Toglo gwelededd dewislen symudol

Rwyf wedi derbyn nodyn atgoffa i dalu Treth y Cyngor

Os ydych wedi cael llythyr atgoffa, mae hyn oherwydd nad ydych wedi talu Treth y Cyngor yn unol â'r rhandaliadau ar eich bil diweddaraf.

Talwch Dreth y Cyngor nawr Talwch e'

Beth os dwi eisoes wedi talu?

Os ydych wedi talu'r swm llawn a oedd yn ddyledus yn y pum niwrnod diwethaf, cewch anwybyddu'r llythyr atgoffa. Mae'n rhaid i chi barhau â'r rhandaliadau misol arferol a ddangosir ar eich bil diweddaraf neu caiff rhagor o gamau adennill eu cymryd yn eich erbyn.

Beth os na allaf dalu?

Mae'n bwysig iawn i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y bo modd. Mae'n rhaid i chi beidio ag anwybyddu'r llythyr atgoffa hwn.

Beth sy'n digwydd os na thalaf?

Bydd methu talu'r swm ar y llythyr atgoffa na chysylltu â ni'n arwain at gymryd rhagor o gamau adennill yn eich erbyn a gellid ychwanegu costau at yr hyn sydd eisoes gennych i'w dalu.

Cofiwch, os na thalwch eich taliadau'n brydlon, byddwch yn colli'r hawl i dalu mewn rhandaliadau a bydd y cyfanswm ar gyfer y flwyddyn yn ddyledus ar unwaith.

Close Dewis iaith