Toglo gwelededd dewislen symudol

Y diweddaraf am Fusnes Twristiaeth - 16 Mehefin 2025

Yn cefnogi adferiad ein diwydiant twristiaeth lleol

Cadwch eich anifeiliaid anwes ar dennyn ger da byw yr haf hwn

Mae preswylwyr sy'n mynd allan i gerdded gyda'u cŵn yr haf hwn ar hyd rhwydwaith llwybrau troed gwych Abertawe yn cael eu hannog i gadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn ger da byw.

Mae'r cyngor wedi cynhyrchu map rhyngweithiol o lwybrau troed, camfeydd a llwybrau ceffyl sy'n mynd drwy Abertawe a phenrhyn Gŵyr ac yn cynnig rhai o'r golygfeydd gorau yng Nghymru.

Nawr mae'r cyngor yn annog preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddilyn y Côd Cefn Gwlad a sicrhau, os ydyn nhw'n mynd â'u cŵn allan am dro, eu bod yn eu cadw ar dennyn ger da byw.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y rhan fwyaf o'r 400 milltir o lwybrau a llwybrau ceffyl gwledig yn croesi caeau ffermwyr, ac mae cŵn sy'n rhedeg yn rhydd oddi ar dennyn yn bryder parhaus mewn mannau lle mae da byw.

Am ragor o wybodaeth am y Côd Cefn Gwlad, gan gynnwys adran ddefnyddiol ar gyngor i berchnogion cŵn, ewch yma: https://naturalresources.wales/days-out/the-countryside-codes/?lang=cy

Am ragor o wybodaeth am y rhwydwaith llwybrau cerdded a'r troeon gorau ym mhenrhyn Gŵyr, ewch yma: www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad

Blwyddyn Croeso: y newyddion diweddaraf

Wrth inni agosáu at dymor yr haf, rydym yn hyrwyddo Cymru gyda chyfres o ymgyrchoedd cyffrous i ysgogi archebion munud olaf ac ennyn diddordeb hirdymor yng Nghymru fel cyrchfan y mae'n rhaid ymweld â hi.

Darganfyddwch y diweddariadau diweddaraf o ymgyrch Blwyddyn y Croeso

Er mwyn gwneud ein ymgyrchoedd sydd ar ddod yn llwyddiant, mae angen eich help arnom. Rydym yn chwilio am straeon cymhellol, datblygiadau newydd, a phrofiadau unigryw a fydd yn denu sylw'r cyfryngau ac yn arddangos y gorau o Gymru.

Darganfyddwch sut allwch chi gymryd rhan - rhannwch eich straeon, diweddariadau, a phrofiadau nodedig

Sioeau Teithiol Busnes Cymru: cyfe i ddysgu am y Newidiadau Caffael - 19 Mehefin, Gwesty Village Abertawe

Mae gwahoddiad i fusnesau ledled Cymru fynychu cyfres o sioeau teithiol wedi eu hariannu'n llawn. Y nod yw helpu cyflenwyr a darpar gyflenwyr i ganfod contractau yn y sector cyhoeddus, bidio amdanynt, a'u hennill, gan ddysgu am y newidiadau pwysig yn y rheoliadau caffael.

Bydd Sioeau Teithiol Busnes Cymru, wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu cynnal mewn chwe lleoliad trwy fis Mai a Mehefin 2025. Mae'r digwyddiadau hyn yn arbennig o berthnasol i fusnesau sy'n gweithio yn y sectorau adeiladu, tai, twristiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, bwyd a diod, manwerthu, cyfleustodau ac ynni.

Gyda chyflwyniad y Ddeddf Caffael Cyhoeddus 2023 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael (Cymru) 2023, gall busnesau ddisgwyl proses fwy syml, mwy hyblyg, a mwy eglur i sicrhau contractau cyhoeddus.

