16 - Parcio mewn parth deiliaid hawlenni
- Mae gennyf hawlen barcio ddilys i breswylwyr
- Mae gennyf fathodyn glas
- Nid oedd arwydd
- Mae gennyf hawlen i ofalwr/rwy'n weithiwr gofal iechyd
- Cyflwynwyd dau PCN (Hysbysiad o Dâl Cosb) i mi
- Mae gennyf gerdyn dilys i ymwelydd neu fusnes
- Roeddwn yn llwytho / dadlwytho
- Roedd gennyf argyfwng meddygol
- Mae fy ngherbyd wedi cael ei glonio
Mae gennyf hawlen barcio ddilys i breswylwyr
Os oes gennych hawlen barcio ddilys i breswylwyr, efallai y byddwn yn ystyried eich her.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chyflwyno her, gallwch fanteisio ar y pris gostyngedig: Talu PCN / dirwy barcio
Mae gennyf fathodyn glas
Os oes gennych fathodyn glas dilys, efallai y byddwn yn ystyried eich her dan yr amgylchiadau canlynol:
- roedd y bathodyn glas wedi cwympo
- roedd y bathodyn glas ar gau
- roedd y bathodyn glas wyneb i lawr
- nid oedd y bathodyn glas wedi'i arddangos
Dan yr amgylchiadau hyn, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch herio PCN ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o ddwy ochr eich bathodyn glas. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chyflwyno her, gallwch fanteisio ar y pris gostyngedig: Talu PCN / dirwy barcio
Nid oedd arwydd
A wnewch chi ystyried efallai eich bod wedi parcio mewn parth parcio i breswylwyr, lle bydd arwyddion wrth y mynedfeydd i'r parth. Os ydych yn siŵr nad oedd arwyddion wrth y fynedfa i'r parth, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch herio PCN ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddigonol i ddangos nad oedd arwydd. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu lluniau o'r stryd sy'n dangos nad oes arwyddion.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chyflwyno her, gallwch fanteisio ar y pris gostyngedig: Talu PCN / dirwy barcio
Mae gennyf hawlen i ofalwr/rwy'n weithiwr gofal iechyd
Os oes gennych hawlen ddilys i ofalwr a gyflwynwyd gan Gyngor Abertawe, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch herio PCN ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o'ch hawlen. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chyflwyno her, gallwch fanteisio ar y pris gostyngedig: Talu PCN / dirwy barcio
Cyflwynwyd dau PCN (Hysbysiad o Dâl Cosb) i mi
Efallai y byddwn yn ystyried eich her pe bai'r ddau hysbysiad:
- wedi cael eu cyflwyno ar yr un diwrnod
- wedi cael eu cyflwyno ar yr un stryd
- wedi cael eu cyflwyno am yr un tramgwydd
Dan yr amgylchiadau hyn, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Pe bai dau PCN (Hysbysiad o Dâl Cosb) wedi cael eu cyflwyno i chi ar yr un diwrnod ar yr un stryd am yr un tramgwydd, bydd angen i chi Challenge a PCN ar-lein a darparu rhif cofrestru'r cerbyd ynghyd â'r rhif WJ ar yr hysbysiad a gyflwynwyd yr eildro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch her ac yn diddymu unrhyw PCN a gyflwynwyd dan y categori hwn. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chyflwyno her, gallwch fanteisio ar y pris gostyngedig: Pay a PCN / parking fine
Mae gennyf gerdyn dilys i ymwelydd neu fusnes
Os oes gennych gerdyn dilys i ymwelydd neu fusnes na chafodd ei arddangos yn amlwg, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch herio PCN ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o'r cerdyn dilys i ymwelydd neu fusnes. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chyflwyno her, gallwch fanteisio ar y pris gostyngedig: Talu PCN / dirwy barcio
Roeddwn yn llwytho / dadlwytho
Os oeddech yn llwytho neu'n dadlwytho nwyddau trwm o'r cerbyd ac roeddech i ffwrdd o'r cerbyd am gyfnod oherwydd:
- eich bod wedi parcio mor agos â phosib at y lleoliad danfon
- bod yr eitemau roeddech yn eu danfon yn fregus, yn anodd eu symud neu'n hynod drwm
Dan yr amgylchiadau hyn, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch herio PCN ar-lein. Er mwyn profi eich bod wedi bod yn llwytho neu'n dadlwytho, bydd angen i chi ddarparu copi o gynllun y daith, taflen waith, derbynneb neu anfoneb â chyfeiriad y lleoliadau. Byddwn hefyd yn gofyn i chi ateb y cwestiynau canlynol:
- Beth oedd pwysau'r eitemau?
- Pam na welwyd unrhyw weithgarwch ger y cerbyd?
- Faint o amser oedd ei angen arnoch i gwblhau'r dasg?
- Pam oedd angen cymaint o amser arnoch i gwblhau'r dasg?
- Disgrifiwch yr eitemau.
Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chyflwyno her, gallwch fanteisio ar y pris gostyngedig: Talu PCN / dirwy barcio
Roedd gennyf argyfwng meddygol
Os oeddech yn rhan o argyfwng meddygol, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch herio PCN ar-lein. Bydd angen i chi gyflwyno llythyr ffurfiol oddi wrth weithiwr iechyd proffesiynol a wnaeth eich trin chi neu deithiwr yn syth ar ôl y digwyddiad. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chyflwyno her, gallwch fanteisio ar y pris gostyngedig: Talu PCN / dirwy barcio
Mae fy ngherbyd wedi cael ei glonio
Os ydych wedi derbyn Hysbysiad o Dâl Cosb drwy'r post gan Gyngor Abertawe ac rydych yn siŵr nad yw'n ymwneud â chi, efallai fod rhif cofrestru eich cerbyd wedi cael ei glonio. Dyma drosedd ddifrifol ac mae'n rhaid rhoi gwybod i'r heddlu amdani cyn gynted â phosib.
Os ydych yn credu bod eich cerbyd wedi cael ei glonio, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch herio PCN ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i ni nad oeddech chi na'ch cerbyd yn bresennol pan gyflwynwyd yr Hysbysiad o Dâl Cosb, e.e. derbynneb o'r diwrnod hwnnw. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.
Os byddwch yn penderfynu peidio â chyflwyno her, gallwch fanteisio ar y pris gostyngedig: Talu PCN / dirwy barcio