Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangosfa Fythynnod De Cymru'n agor ei drysau i'r cyhoedd

Cafwyd un ymdrech funud olaf i roi metlin ar y ffordd a'r promenâd a'i rolio cyn i'r arddangosfa agor i'r cyhoedd ar 8 Medi 1910.

South Wales Cottage Exhibitions
Adeiladwyd naw ar hugain o dai i gyd gan gynllunwyr preifat ar Llewellyn Circle a Nicander Parade. Adeiladwyd wyth ty arall gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe ar Heol Tan y Marian.

Cafwyd cryn dipyn o ddiddordeb gan y cyhoedd yn yr arddangosfa. Daeth llif cyson o ymwelwyr i weld y tai: yn eu plith roedd adeiladwyr posib yn ceisio syniadau, swyddogion y cyngor, arweinwyr lleol ac aelodau o'r cyhoedd a oedd yn awyddus i weld y cynlluniau. Roedd Syr Raymond Unwin yn un o'r panelwyr a ddaeth i weld yr arddangosiadau.

Yr hyn a welsant oedd amrywiaeth hyfryd o fythynnod, wedi eu hadeiladu mewn parau, fesul tri a fesul pedwar. Roedd rhai o gerrig, rhai o frics, a rhai wedi'u gorffen â rendro neu arwyneb llechi. Roedd tâl-meini a thalcendoai, cynteddau a ffenestri crom, yn erbyn cefndir ysblennydd Bae Abertawe. Mae bythynnod yr arddangosfa (y gwelir lluniau o rai ohonynt isod), yn dal i sefyll heddiw yn dyst i ymdrechion y cynllunwyr.

Beth ddigwyddodd nesaf? Darllen am ddatblygu'r arddangosfa yn stâd.