Gall mynychwyr y sioeau teithiol ddisgwyl:

  • Cipolygon Arbenigol
  • Arddangosiadau Byw
  • Cwrdd â'r Prynwr
  • Rhwydweithio

Mae'r holl ddigwyddiadau'n cael eu cynnal o 9.30yb tan 12.30yp, dyddiadau a lleoedd isod:

  • 19 Mehefin - Gwesty Village Abertawe, Abertawe

Nifer penodol o leoedd sydd ar gael felly sicrhewch eich lle heddiw

MWT Cymru: Gweithio'n agosach gyda Croeso Cymru - Gweminar Cyflwyniadol (Saesneg yn unig) - 24 Mehefin (10:30am)

Bydd MWT Cymru yn cyflwyno awgrymiadau a chyfleoedd gwych, gan gynnwys y Fasnach Deithio, Digwyddiadau Busnes, Achredu Ansawdd a Chysylltiadau Cyhoeddus, yn ogystal â gwybodaeth am Gyfnewidfa Dwristiaeth Prydain Fawr (TXGB), marchnad ddigidol sy'n cysylltu llety, atyniadau, profiadau a theithiau â mwy o gwsmeriaid.

Gweithio'n agosach gyda Croeso Cymru

Towards Carbon Zero: Cwrs Hyfforddiant Lleihau Carbon ac Arbed Ynni ar gyfer busnesau bach a chanolig - 24 Mehefin (9am-4pm), Gorseinon SA4 4AD

Wrth i'r byd ganolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, mae gan fusnesau rôl bwysig i'w chwarae wrth gyrraedd nodau hinsawdd byd-eang. Mae ein cwrs hyfforddi'n ceisio rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i fusnesau bach a chanolig er mwyn iddynt gyflawni niwtralrwydd carbon, meithrin y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a phrisiau ynni cynyddol, a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.

Yn ystod y cwrs hyfforddi, bydd cyfranogwyr yn dysgu am hanfodion lleihau carbon a'r llwybr i allyriadau sero net. Byddwn yn cynnwys pynciau fel effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, cludiant cynaliadwy, lleihau gwastraff a mwy. Yn ogystal, byddwn hefyd yn darparu gweithgareddau ymarferol ac astudiaethau achos i helpu cyfranogwyr i ddeall sut i ddefnyddio'r cysyniadau hyn yn eu busnesau eu hunain.

Mae ein hyfforddwr, Tanya Nash o Future Clarity, yn arbenigwr ym maes cynaladwyedd a lleihau carbon. Bydd yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol ar sut i fesur a lleihau allyriadau carbon, a sut i ddatblygu strategaeth lleihau carbon sydd wedi'i theilwra ar gyfer pob busnes.

Mae'r cwrs hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer busnesau bach a chanolig o unrhyw sector sydd â diddordeb mewn lleihau eu hôl troed carbon a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Cadwch eich lle heddiw

Sgiliau I Abertawe - 26 Mehefin

Mae Sgiliau ar gyfer Abertawe yn cynnig sesiynau hyfforddi hanner diwrnod am ddim sydd wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau digidol unigolion sy'n byw neu'n gweithio yn Abertawe.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag un o'n gweithdai am ddim? Porwch ein sesiynau sydd i ddod a gwnewch gais i ymuno isod.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU.

Rhaid i chi fod yn 19 oed neu hŷn, yn byw neu'n gweithio yn Abertawe heb fod mewn addysg llawn amser. Preswylwyr neu weithwyr Abertawe 19+ oed sy'n ceisio gwella eu sgiliau llythrennedd digidol a thechnoleg.

Dyddiadau A Thestunau:

  • Iau 26 Mehefin - Gweithio Gwell gydag Offer Digidol 
  • Iau 10 Gorffennaf - Hanfodion Marchnata Digidol 
  • Iau 21 Awst - Sylfeini Rhaglennu
  • Iau 25 Medi - Deallusrwydd Artiffisial yn y Byd Modern 
  • Iau 23 Hydref - Trin Data 
  • Iau 20 Tachwedd - Gweithio Gwell gydag Offer Digidol 
  • Iau 4 Rhagfyr - Sylfeini Rhaglennu 

Ymholwch Nawr

Dydd Sadwrn y Busnesau Bach 100 - Bydd y ceisiadau'n cau ddydd 30 Mehefin

Mae'r ceisiadau ar gyfer 100 Busnes Bach eleni bellach ar agor yn swyddogol!

Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach unwaith eto eleni yn tynnu sylw at 100 o fusnesau bach, un y diwrnod am y 100 diwrnod sy'n arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, 6 Rhagfyr 2025.

