Toglo gwelededd dewislen symudol

Basgedi crog i breswylwyr

Archebwch fasgedi crog i roi lliw i'ch tŷ a'ch gardd y gwanwyn/haf hwn.

Hanging basket - Pontarddulais single (blue background).

Pris: £53.00, gan gynnwys dosbarthu

Maint y basgedi: Mae gan y basgedi ddiamedr o 35.5cm (14 modfedd).

Dyddiad olaf i archebu: 30 Ebrill 2026 (wrth i fasgedi fod ar gael)

Bwriadwn ddechrau dosbarthu basgedi yn ystod mis Mai, gan ddibynnu ar dyfiant y basgedi ac os bydd y tywydd yn caniatáu. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod bracedi fel gallwn eu hongian i chi. Mae cyngor ar fracedi addas ar gael ar ein tudalen cwestiynau cyffredin.

Os ydych yn prynu basged grog yn rhodd i rywun, byddwn yn rhoi derbynneb rhodd i chi ei rhoi i'r derbynnydd (ar gael i chi ei lawrlwytho a'i hargraffu neu ei e-bostio).

Amodau a thelerau

  • Mae Dinas a Sir Abertawe'n cadw'r hawl i wrthod archebion pan fo'n angenrheidiol.
  • Mae cyflawni archeb yn dibynnu ar leoliad eich busnes a nifer y preswylwyr/busnesau sy'n cymryd rhan yn eich ardal.
  • Ni fydd Dinas a Sir Abertawe'n gyfrifol am gynnig basgedi newydd os caiff basgedi eu dwyn neu'u difrodi.
  • Ar ôl derbyn y fasged a'r blodau, y chi yn unig fydd yn gyfrifol am eu cynnal a gofalu amdanynt, ac ni fydd gan Ddinas a Sir Abertawe unrhyw atebolrwydd i'r perwyl hwn.

Amodau a thelerau derbynneb rhodd ar gyfer basged grog

  • Byddwch yn talu £53.00 ar-lein am dderbynneb rhodd ar gyfer basged grog. Caiff y fasged grog ei hanfon i gyfeiriad y derbynnydd rydych yn ei ddarparu i ni, ryw bryd rhwng canol a diwedd mis Mai 2026.
  • Os hoffech ganslo'ch archeb ar gyfer derbynneb rhodd, mae gennych 14 diwrnod o'r dyddiad rydych yn derbyn eich derbynneb rhodd i wneud hynny. E-bostiwch ni ac os yw'n bosib, darparwch fanylion eich archeb wreiddiol.
  • Ar ôl yr amser hwn, ni allwn roi ad-daliad. Os hoffech newid y cyfeiriad danfon, e-bostiwch ni.

Archebwch fasged grog ar gyfer eich cartref Archebwch fasged grog ar gyfer eich cartref

 

Archebwch fasged grog ar gyfer eich cartref

Mae basgedi crog bellach ar gael i'w harchebu ar-lein ar gyfer eich cartref.

Gofalu am eich basged grog

Arweiniad ar sut i ofalu am eich basged grog fel y gallwch wneud yn fawr ohoni a'i chadw yn ei blodau cyhyd â phosib.

Basgedi crog i fusnesau

Archebwch fasgedi crog, basgedi polyn lamp a chafnau bariau i roi lliw i'ch busnes y gwanwyn/haf hwn.

Problem gyda gwneud taliad ar-lein?

Os ydych chi'n cael problem wrth geisio talu am rywbeth ar-lein drwy ein system dalu, mae rhai pethau y gallwch roi cynnig arnynt cyn cysylltu â ni i roi gwybod amdano.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Tachwedd 2025