Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Basgedi crog i fusnesau

Archebwch fasgedi crog, basgedi polyn lamp a chafnau bariau i roi lliw i'ch busnes y gwanwyn/haf hwn.

Hanging baskets - Mumbles Pier cafe.

*Rydym bellach wedi gwerthu pob basged grog ar gyfer eleni*

Os hoffech wybod pan fyddant ar gael i'w harchebu ar gyfer y flwyddyn nesaf, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr e-bost.

 

Bwriadwn ddechrau dosbarthu basgedi yn ystod mis Mai, gan ddibynnu ar dyfiant y fasged ac os bydd y tywydd yn caniatáu. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod bracedi fel gallwn eu hongian i chi.

Os ydych yn dewis i'ch basgedi gael eu dyfrio gennym hefyd, byddant yn cael eu bwydo a'u dyfrio drwy'r haf tan oddeutu fis Hydref. Fel arfer, byddwn yn ymweld 4 diwrnod yr wythnos, ond os bydd cyfnod o dywydd sych, byddwn yn gwneud ymweliadau ychwanegol.

Sylwer, os ydych chi'n bwriadu gosod basgedi polyn lamp neu gafnau bariau lle nad ydynt wedi cael eu gosod o'r blaen, bydd angen i chi gysylltu â ni cyn archebu er mwyn i ni wirio nad ydynt yn amharu ar ddiogelwch ffyrdd. E-bostiwch alan.hughes@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 297486.

Os ydych yn rhedeg eich busnes o eiddo preswyl, ni allwch archebu drwy ein ffurflen i fusnesau. Bydd yn rhaid i chi archebu drwy ein ffurflen i breswylwyr: Basgedi crog i breswylwyr

Dyddiad olaf i archebu: 30 Ebrill 2024 (wrth i fasgedi fod ar gael)

Amodau a thelerau

  • Mae Dinas a Sir Abertawe'n cadw'r hawl i wrthod archebion pan fo'n angenrheidiol.
  • Mae cyflawni archeb yn dibynnu ar leoliad eich cartref a nifer y preswylwyr / busnesau sy'n cymryd rhan yn eich ardal.
  • Ni fydd Dinas a Sir Abertawe'n gyfrifol am gynnig basgedi newydd os caiff basgedi eu dwyn neu'u difrodi.
  • Os byddwch yn archebu cyflenwad yn unig, wrth dderbyn y basgedi a'r blodau, y chi yn unig fydd yn gyfrifol am eu cynnal a gofalu amdanynt. Ni fydd gan Ddinas a Sir Abertawe unrhyw atebolrwydd i'r perwyl hwn.