Toglo gwelededd dewislen symudol

Y mynwentydd lle cafodd meirwon sifil y rhyfel eu claddu

Ble i ddod o hyd i fynwentydd a'u cofnodion

Pwrpas y dudalen hon yw helpu i leoli'r mynwentydd lle cafodd meirwon sifil y rhyfel eu claddu. Rydym yn cadw y cofrestri claddedigaeth o rai ohonynt yn y Gwasanaeth Archifau. Os ydym, mae copiau o dudalennau perthnasol y gofrestr i'w llawrlwytho.

Dylid cofio ni nodir pob lle bedd â charreg.

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Burial Grounds 1
Mynwentydd dinesig

Claddwyd mwyafrif meirwon sifil y rhyfel mewn mynwentydd dinesig. Yn Abertawe, claddwyd 74 ym Mynwent Treforys, 66 yn Nan-y-graig, 60 yn Ystumllwynarth a 21 yng Nghwmgelli. Claddwyd dau arall ym Mynwent Pontybrenin yng Ngorseinon.

Gweinyddir yr holl fynwentydd hyn gan adran Claddedigaethau ac Amlosgiadau Cyngor Abertawe, sydd hefyd yn cadw'r cofrestrau. Gellir cael rhagor o wybodaeth am bob mynwent, gan gynnwys mapiau lleoliad a gwybodaeth am sut i ddod o hyd iddi ar wefan Cyngor Abertawe. Sylwer y codir ffi am  chwiliadau'r gofrestr.

Claddwyd tri pherson, aelodau o'r un teulu, ym Mynwent Llanilltud Fach yng Nghastell-nedd. Claddwyd pob un o feirwon sifil y rhyfel Port Talbot ym Mynwent Goetre, Port Talbot. Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n cynnal y mynwentydd hyn a gellir dod o hyd i fanylion am wasanaeth y mynwentydd hyn ar wefan Castell-nedd Port Talbot.

Mynwentydd eglwysi a chapeli

Claddwyd oddeutu traean o feirwon sifil y rhyfel Abertawe mewn mynwentydd eglwysi neu gapeli yn ardal Gorllewin Morgannwg. Cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r claddedigaethau hyn yn Eglwys San Pedr, y Cocyd (61) neu yn Eglwys Bethel, Sgeti (25).

Burial Grounds 2
Mae gennym gofnodion y mynwentydd hyn o hyd:

San Pedr, y Cocyd (Eglwys yng Nghymru)
Heol Cocyd, y Cocyd, SA2 0FH (Map lleoliad)
61 o gladdedigaethau:  gwelwch y gofrestr claddedigaethau (PDF) [6MB](Yn agor ffenestr newydd)

Bethel, Sgeti (Eglwys yr Annibynwyr)
Heol Carnglas, Sgeti, SA2 9BJ (Map lleoliad)
25 o gladdedigaethau:  gwelwch y gofrestr claddedigaethau (PDF) [1MB](Yn agor ffenestr newydd)

Sant Samlet, Llansamlet (Eglwys yng Nghymru)
Ffordd Eglwys, Llansamlet, SA7 9RL (Map lleoliad)
9 o gladdedigaethau:  gwelwch y gofrestr claddedigaethau (PDF) [676KB](Yn agor ffenestr newydd)

Mynyddbach (Eglwys yr Annibynwyr)
Ffordd Llangyfelach, Tirdeunaw, SA5 7HT (Map lleoliad) Nodwch bod y capel wedi cau tua 2011 ac mae'n Ganolfan Calon Lân bellach. 
6 o gladdedigaethau:  gwelwch y gofrestr claddedigaethau (PDF) [643KB](Yn agor ffenestr newydd) 

Santes Hilary, Cilâ (Eglwys yng Nghymru)
Ffordd Gŵyr, Cilâ, SA2 7DZ (Map lleoliad)
3 o gladdedigaethau:  gwelwch y gofrestr claddedigaethau (PDF) [615KB](Yn agor ffenestr newydd)

Calfaria, Penlle'rbrain (Eglwys y Bedyddwyr)
Heol Caerfyrddin, Penlle'rbrain, SA5 4AD (Map lleoliad) Nodwch bod y capel wedi cau a'r parth mwyaf o'r adeilad gwreiddiol ei chwalu. Defnyddir beth sydd ar ôl yn feithrinfa.
3 o gladdedigaethau:  gwelwch y gofrestr claddedigaethau (PDF) [727KB](Yn agor ffenestr newydd)

Sant Barnabas, Waunarlwydd (Eglwys yng Nghymru)
Ffordd Victoria, Waunarlwydd, SA5 4SY (Map lleoliad)
1 claddedigaeth:  gwelwch y gofrestr claddedigaethau (PDF) [279KB](Yn agor ffenestr newydd)

Santes Fair, Pennard (Eglwys yng Nghymru)
Venaway Lane, Pennard SA3 2EA (Map lleoliad)
1 claddedigaeth:  gwelwch y gofrestr claddedigaethau (PDF) [177KB](Yn agor ffenestr newydd)

 

Cynhaliwyd claddedigaethau hefyd yn yr eglwysi canlynol yn ardal Gorllewin Morgannwg, ond nid oes gan y Gwasanaeth Archifau gofrestrau ar eu cyfer:

Adulam, Bôn-y-maen(Eglwys y Bedyddwyr). 1 claddedigaeth
Ffordd Cefn, Bôn-y-maen, SA1 7JD (Map lleoliad)

Caersalem Newydd, Treboeth (Eglwys y Bedyddwyr). 2 o gladdedigaethau
Heol Llangyfelach, Treboeth, SA5 9AU (Map lleoliad)

Carmel, Gwaun-Cae-Gurwen (Eglwys yr Annibynwyr). 1 claddedigaeth
Heol Cae-Gurwen, Gwaun-Cae-Gurwen, SA18 1HG (Map lleoliad)

Ebenezer, Brynaman Isaf (Eglwys yr Annibynwyr). 1 claddedigaeth
Stryd Parc, Brynaman Isaf, SA18 1SP (Map lleoliad)

Capel y Cwm, Bôn-y-maen (Methodistiaid Calfinaidd). 12 o gladdedigaethau
Ffordd Capel y Cwm, Bôn-y-maen, SA1 7DH (Map lleoliad)

Siloam, Cilâ (Eglwys y Bedyddwyr). 1 claddedigaeth
Ffordd Gŵyr, Cilâ, SA2 7AL (Map lleoliad)

Sant Ioan, Cilybebyll (Eglwys yng Nghymru). 1 claddedigaeth
Ffordd Eglwys, Cilybebyll, SA8 3JR (Map lleoliad)

Close Dewis iaith