Toglo gwelededd dewislen symudol

27 - Wedi parcio mewn ardal gorfodi arbennig (gerllaw a ddisgynnwyd)

Mae hyn yn hollol groes i'r rheolau gan ei bod yn bwysig iawn bod troedffyrdd isel yn cael eu cadw'n glir a heb eu rhwystro.

 

Roedd gen i argyfwng meddygol

Os oedd hi'n argyfwng meddygol arnoch, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi llythyr ffurfiol i ni oddi wrth weithiwr iechyd proffesiynol a oedd yn eich trin chi neu deithiwr yn uniongyrchol ar ôl y digwyddiad. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae fy ngherbyd wedi ei glonio

Os ydych wedi derbyn hysbysiad tâl cosb drwy'r post gan Gyngor Abertawe a'ch bod yn sicr nad chi oedd hwn, efallai fod eich cofrestriad eich cerbyd wedi'i glonio. Mae hon yn drosedd ddifrifol a rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu amdani cyn gynted ag y bo modd. 

Os credwch fod eich cerbyd wedi'i glonio, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni nad oeddech chi na'ch cerbyd yn bresennol pan roddwyd yr hysbysiad tâl cosb. Gallai hyn fod yn dderbynneb o'r diwrnod hwnnw, er enghraifft. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae gen i fathodyn glas

Nid yw bathodyn glas yn rhoi eithriad i chi barcio mewn man gorfodi arbennig. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Rydw i wedi cael dau hysbysiad tâl cosb

Efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y ddau hysbysiad tâl cosb:

  1. wedi eu rhoi ar yr un diwrnod
  2. wedi eu rhoi ar yr un stryd
  3. wedi eu rhoi am yr un tramgwydd

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Os ydych wedi cael dau hysbysiad tâl cosb ar yr un diwrnod ar yr un stryd ac am yr un tramgwydd, bydd angen i chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein a rhoi rhif cofrestru'ch cerbyd ynghyd â'r rhif WJ a argraffwyd ar y PCN a roddwyd yr eildro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch her ac yn dileu unrhyw hysbysiad tâl cosb sy'n perthyn i'r categori hwn. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

Close Dewis iaith