Toglo gwelededd dewislen symudol

47 - Wedi aros mewn arhosfa fysiau

 

Mae gen i fathodyn glas

Os bydd gwaharddiad llwytho mewn grym, nid oes gan fathodyn glas eithriad. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roeddwn i'n codi / gollwng

Does gennych chi ddim hawl stopio nac aros am unrhyw reswm mewn arhosfa fysiau; felly, rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Mae fy ngherbyd wedi ei glonio

Os ydych wedi derbyn hysbysiad tâl cosb drwy'r post gan Gyngor Abertawe a'ch bod yn sicr nad chi oedd hwn, efallai fod cofrestriad eich cerbyd wedi'i glonio. Mae hon yn drosedd ddifrifol a rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu amdani cyn gynted ag y bo modd. 

Os credwch fod eich cerbyd wedi'i glonio, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni nad oeddech chi na'ch cerbyd yn bresennol pan roddwyd yr hysbysiad tâl cosb. Gallai hyn fod yn dderbynneb o'r diwrnod hwnnw, er enghraifft. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Bws mini yw fy ngherbyd i

Os credwch fod eich cerbyd yn perthyn i'r categori bws mini neu fod gennych drwydded cerbyd hur ddilys ac felly'n cael gweithredu mewn arosfannau bysiau, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gwiriwch y gofynion canlynol ar gyfer cyfrif cerbyd yn fws mini:

  1. Yn cynnwys rhwng 9 ac 16 o deithwyr
  2. Nid yw'r cerbyd yn pwyso mwy na 750kg
  3. Mae gennych drwydded cerbyd hur ddilys

Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Wrth herio hysbysiad tâl cosb am yrru i lawr lôn fysiau ar y sail bod eich cerbyd yn fws mini, gofynnwn i chi ddarparu prawf bod eich cerbyd yn perthyn i'r categori bws mini. Er mwyn gwneud hyn, mae angen y canlynol arnom:

  1. Copi o'ch trwydded cerbyd hur ddilys
  2. Llyfr log
  3. Prawf nad yw eich cerbyd yn pwyso mwy na 750kg

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roeddwn i' n llwytho / dadlwytho

Os bydd gwaharddiad llwytho mewn grym, ni chaniateir i chi lwytho, dadlwytho, stopio nac aros. Rhaid i chi dalu'r hysbysiad tâl cosb.

Os hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Roedd gen i argyfwng meddygol

Os oedd hi'n argyfwng meddygol arnoch, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein. Bydd angen i chi roi llythyr ffurfiol i ni oddi wrth weithiwr iechyd proffesiynol a oedd yn eich trin chi neu deithiwr yn uniongyrchol ar ôl y digwyddiad. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

 

Rydw i wedi cael dau hysbysiad tâl cosb

Efallai y byddwn yn ystyried eich os oedd y ddau hysbysiad tâl cosb:

  1. wedi eu rhoi ar yr un diwrnod
  2. wedi eu rhoi ar yr un stryd
  3. wedi eu rhoi am yr un tramgwydd

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Os ydych wedi cael dau hysbysiad tâl cosb ar yr un diwrnod ar yr un stryd ac am yr un tramgwydd, bydd angen i chi Apelio yn erbyn Hysbysiad o Dâl Cosb (PCN) ar-lein a rhoi rhif cofrestru'ch cerbyd ynghyd â'r rhif WJ a argraffwyd ar yr hysbysiad tâl cosb a roddwyd yr eildro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch her ac yn dileu unrhyw hysbysiad tâl cosb sy'n perthyn i'r categori hwn. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Talu dirwy barcio

Close Dewis iaith