Mae'r 100 wedi cael sylw nid yn unig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn y wasg leol a chenedlaethol, maent hefyd wedi ymuno â thîm Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn Llundain mewn derbyniadau yn Stryd Downing ac yn y Trysorlys gyda Changhellor y Trysorlys.

Bydd y ceisiadau'n cau ddydd 30 Mehefin 2025.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Small Business Saturday UK 

Sioe Awyr Cymru (5-6 Gorff): gwnewch y mwyaf ohoni i'ch busnes!

Cynhelir Sioe Awyr Cymru, y digwyddiad am ddim mwyaf yng Nghymru, ar 5-6 Gorffennaf, ac mae'n siŵr o ddenu miloedd o ymwelwyr i'r ardal. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu sylw at y digwyddiad mawr hwn ar eich gwefan, eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, eich taflenni, eich bwydlenni, etc, er mwyn annog pobl i gadw lle yn gynnar! 

Os ydych yn un o bartneriaid Croeso Bae Abertawe, gallwch lanwytho eich 'Argaeledd Hwyr' ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y penwythnos hwnnw i'ch tudalen. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut i wneud hynny, mae croeso i chi e-bostio Tourism.Team@abertawe.gov.uk.  

Gallwch hefyd sicrhau stondin fasnach am y penwythnos - mae prisiau'n dechrau o £352 am ddau ddiwrnod.  

Fel arall, gallwch hysbysebu eich busnes ar ap Sioe Awyr Cymru, sydd wedi cael ei lawrlwytho 24,000 o weithiau hyd yn hyn, am £120 + TAW yn unig.

E-bostiwch catrin.james@abertawe.gov.uk

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr atyniadau a'r arddangosiadau a gadarnhawyd ar gyfer Sioe Awyr Cymru, ewch i walesnationalairshow.com/cy

Teithiau Distyllfa Gwaith Copr Abertawe Penderyn: Cynnig Hanner Pris i Bartneriaid Twristiaeth

Mae Distyllfa Penderyn yn cynnig côd disgownt unigryw i'n partneriaid masnachol ym maes twristiaeth i fwynhau taith o amgylch Distyllfa Gwaith Copr Abertawe am hanner pris. 

Cewch gyfle i ddysgu am sefydlu Penderyn, sut mae'r wisgi arobryn yn cael ei wneud a pham mae'n unigryw. Byddwch hefyd yn gweld y twnnel copr, sy'n adlewyrchu hanes y safle, yn ogystal â'r felin, y gasgen fragu, distyllyron potiau copr sengl arloesol Penderyn Faraday a phâr o ddistyllyron pot. Ar ddiwedd y daith, ceir cyfle i roi cynnig ar rai o'r cynhyrchion yn y bar blasu! 

Cynhelir teithiau o ddydd Iau i ddydd Sadwrn. 

Prif arferol tocyn i oedolyn yw £19.50 - ond bydd y côd disgownt unigryw hwn yn eich galluogi i dalu £9.75 fesul oedolyn, neu £8 ar gyfer tocyn consesiynol (pobl dros 60 oed a myfyrwyr). 

Mae'r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer hyd at ddau berson fesul archeb a bydd ar gael tan ddydd Sul 31 Awst 2025. 

 Archebwch docyn yma gan ddefnyddio'r côd disgownt STTD50 

Sioeau Busnes Cymru 2025 - 14 Hydref,  Stadiwm Swansea.com

Sioeau Busnes Cymru yw'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer busnesau - mae'n cynnwys tair sioe genedlaethol.

Mae'r sioeau'n darparu llwyfan i fusnesau o bob maint arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau.

Mae'r sioeau'n gyfle i chi ddysgu technegau busnes newydd, gwrando ar brif siaradwyr sy'n ysbrydoli, cael cyngor arbenigol, cael gwybodaeth gan gynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill a gwella cysylltiadau busnes drwy rwydweithio.

