Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am fasgedi crog

Cwestiynau cyffredin am ein basgedi crog a'n harddangosfeydd blodau.

Hanging baskets - Rake and riddle garden.

Rwy'n byw y tu allan i Abertawe. Ydw i'n dal i allu archebu basgedi a threfnu iddynt gael eu danfon ataf?
Yn ogystal â danfoniadau ledled ardal Abertawe, rydym hefyd yn danfon i ardaloedd mewn siroedd cyfagos fel Castell-nedd, Port Talbot, Rhydaman a Llanelli. Os ydych yn byw yn yr ardaloedd hyn neu'n agosach, gallwch archebu ar-lein nawr. Os ydych yn ansicr, anfonwch e-bost atom yn Is-adran.Parciau@abertawe.gov.uk.

Pa fath o fraced ydych chi'n ei argymell?
Mae'r basgedi'n 14 modfedd mewn diamedr felly rydym yn argymell braced sy'n o leiaf 16 modfedd o hyd i ganiatáu digon o le i'r blodau dyfu. Rydym hefyd yn awgrymu eich bod yn defnyddio braced metel ac yn gwneud yn siŵr y gallant gymryd pwysau basged grog sydd wedi tyfu'n llawn ac sydd wedi'i dyfrio.

Ydy e'n hawdd gofalu am y basgedi?
Bydd angen dyfrio a bwydo'r basgedi i'w cynnal. Mae gennym arweiniad defnyddiol ar sut i ofalu am eich basged: Gofalu am eich basged grog

Pa mor hir y byddan nhw'n para?
Os ydych yn gofalu'n dda am eich basged, bydd yn para drwy gydol yr haf hyd at fis Medi/Hydref.

Beth fydd yn y basgedi crog?

Bydd basgedi yn cynnwys amrywiaeth o blanhigion a lliwiau ac fel arfer yn cynnwys cymysgedd o tua 20 o'r canlynol (yn dibynnu ar argaeledd):

  • Petwnia Surfinia® Blu Sky
  • Petwnia Surfinia® Hot Pink
  • Begonia Illumination® coch
  • Begonia Illumination® arlliwiau bricyll
  • Lanai Verbena 'Apple Green'
  • Lanai Verbena 'White'
  • Diascia 'Apple Blossom'
  • Mynawyd y bugail eiddewddail Super Cascade Red
  • Lysimachia Nummularia Goldii

Os oes gennych ymholiad am ein gwasanaeth basgedi crog, e-bostiwch Is-adran.Parciau@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith