Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

40 - Wedi parcio mewn man parcio dynodedig ar gyfer pobl anabl heb fathodyn glas

 

Mae gen i fathodyn glas

Os oes gennych fathodyn glas dilys, efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y bathodyn glas:

  1. wedi disgyn
  2. wedi ei gau
  3. wyneb i waered
  4. heb ei roi allan i'w arddangos

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o ddwy ochr eich bathodyn glas. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roeddwn i'n llwytho / dadlwytho

Os oeddech chi wrthi'n llwytho neu'n dadlwytho nwyddau trwm o'r cerbyd ac i ffwrdd o'r cerbyd am gyfnod o amser oherwydd;

  1. roeddech wedi parcio mor agos ag y gallech i'r lleoliad cludo
  2. roedd yr eitem/au yr oeddech yn eu cludo naill ai'n fregus, yn anodd eu symud neu'n drwm iawn

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. I brofi eich bod yn llwytho neu'n dadlwytho, bydd angen i chi ddarparu copi o ' r daith, taflen waith, derbynneb neu anfoneb gyda chyfeiriad y lleoliadau. Byddwn hefyd yn gofyn i chi roi atebion i'r cwestiynau canlynol:

  1. Beth oedd pwysau'r eitem / eitemau?
  2. Pam nad oedd unrhyw weithgarwch i'w weld o amgylch y cerbyd?
  3. Faint o amser a gymerodd i chi gwblhau'r dasg?
  4. Pam cymerodd y dasg gyhyd ag a wnaeth?
  5. Rhowch ddisgrifiad o'r eitem / eitemau.

Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Rydw i wedi cael dau hysbysiad tâl cosb

Efallai y byddwn yn ystyried eich her pe bai'r ddau hysbysiad tâl cosb:

  1. wedi eu rhoi ar yr un diwrnod
  2. wedi eu rhoi ar yr un stryd
  3. wedi eu rhoi am yr un tramgwydd

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Os ydych wedi cael dau hysbysiad tâl cosb ar yr un diwrnod ar yr un stryd ac am yr un tramgwydd, bydd angen i chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein a rhoi rhif cofrestru'ch cerbyd ynghyd â'r rhif WJ a argraffwyd ar yr hysbysiad tâl cosb a roddwyd yr eildro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch her ac yn dileu unrhyw hysbysiad tâl cosb sy'n perthyn i'r categori hwn. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roedd gen i argyfwng meddygol

Os oedd hi'n argyfwng meddygol arnoch, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi llythyr ffurfiol i ni oddi wrth weithiwr iechyd proffesiynol a oedd yn eich trin chi neu deithiwr yn uniongyrchol ar ôl y digwyddiad. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae fy ngherbyd wedi ei glonio

Os ydych wedi derbyn hysbysiad tâl cosb drwy'r post gan Gyngor Abertawe a'ch bod yn sicr nad chi oedd hwn, efallai fod cofrestriad eich cerbyd wedi'i glonio. Mae hon yn drosedd ddifrifol a rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu amdani cyn gynted ag y bo modd. 

Os credwch fod eich cerbyd wedi'i glonio, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni nad oeddech chi na'ch cerbyd yn bresennol pan roddwyd yr hysbysiad tâl cosb. Gallai hyn fod yn dderbynneb o'r diwrnod hwnnw, er enghraifft. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio