Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ymrwymiadau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae cyfres o ymrwymiadau yn sail i waith y bwrdd, ac mae'n rhaid i holl aelodau a chyfranogwyr y bwrdd ymrwymo iddynt pan fyddant yn ymuno. Mae'r ymrwymiadau hyn y tu hwnt i'r dyletswyddau cyfreithiol sydd gan y sefydliadau gwahanol.

Statws Dinas Iach

Mae Abertawe'n rhan o'r rhwydwaith Dinasoedd Iach sy'n hyrwyddo iechyd da ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd yn ein cymunedau.

Hawliau Plant a Phobl Ifanc

Mae'r bwrdd yn ymrwymedig i sicrhau fod gwasanaethau'n cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc yn Abertawe, ac mae wedi cynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn y ffordd rydym yn pennu'n polisïau.

Dinasoedd a Chymunedau sy'n Ystyriol o Oed

Mae'r bwrdd yn cefnogi'r egwyddorion a'r camau gweithredu a nodir yn Natganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Ystyriol o Oed yn Ewrop.

Arfer Da wrth Gynnwys y Cyhoedd

Mae'r bwrdd yn cefnogi'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymrua bydd yn ymdrechu i'w dilyn yn yr holl weithgarwch cynnwys ac ymgynghori. Mae'r bwrdd yn ymrwymedig i gynnwys pawb sydd â diddordeb mewn gwella lles lleol wrth ddatblygu'r Asesiad Lles a'r Cynllun Lles a bydd yn ymdrechu i adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth wrth wneud hynny.

Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc

Mae'r bwrdd yn ymrwymedig i egwyddorion y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc.

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Mae'r bwrdd yn ymrwymedig i Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'r materion sy'n effeithio ar gymuned y lluoedd arfog.

Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol 

Mae'r bwrdd yn ymrwymedig i gyflwyno yn ôl egwyddorion y confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol fel y'u nodir yng Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Abertawe.

Un Sector Cyhoeddus

Mae'r bwrdd yn ymrwymedig iddiwylliant sy'n croesi ffiniau sefydliadol a sectorau, lle mae pawb sy'n ymwneud â chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru'n rhan o'r ymdrech cyffredin hwn, gan rannu gwerthoedd cyffredin a gweithio gyda'i gilydd er lles pobl Cymru.