Amrywio Trwydded Mangre: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003
Amrywio Trwydded Mangre: Nodiadau canllaw
Ni ellir defnyddio'r cais hwn i amrywio'r drwydded er mwyn ymestyn y cyfnod y mae'r drwydded yn effeithiol neu i amrywio'r eiddo y mae'n ymwneud ag ef yn sylweddol.
Os ydych yn dymuno gwneud y math hwn o newid i'r trwydded mangre, dylech wneud cais newydd am drwydded mangre o dan adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003.
1. Nid oes rhaid i chi dalu ffi os mai unig bwrpas yr amrywiad rydych chi'n gwneud cais amdano yw osgoi dod yn atebol am yr ardoll gyda'r hwyr
2. . Disgrifiwch yr eiddo, er enghraifft y math o eiddo, ei leoliad a'i gynllun cyffredinol, ac unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol i'r amcanion trwyddedu. Os yw eich cais yn cynnwys cyflenwi alcohol sy'n dod o rywle arall a'ch bod yn bwriadu darparu lle i yfed y cyflenwad hwn, rhaid i chi gynnwys disgrifiad o leoliad y lle hwnnw a'i agosrwydd at yr eiddo.
3. O ran adloniant rheoledig penodol, noder:
- Dramâu: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- Ffilmiau: nid oes angen trwydded ar gyfer dangos ffilmiau 'nid er elw' a ddangosir ar eiddo cymunedol rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa a bod y trefnydd yn
- cael caniatâd i ddangos y ffilm gan berson sy'n gyfrifol am yr eiddo; a
- sicrhau bod pob dangosiad yn ufuddhau statws dosbarthiadau oedran.
- Digwyddiadau chwaraeon dan do: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 1000 yn y gynulleidfa.
- Adloniant Bocsio neu Reslo: nid oes angen trwydded ar gyfer cystadleuaeth neu arddangosiad, neu arddangosiad o reslo Groegaidd-Rhufeinig, neu reslo yn y dull rhydd rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 1000 yn y gynulleidfa. Mae chwaraeon ymladd cyfun - wedi'i ddiffinio fel cystadleuaeth neu arddangosiad sy'n cyfuno bocsio neu reslo gydag un neu fwy o grefftau ymladd - yn drwyddedadwy fel adloniant bocsio neu reslo yn hytrach na digwyddiad chwaraeon dan do.
- Cerddoriaeth fyw: nid oes angen caniatâd trwydded ar gyfer: perfformiad cerddoriaeth fyw heb amp rhwng 8:00 ac 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn unrhyw eiddo.
- perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- perfformiadau cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu unrhyw eiddo cymunedol tebyg, nad ydyw wedi'i drwyddedu drwy drwydded eiddo i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd wedi cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan bwy bynnag sy'n gyfrifol am yr eiddo.
- perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo dibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad ar yr eiddo perthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol perthnasol, neu (ii) yr ysgol neu (iii) y darparwr gofal iechyd ar gyfer yr ysbyty.
- Cerddoriaeth wedi'i Recordio: nid oes angen caniatâd trwyddedu ar gyfer:
- chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu unrhyw eiddo cymunedol tebyg, nad ydyw wedi'i drwyddedu drwy drwydded eiddo i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd wedi cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan bwy bynnag sy'n gyfrifol am yr eiddo.
- chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo dibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad ar yr eiddo perthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol perthnasol, neu (ii) perchennog yr ysgol neu (iii) y darparwr gofal iechyd ar gyfer yr ysbyty.
- Dawns: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa. Fodd bynnag, mae perfformiad sy'n adloniant i oedolion yn parhau i fod yn drwyddedadwy.
- Eithriadau ar draws gweithgareddau: nid oes angen trwydded rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, heb unrhyw gyfyngiad ar nifer y gynulleidfa i'r rhain:
- nrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo'r awdurdod lleol os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran yr awdurdod lleol;
- unrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo ysbyty'r darparwyr gofal iechyd os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran y darparwyr gofal iechyd;
- unrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo ysgol os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran perchnogion yr ysgol; ac unrhyw adloniant (ac eithrio ffilmiau ac adloniant bocsio neu reslo) sy'n digwydd mewn syrcas deithiol, ar yr amod ei fod (a) yn digwydd mewn strwythur symudol gyda lle i gynulleidfa, a (b) bod y syrcas deithiol heb ei lleoli yn yr un safle am yn hwy na 28 diwrnod yn olynol
4. Os yw'r gweithgaredd yn digwydd mewn adeilad neu strwythur arall ticiwch lle bo'n briodol (gall 'dan do' gynnwys pabell).
5. Er enghraifft y math o weithgaredd i'w awdurdodi, os na nodwyd eisoes, a rhowch fanylion pellach perthnasol, er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny) a fydd y gerddoriaeth gydag amp ai peidio.
6. Er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny), lle bydd y gweithgaredd yn digwydd ar ddiwrnodau ychwanegol yn ystod misoedd yr haf.
7. Er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny), lle rydych chi'n dymuno i'r gweithgaredd fynd ymlaen am gyfnod hwy ar ddiwrnod penodol e.e. Noswyl Nadolig.
8. Rhowch amseroedd yn ôl y cloc 24 awr (e.e. 16:00) a rhowch fanylion ar gyfer y dyddiau'r wythnos pan rydych yn bwriadu i'r eiddo gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd.
9. Os ydych yn dymuno i aelodau a'u gwesteion allu yfed alcohol ar y safle, ticiwch 'ar y safle'. Os ydych yn dymuno i aelodau a'u gwesteion allu prynu alcohol i'w yfed oddi ar y safle, ticiwch 'oddi ar y safle'. Os ydych eisiau i bobl allu gwneud y ddau, ticiwch 'y ddau'.
10. Rhowch wybodaeth am unrhyw beth y bwriedir iddo ddigwydd ar yr eiddo neu sydd ynghlwm wrth y defnydd o'r eiddo a all achosi pryder mewn perthynas â phlant, os ydych yn bwriadu i blant gael mynediad i'r eiddo ai peidio, er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny) noethni neu hanner noethni, ffilmiau ar gyfer grwpiau oedran cyfyngedig, neu bresenoldeb peiriannau gamblo.
11.Rhestrwch yma y camau y byddwch chi'n eu cymryd i hyrwyddo pob un o'r pedwar amcan trwyddedu ar y cyd.
12.Rhaid llofnodi'r ffurflen gais.
13. Gall asiant yr ymgeisydd (er enghraifft cyfreithiwr) lofnodi'r ffurflen ar ei ran ar yr amod bod ganddo awdurdod gwirioneddol i wneud hynny.
14.Pan fo mwy nag un ymgeisydd, rhaid i bob un o'r ymgeiswyr neu eu priod asiant lofnodi'r ffurflen gais.
15.Dyma'r cyfeiriad y byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu â'r clwb ynglŷn â'r cais hwn.
