Toglo gwelededd dewislen symudol

Gostyngiad Treth y Cyngor i berson anabl

Efallai cewch eich symud i fand is Treth y Cyngor os oes rhywun anabl (oedolyn neu blentyn) yn byw yn eich aelwyd.

Gellir caniatáu gostyngiad os darperir unrhyw un o'r cyfleusterau canlynol: 

  • ystafell a ddarperir i ddiwallu anghenion y person anabl - ni all hyn fod yn ystafell wely'r person anab
  • ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol a ddarperir ar gyfer y person â'r anabledd
  • mae digon o le ar gael er mwyn defnyddio cadair olwyn dan do

Sylwer nad yw garej breifat ar gyfer cerbyd modur a ddefnyddir gan y person anabl yn un o'r amgylchiadau sy'n gymwys am ostyngiad.

Os rhoddir gostyngiad, byddwn yn trin eich eiddo fel ei fod yn y band prisio islaw'r un mae wedi'i roi ynddo mewn gwirionedd. Er enghraifft, os yw'ch eiddo ym Mand C, byddwch yn talu Treth y Cyngor ar gyfer Band B. Os yw'ch eiddo ym Mand A, cewch ostyngiad canran.

Cyflwyno Cais am Ostyngiad Treth y Cyngor i Bobl Anabl Cyflwyno Cais am Ostyngiad Treth y Cyngor i Bobl Anabl

Mae'n rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol am dalu'r bil, hyd yn oed os nad yw'n anabl, wneud cais am y gostyngiad.

Mae'n rhaid i chi barhau i dalu'ch bil presennol. Os dyfernir i chi ostyngiad i berson anabl, caiff bill newydd ei gyflwyno a fydd yn dangos faint i'w dalu gan gynnwys manylion unrhyw randaliadau newydd.

Caiff y gostyngiad ei adolygu'n gyfnodol. Efallai y gofynnwn i chi ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth sy'n ein helpu i wneud hyn. Gall methu rhoi'r wybodaeth hon olygu y caiff y gostyngiad ei ddiddymu.

Cofiwch: os yw'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r eithriad yn newid, rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith.

Cyflwyno Cais am Ostyngiad Treth y Cyngor i Bobl Anabl

Os oes person anabl (oedolyn neu blentyn) yn byw yn eich cartref ac mae cyfleusterau arbennig ar gael i helpu gydag anghenion y person hwnnw, gallwch wneud cais am ostyngiad Treth y Cyngor.
Close Dewis iaith