Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

01- Parcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl

 

Mae gen i fathodyn glas

Os oes gennych fathodyn glas dilys, efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y bathodyn glas:

  1. wedi disgyn
  2. wedi ei gau
  3. wyneb i waered
  4. heb ei roi allan i'w arddangos

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o ddwy ochr eich bathodyn glas. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Doedd dim mannau parcio ar gael

Nid oes hawl stopio nac aros ar linellau melyn neu mewn man cyfyngedig. Os nad oedd mannau parcio ar gael, mae'n rhaid i chi ddod o hyd i rywle arall i barcio ynddo. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae gen i drwydded preswylwyr

Nid oes gennych unrhyw eithriad i barcio ar linellau melyn os oes gennych drwydded preswylwyr, ni allwch stopio neu aros ar linellau melyn ar unrhyw adeg. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roedd gen i argyfwng meddygol

Os oedd hi'n argyfwng meddygol arnoch, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi llythyr ffurfiol i ni oddi wrth weithiwr iechyd proffesiynol a oedd yn eich trin chi neu deithiwr yn uniongyrchol ar ôl y digwyddiad. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae fy ngherbyd wedi ei glonio

Os ydych wedi derbyn hysbysiad tâl cosb drwy'r post gan Gyngor Abertawe a'ch bod yn sicr nad chi oedd hwn, efallai fod eich cofrestriad eich cerbyd wedi'i glonio. Mae hon yn drosedd ddifrifol a rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu amdani cyn gynted ag y bo modd. 

Os credwch fod eich cerbyd wedi'i glonio, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni nad chi na'ch cerbyd a oedd yn bresennol pan roddwyd yr hysbysiad tâl cosb. Gallai hyn fod yn dderbynneb o'r diwrnod hwnnw, er enghraifft. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roeddwn i'n llwytho / dadlwytho

Os oeddech chi wrthi'n llwytho neu'n dadlwytho nwyddau trwm o'r cerbyd ac i ffwrdd o'r cerbyd am gyfnod o amser oherwydd;

  1. roeddech wedi parcio mor agos ag y gallech i'r lleoliad cludo
  2. roedd yr eitem/au yr oeddech yn ei chyflwyno naill ai'n fregus, yn anodd eu symud neu'n drwm iawn

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. I brofi eich bod yn llwytho neu'n dadlwytho, bydd angen i chi ddarparu copi o ' r daith, taflen waith, derbynneb neu anfoneb gyda chyfeiriad y lleoliadau. Byddwn hefyd yn gofyn i chi roi atebion i'r cwestiynau canlynol:

  1. Beth oedd pwysau'r eitem / eitemau?
  2. Pam nad oedd unrhyw weithgarwch i'w weld o amgylch y cerbyd?
  3. Faint o amser a gymerodd i chi gwblhau'r dasg?
  4. Pam cymerodd y dasg gyhyd ag a wnaeth?
  5. Rhowch ddisgrifiad o'r eitem / eitemau.

Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roeddwn wedi parcio ar y llain ymyl, nid ar y llinellau melyn

Mae llinellau melyn yn ymestyn i'r llain ymyl gan fod y llain ymyl yn rhan o'r briffordd. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Doedd dim arwydd

Os oeddech wedi parcio ar linellau melyn dwbl, does dim angen arwydd gan fod llinellau melyn dwbl wedi eu gwahardd 24 awr y dydd, felly rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb. Os oeddech wedi parcio ar linell felen sengl ac nad oedd arwydd ar y stryd, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Os oeddech wedi parcio ar linell felen sengl ac nad oedd arwydd, bydd angen i chi ddarparu digon o dystiolaeth i ddangos nad oedd arwydd. Gofynnwn i chi ddarparu lluniau o'r stryd sy'n dangos nad oes arwyddion. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roedd fy ngherbyd wedi torri i lawr

Os oeddech wedi torri i lawr, disgwylir i chi aros gyda'ch cerbyd nes i'r cerbyd adfer a drefnwyd gyrraedd. Fodd bynnag; deallwn nad yw hynny'n bosibl mewn rhai sefyllfaoedd. Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Os ydych wedi torri i lawr, bydd angen i chi roi copi o'ch derbynneb i ni oddi wrth y darparwr gwasanaeth adfer neu'r garej o fewn 14 diwrnod o dderbyn eich hysbysiad tâl cosb. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Rydw i wedi cael dau hysbysiad tâl cosb

Efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y ddau hysbysiad tâl cosb:

  1. wedi eu rhoi ar yr un diwrnod
  2. wedi eu rhoi ar yr un stryd
  3. wedi eu rhoi am yr un tramgwydd

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Os ydych wedi cael dau hysbysiad tâl cosb ar yr un diwrnod ar yr un stryd ac am yr un tramgwydd, bydd angen i chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein a rhoi rhif cofrestru'ch cerbyd ynghyd â'r rhif WJ a argraffwyd ar yr hysbysiad tâl cosb a roddwyd yr eildro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch her ac yn dileu unrhyw hysbysiad tâl cosb sy'n perthyn i'r categori hwn. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

Close Dewis iaith