Toglo gwelededd dewislen symudol

Budd-daliadau eraill

Rhagor o wybodaeth am fudd-daliadau lles statudol i bobl mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Os nad ydych yn siŵr a ydych chi'n gymwys ar gyfer unrhyw fudd-daliadau gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i wirio.

Gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio o bosib trwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd ar hyn o bryd, fe'ch cynghorir i gael cyngor a chefnogaeth annibynnol cyn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Ar ôl gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, nid yw'n bosib dychwelyd at eich budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd blaenorol, hyd yn oed os ydych yn waeth eich byd neu os nad oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol.

Gellir talu budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd i bobl yn dibynnu ar lefel eu cynilion neu eu hincwm a gellir eu talu os ydynt yn gweithio neu beidio. Mae budd-daliadau eraill ar gael yn seiliedig ar eich amgylchiadau, fel bod yn anabl neu'n ofalwr.

Ar gyfer y rhan fwyaf o'r budd-daliadau hyn bydd angen i chi wneud hawliad drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau yn hytrach na'r cyngor. Darperir gwybodaeth am sut i hawlio ar gyfer pob budd-dal.

Budd-daliadau i bobl oedran gweithio

Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl

Budd-daliadau ar gyfer gofalwyr

Budd-daliadau i deuluoedd â phlant

Budd-daliadau i bobl dros oedran pensiwn y wladwriaeth

Budd-daliadau a rhieni maeth

Budd-daliadau ar gyfer pobl mewn addysg

Budd-daliadau ar gyfer pobl sydd wedi colli eu swyddi

 

Budd-daliadau i bobl oedran gweithio

Ystyrir eich bod yn oedran gweithio os ydych yn 16 oed neu'n hŷn ac yn iau nag oedran pensiwn y wladwriaeth sydd ar hyn o bryd yr un peth ar gyfer menywod a dynion, sef 66 oed. Os ydych yn 16 neu'n 17 oed mae'r rheolau ar gyfer budd-daliadau yn gymhleth a dylech ofyn am gyngor annibynnol ar unrhyw fudd-daliadau y gallech eu hawlio.

Os ydych yn gwpl sy'n byw gyda'ch gilydd ar yr un aelwyd fel partneriaid ac mae un ohonoch dros oedran pensiwn y wladwriaeth a'r llall yn iau nag oedran pensiwn y wladwriaeth, fe'ch gelwir yn gwpl 'oedran cymysg' ar gyfer hawlio budd-daliadau nawdd cymdeithasol. Ers 15 Mai 2019, mae hyn wedi effeithio ar ba fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd y gall cyplau oedran cymysg wneud cais newydd amdanynt. Os ydych wedi bod yn derbyn Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai yn barhaus dan y rheolau oedran pensiwn ers 15/05/19, gallwch barhau i wneud hawliad newydd am Gredyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai. Os nad ydych yn y grŵp gwarchodedig hwn, dim ond hyd nes y bydd yr aelod iau o'r cwpl hefyd yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth y gallwch wneud hawliad newydd am fudd-daliadau oedran gweithio sy'n dibynnu ar brawf modd. Bydd hyn fel arfer yn hawliad am Gredyd Cynhwysol.  

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli'r rhan fwyaf o fudd-daliadau oedran gweithio sy'n dibynnu ar brawf modd. Ni allwch wneud cais newydd mwyach am y budd-daliadau 'etifeddol' canlynol o ran oedran gweithio yn dibynnu ar brawf modd:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth - Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai (oni bai eich bod yn byw mewn llety dros dro neu fathau penodol o lety â chymorth)

Os ydych yn derbyn un o'r budd-daliadau 'etifeddol' hyn ar hyn o bryd ac mae eich amgylchiadau'n newid, nid yw hyn bob amser yn golygu bod yn rhaid i chi wneud hawliad newydd. Er enghraifft, os ydych yn derbyn Budd-dal Tai ac yn symud i gyfeiriad newydd yn Abertawe, mae hwn yn newid cyfeiriad ar gyfer eich hawliad Budd-dal Tai presennol. Os ydych yn derbyn Credyd Treth Plant ac yn dechrau gweithio digon o oriau, gall eich hawliad Credydau Treth presennol gynnwys Credyd Treth Gwaith. Gofynnwch am gyngor a chefnogaeth os nad ydych yn siŵr a ddylech barhau i hawlio'ch budd-daliadau presennol neu a ddylech wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.

Nid yw Credyd Cynhwysol yn disodli'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol neu'r 'math newydd' ohono neu'r Lwfans Ceisio Gwaith Newydd. Mae'r hawl i'r rhain yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Os ydych wedi bod yn gweithio ac wedi cael eich talu neu'ch trin fel rhywun sydd wedi talu cyfraniadau yswiriant gwladol ar ryw adeg dros y tair blynedd diwethaf, dylech wirio a ydych yn gymwys. Nid yw budd-daliadau cyfrannol yn dibynnu ar brawf modd ac felly gellir eu hawlio os oes gennych chi neu'ch partner incwm neu gyfalaf arall. Gellir hefyd ychwanegu atynt gyda Chredyd Cynhwysol.

