Toglo gwelededd dewislen symudol

Awgrymiadau ailgylchu diwedd tymor i fyfyrwyr

Mae bron yn amser symud allan,ond beth gallwch ei wneud gyda'r holl wastraff y mae angen i chi gael gwared arno? Cofiwch, eich cyfrifoldeb chi yw eich gwastraff, felly mae'n bwysig eich bod yn delio ag ef yn gywir yr un fath ag unrhyw adeg arall o'r flwyddyn.

Casgliadau ymyl y ffordd

Yn gyntaf, ailgylchwch yr hyn y gallwch gan ddefnyddio'n gwasanaeth casglu ymyly palmant, trwy roi popeth allan yn y sachau cywir ar y diwrnod cywir. Os oes angen rhagor o fagiau ailgylchu arnoch, gallwch gasglu'r rhain o nifer o siopau lleol ger campws y ddwy brifysgol.

Angen mwy o sachau ailgylchu?

Sachau du a gwastraff na ellir ei ailgylchu

Gellir cael gwared â bagiau du gormodol yng Nghanolfan Ailgylchu Clyne neu Llansamlet ond rhaid i chi sicrhau nad oes unrhyw eitemau ailgylchadwy y tu mewn. Sylwch fod yn rhaid i chi archebu ymlaen llaw cyn ymweld â'n gwefan Llansamlet. Nid oes angen hyn ar gyfer Clyne.

Os nad ydych yn gallu rhoi eich sachau du allan i'w casglu ar y diwrnod a'r wythnosau cywir, neu ewch â nhw i ganolfan ailgylchu siaradwch â'ch landlord neu'ch asiant gosod i weld os allant eich helpu.

Canolfannau ailgylchu

Mae Ganolfan Ailgylchu Clun yn daith fer yn y car o gampws Singleton Prifysgol Abertawe ac mae'n derbyn amrywiaeth eang o eitemau na ellir eu casglu wrth ymyl y ffordd gan gynnwys eitemau trydanol bach, dillad a llawer mwy.

Peidiwch â rhoi'r eitemau hyn wrth ymyl y ffordd oni bai eich bod wedi trefnu casgliad - mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol!

Mae'r Canolfan Clun ac eraill hefyd yn derbyn y deunyddiau cesglir wrth ymyl y ffordd os nad ydych yn gallu eu rhoi allan i'w casglu ar y diwrnod priodol.

Gallwch weld y rhestr lawn o ganolfannau a'r eitemau a dderbynnir ym mhob un ohonynt yma

Eitemau ailddefnyddiadwy

Os oes gennych eitemau ailddefnyddiadwy nad oes arnoch eu hangen mwyach fel offer cegin, dillad, offer trydanol bach etc., ystyriwch eu rhoi i elusen leol neu sefydliad ailddefnyddio.

Sortwch e!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyngor hwn neu gallech fod yn gadael Abertawe gyda Hysbysiad o Gosb Benodol! Os na allwch gydymffurfio, gwiriwch gyda'ch landlord neu'ch asiant gosod i weld a yw'n gallu helpu.

 
Twitter icon - round,  50 x 50 pixels

Close Dewis iaith