llawer o bobl yn teimlo ar goll neu ar eu pennau eu hunain ar ôl diogelwch ward. Yn aml mae pobl yn anghofio eu bod wedi bod yn dost, a'i bod yn cymryd amser i wella. Gall hyn achosi rhwystredigaeth a phryder, i chi a'ch teulu. Mae'r teimladau hyn yn normal iawn. Anogwn chi i fod yn garedig â chi eich hun i'ch helpu i wella'n gyflym.

Ar ôl y cyfnod ailalluogi

Ar ôl y cyfnod ailalluogi, byddwn yn ailasesu eich anghenion. Mae'n debygol y bydd y rhain wedi newid ar ôl cyfnod o gefnogaeth ddwys. Yna gallwn gael gwybod pa wasanaethau cefnogi tymor hir, os o gwbl, y bydd angen eu darparu ar eich cyfer.

Close Dewis iaith