Os oes angen help arnoch i wneud hawliad, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth.

Gellir hawlio Credyd Cynhwysol p'un a ydych yn gweithio neu'n ddi-waith ac mae'n cynnwys lwfans safonol i chi (a'ch partner os ydych yn byw gyda'ch gilydd), yn ogystal â symiau ychwanegol ar gyfer plant dibynnol, symiau ychwanegol os yw'ch plentyn yn anabl, eich rhent, os ydych yn ofalwr, os yw'ch iechyd neu'ch anabledd yn eich atal rhag gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith ac os oes gennych gostau gofal plant.

I hawlio Credyd Cynhwysol mae'n rhaid i chi (a'ch partner) dderbyn cytundeb hawlio. Bydd eich cytundeb hawlio'n nodi'ch 'cyfrifoldebau' a beth yw'ch gofynion sy'n gysylltiedig â gwaith yn unol â'ch sefyllfa. Y sefyllfa ddiofyn yw, os nad ydych yn gweithio ar hyn o bryd, yna mae angen i chi fod yn chwilio am waith ac ar gael i weithio, oni bai fod eich amgylchiadau'n golygu na ddylai hyn fod yn berthnasol  Mae gan Cyngor ar Bopeth ganllawiau i chi wirio a ydych wedi cael eich rhoi yn y grŵp gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith cywir ac arweiniad ar yr hyn y gallwch ei wneud os ydych wedi cael eich cosbi am beidio â gwneud gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith.

Nid yw Gostyngiad Treth y Cyngor yn cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol a gellir ei hawlio os ydych ar incwm isel a/neu'n derbyn budd-daliadau eraill sy'n dibynnu ar brawf modd.

Rhagor o wybodaeth:

 

Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Os ydych dros 16 oed ac yn iau nag oedran pensiwn y wladwriaeth ac mae angen help arnoch gyda chostau ychwanegol anabledd neu gyflyrau iechyd hirdymor, efallai y gallwch hawlio Taliad Annibyniaeth Personol (PIP). Nid yw PIP yn dibynnu ar brawf modd a gellir ei dalu p'un a ydych chi'n gweithio neu beidio.

I fod yn gymwys ar gyfer PIP mae'n rhaid eich bod wedi cael anhawster gyda'ch symudedd neu wrth gyrraedd lleoedd a/neu anhawster wrth ymdopi ࣙâ thasgau dyddiol am y 3 mis blaenorol ac rydych yn disgwyl cael yr anawsterau hyn am y 9 mis nesaf. Mae'r asesiad yn edrych ar ddau weithgaredd symudedd a deg gweithgaredd byw bob dydd ac mae'n rhaid i chi sgorio digon o bwyntiau gan ddisgrifyddion yn y gweithgareddau i fod yn gymwys ar gyfer naill ai'r cyfraddau symudedd safonol neu uwch a/neu fywyd bob dydd.

Rhagor o wybodaeth a sut i hawlio:

Hawlio'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd neu Gredyd Cynhwysol pan nad ydych yn gallu gweithio

Os ydych wedi bod yn gweithio'n ddiweddar ac yn dod i ddiwedd yr hawl i Dâl Salwch Statudol, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd.

Mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, nid yw'n dibynnu ar brawf modd ac mae'n cael ei dalu i chi'ch hun yn unig. Gellir ychwanegu ato drwy Gredyd Cynhwysol sy'n dibynnu ar brawf modd ar gyfer symiau ychwanegol ar gyfer eich partner, eich plant, costau tai etc.

Os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd, gallwch ofyn i hyn gael ei ystyried yn eich hawliad Credyd Cynhwysol (naill ai i ychwanegu at Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu i hawlio Credyd Cynhwysol yn unig). Mae hyn yn bwysig ar gyfer Credyd Cynhwysol oherwydd os canfyddir bod gennych allu cyfyngedig i weithio, ni fydd disgwyl i chi fod ar gael ar gyfer gwaith na chwilio am waith ac os canfyddir bod gennych allu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith, ni fydd gennych unrhyw ofynion sy'n gysylltiedig â gwaith.

Rhagor o wybodaeth a sut i hawlio:

I ddechrau hawliad am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu i gael eich derbyn fel rhywun sydd â gallu cyfyngedig i weithio ar gyfer derbyn Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi gyflwyno nodiadau salwch. Ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, anfonir ffurflen ESA50 atoch yn awtomatig fel rhan o'r 'Asesiad Gallu i Weithio'. Ar gyfer Credyd Cynhwysol, os ydych wedi cyflwyno nodyn salwch sy'n para 4+ wythnos neu ar ôl i chi gyflwyno nodiadau salwch am 29 diwrnod, dylai eich hyfforddwr gwaith eich cyfeirio am Asesiad Gallu i Weithio a threfnu i ffurflen UC50 gael ei hanfon atoch - os na chaiff y ffurflen ei hanfon atoch, yna gofynnwch i'ch hyfforddwr gwaith anfon un atoch drwy eich cyfnodolyn ar-lein.