Dyddiadau a lleoliadau eleni yw:

  • 10 Gorffennaf 2025 - Parc y Scarlets, Sir Gaerfyrddin
  • 14 Hydref 2025 - Stadiwm Swansea.com, Abertawe

Mae'r sioeau am ddim os ydych chi'n cofrestru ymlaen llaw, ac mae cyfleoedd hefyd i arddangos.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: The Welsh Business Shows - Business Expo Wales | TWBS

Ymunwch â'n hymgyrch i warchod morloi drwy ein gwaharddiad gwirfoddol ar gylchynau hedegog

Mae ymwelwyr â thraethau hardd ar draws Abertawe a phenrhyn Gŵyr yn cael eu hannog i ymuno â gwaharddiad gwirfoddol ar gylchynau hedegog er mwyn gwarchod morloi sy'n byw o amgylch yr arfordir.

Mae'r creaduriaid ciwt a chwilfrydig hyn yn byw ar frigiadau creigiog o amgylch Gŵyr, ond mae eu bywydau'n cael eu peryglu gan y cylchynau hedegog sydd wedi'u taflu, a all eu dal o amgylch eu gyddfau.

Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi bod yn gweithio gyda Grŵp Morloi Gŵyr, ysgolion a busnesau lleol ym mhenrhyn Gŵyr i hyrwyddo'r gwaharddiad ar ôl pasio hysbysiad o gynnig sy'n anelu at roi diwedd ar ddefnyddio'r cylchynau mewn unrhyw le ger bywyd gwyllt ar hyd arfordir yr ardal.

Mae Grŵp Morloi Gŵyr yn parhau i ymweld ag ysgolion yn yr ardal i siarad â phobl ifanc am forloi a bywyd morol arall, gan dynnu sylw at sut y gallant gefnogi'r ymdrech.

Dywedodd na all y creaduriaid ryddhau eu hunain o'r cylchynnau hyn ac wrth iddynt dyfu, mae'r cylchyn yn tynhau, yn cyfyngu ar eu symudiad ac yn aml yn achosi poen, dioddefaint ac, yn y pen draw, marwolaeth.

Ymunwch â'n hymgyrch i warchod morloi drwy ein gwaharddiad gwirfoddol ar gylchynau hedegog

Dewch yn Dywysydd Twristiaid

Mae Tywyswyr Gorau Cymru / WOTGA yn recriwtio ar gyfer cwrs Bathodyn Gwyrdd De-orllewin Cymru.

Gwnewch gais nawr (Saesneg yn unig)

Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls

A oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau am brosiect amddiffynfeydd môr y #Mwmbwls?

Bydd y contractwyr Knights Brown - ar ein rhan ni - yn hapus i'w clywed.

A wnewch chi e-bostio eich sylwadau i MumblesCPS@knightsbrown.co.uk neu ffonio 07818432183.

Prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls

Hyrwyddwch eich busnes twristiaeth neu letygarwch am ddim ar wefan croesobaeabertawe.com

Ydych chi'n fusnes twristiaeth neu letygarwch yn Ninas a Sir Abertawe?

Os felly, gallech fod yn gymwys i gael eich cynnwys ar wefan swyddogol y cyrchfan, croesobaeabertawe.com, am ddim. 

Mae'r wefan, a gynhelir gan Dîm Twristiaeth Cyngor Abertawe, yn cael ei defnyddio ar gyfer ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn er mwyn denu ymwelwyr newydd ac ymwelwyr dychwel i'r ardal. 

Gall gweithredwyr llety lleol, atyniadau, darparwyr gweithgareddau a busnesau bwyd a diod sydd am ddod yn bartneriaid Croeso Bae Abertawe a manteisio ar amrywiaeth o fuddion restru eu busnes am ddim.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk neu cofrestrwch eich busnes yma.

Digwyddiadau gwych sy'n dod i Fae Abertawe yn 2025:

20 Mehefin: Gŵyl Canu Gwlad Campfire
21 Mehefin: Gŵyl Beatmasters
22 Mehefin: Gŵyl We Love It
5-6 Gorff 2025: Sioe Awyr Cymru
13 Gorff 2025: IronMan 70.3 Abertawe
13-14 Awst: Theatr Awyr Agored
6-14 Medi: Gŵyl Gerdded Gŵyr
14 Medi 2025: 10k Bae Abertawe
5 Tach: Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe 

Oedd y diweddariad hwn ar y fasnach dwristiaeth yn ddefnyddiol? Rhannwch ef neu cysylltwch â Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mehefin 2025