Toglo gwelededd dewislen symudol

Basgedi crog i fusnesau

Archebwch fasgedi crog, basgedi polyn lamp a chafnau bariau i roi lliw i'ch busnes y gwanwyn/haf hwn.

Hanging baskets - Mumbles Pier cafe.

Bwriadwn ddechrau dosbarthu basgedi yn ystod mis Mai, gan ddibynnu ar dyfiant y fasged ac os bydd y tywydd yn caniatáu. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod bracedi fel gallwn eu hongian i chi.

Os ydych yn dewis i'ch basgedi gael eu dyfrio gennym hefyd, byddant yn cael eu bwydo a'u dyfrio drwy'r haf tan oddeutu fis Hydref. Fel arfer, byddwn yn ymweld 4 diwrnod yr wythnos, ond os bydd cyfnod o dywydd sych, byddwn yn gwneud ymweliadau ychwanegol.

Sylwer, os ydych chi'n bwriadu gosod basgedi polyn lamp neu gafnau bariau lle nad ydynt wedi cael eu gosod o'r blaen, bydd angen i chi gysylltu â ni cyn archebu er mwyn i ni wirio nad ydynt yn amharu ar ddiogelwch ffyrdd. E-bostiwch alan.hughes@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 297486.

Os ydych yn rhedeg eich busnes o eiddo preswyl, ni allwch archebu drwy ein ffurflen i fusnesau. Bydd yn rhaid i chi archebu drwy ein ffurflen i breswylwyr: Basgedi crog i breswylwyr

Dyddiad olaf i archebu: 30 Ebrill 2026 (wrth i fasgedi fod ar gael)

Amodau a thelerau

  • Mae Dinas a Sir Abertawe'n cadw'r hawl i wrthod archebion pan fo'n angenrheidiol.
  • Mae cyflawni archeb yn dibynnu ar leoliad eich cartref a nifer y preswylwyr / busnesau sy'n cymryd rhan yn eich ardal.
  • Ni fydd Dinas a Sir Abertawe'n gyfrifol am gynnig basgedi newydd os caiff basgedi eu dwyn neu'u difrodi.
  • Os byddwch yn archebu cyflenwad yn unig, wrth dderbyn y basgedi a'r blodau, y chi yn unig fydd yn gyfrifol am eu cynnal a gofalu amdanynt. Ni fydd gan Ddinas a Sir Abertawe unrhyw atebolrwydd i'r perwyl hwn.

Archebwch fasged grog neu arddangosfa flodau ar gyfer eich busnes Archebwch fasged grog neu arddangosfa flodau ar gyfer eich busnes

 

Archebwch fasged grog neu arddangosfa flodau ar gyfer eich busnes

Mae basgedi crog ac arddangosfeydd blodau bellach ar gael i'w harchebu ar-lein ar gyfer eich busnes.

Gofalu am eich basged grog

Arweiniad ar sut i ofalu am eich basged grog fel y gallwch wneud yn fawr ohoni a'i chadw yn ei blodau cyhyd â phosib.

Basgedi crog i breswylwyr

Archebwch fasgedi crog i roi lliw i'ch tŷ a'ch gardd y gwanwyn/haf hwn.

Problem gyda gwneud taliad ar-lein?

Os ydych chi'n cael problem wrth geisio talu am rywbeth ar-lein drwy ein system dalu, mae rhai pethau y gallwch roi cynnig arnynt cyn cysylltu â ni i roi gwybod amdano.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Tachwedd 2025