Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mae beili neu asiant gorfodi wedi cysylltu â mi ynghylch Treth y Cyngor

Ar ôl i'ch dyled treth y cyngor gael ei throsglwyddo i'r beili/asiant gorfodi, mae angen i chi weithredu'n gyflym i gysylltu ag ef. Mae angen i chi siarad â'r beili/asiant gorfodi, nid y cyngor.

Peidiwch ag oedi.

Cofiwch, cysylltwch â'r beili ar unwaith - gallai oedi olygu y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol.

  • Os yw Andrew James (Gorfodi) wedi cysylltu â chi - ffoniwch ef ar 01792 645533
  • Os yw Marston Holdings wedi cysylltu â chi - ffoniwch nhw ar 0333 320 1822

Pam mae'r ddyled hon wedi'i throsglwyddo i'r beili?

Os yw'ch dyled wedi'i throsglwyddo i'r beili, mae hyn oherwydd bod y cyngor eisoes wedi cael Gorchymyn Dyled yn eich erbyn gan Lys yr Ynadon.

Mae'r Gorchymyn Dyled yn rhoi mwy o bwerau i'r cyngor gasglu'r arian dyledus - megis defnyddio cwmni beilïod.

Er mwyn cyrraedd y cam hwn, byddwn eisoes wedi anfon y canlynol atoch:

  • Bil
  • O leiaf un llythyr atgoffa, os nad mwy
  • Gwŷs

Wedyn, nid ydych wedi cysylltu â ni am yr un o'r uchod, neu nid ydych wedi cadw at gytundeb a wnaethom gyda chi i glirio'ch dyled.

Dwi eisiau gwneud taliad

Nawr ein bod wedi trosglwyddo'ch dyled i'r beili, mae'n rhaid i chi wneud unrhyw daliad iddo ef nes i'r ddyled gael ei chlirio.

Efallai y cewch fil treth y cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol newydd tra'ch bod yn dal i dalu'r beili ar gyfer dyledion blaenorol.

Mae'n rhaid i chi dalu'r bil hwn yn y ffordd arferol.