Mae gan Cyngor ar Bopeth arweiniad manwl ar sut i lenwi'r ffurflen ESA50, sydd hefyd yn berthnasol i'r ffurflen UC50: Llenwi'r ffurflen gallu i weithio ar gyfer hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Cyngor ar Bopeth) (Yn agor ffenestr newydd) 

Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gael eu hasesu. Mae gan y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd ganllawiau ar yr hyn a fydd yn digwydd yn yr asesiad yma: Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd (Yn agor ffenestr newydd)

Dod o hyd i gyngor a chymorth ar fudd-daliadau

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Mae hwn yn fudd-dal i bobl sydd wedi dod yn anabl yn dilyn damwain yn y gwaith neu sy'n dioddef o glefyd 'rhagnodedig' sydd wedi'i achosi gan y gwaith a wnaethant.  Nid yw'n fudd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd a gellir ei dalu ar yr un pryd â Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd.

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

 

Budd-daliadau ar gyfer gofalwyr

Lwfans Gofalwr

Mae Lwfans Gofalwr yn fudd-dal y gellir ei hawlio gan ofalwyr sy'n darparu gofal am 35 awr yr wythnos, sydd ag enillion isel, nad ydynt mewn addysg amser llawn ac mae'r person y maen nhw'n gofalu amdano yn derbyn budd-dal anabledd (Lwfans Gweini; Lwfans Byw i'r Anabl gyda'r elfen ofal cyfradd ganolig neu uwch; Taliad Annibyniaeth Personol gyda'r naill gyfradd neu'r llall o'r Elfen Byw Bob Dydd).

Credyd Cynhwysol - Elfen Gofalwr

Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, yn gofalu am 35 awr yr wythnos ac mae'r person rydych yn gofalu amdano yn derbyn budd-dal anabledd efallai y byddwch yn gallu cael elfen ychwanegol yn eich dyfarniad Credyd Cynhwysol.

Nid yw'r gair 'gofal' wedi'i ddiffinio a gall gynnwys cefnogaeth emosiynol.

Rhagor o wybodaeth am y Lwfans Gofalwr ac Elfen Gofalwr Credyd Cynhwysol:

 RHYBUDD: Os ydych yn derbyn taliad Lwfans Gofalwr neu'r Elfen Gofalwr yn eich dyfarniad Credyd Cynhwysol, gallai gael effaith ariannol sylweddol ar y person rydych yn darparu gofal iddo. 

Gofynnwch am gyngor cyn gwneud cais.

 

Budd-daliadau i deuluoedd â phlant

Mae gwahanol fathau o fudd-daliadau, lwfansau a grantiau ar gael i chi os oes gennych blant neu os ydych ar fin cael neu fabwysiadu plentyn. Mae llawer o'r rhain yn dibynnu ar eich amgylchiadau felly rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor annibynnol os nad ydych yn siŵr beth y gallwch ei hawlio.

Budd-daliadau a chymorth ariannol i deuluoedd (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Taliadau statudol

Gwneir taliadau statudol gan eich cyflogwr ac mae'n rhaid i chi roi'r rhybudd cywir i'ch cyflogwr.

Y Tâl Mamolaeth Statudol yw'r lleiafswm y mae'n rhaid i gyflogwr ei dalu i weithiwr 'cymwys' am hyd at 39 wythnos. Efallai y bydd gan eich cyflogwr gynllun mwy hael fel rhan o'ch amodau a'ch telerau gwaith. Mae Tâl Mamolaeth Statudol yn cyfrif fel incwm ar gyfer budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, ond anwybyddir y £100 cyntaf ar gyfer Credydau Treth ac mae Tâl Mamolaeth Statudol yn cael ei drin fel enillion ar gyfer Credyd Cynhwysol (mae hyn yn golygu ei fod yn lleihau unrhyw lwfans gwaith rydych yn gymwys i'w gael a'r 'tapr'). I fod yn gymwys mae angen i chi fod wedi bod yn gweithio i'r un cyflogwr am gyfnod parhaus o 26 wythnos o leiaf hyd at (ac yn cynnwys o leiaf 1 diwrnod o) y 15fed wythnos cyn Wythnos Ddisgwyliedig yr Enedigaeth. Tâl ac absenoldeb mamolaeth (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae gan y Tâl Mabwysiadu Statudol amodau tebyg i Dâl Mamolaeth Statudol, ac eithrio bod yn rhaid i chi fod yn 21 oed o leiaf (ni allwch fabwysiadu dan yr oedran hwnnw a rhaid i'r mabwysiadu fod yn gymwys dan gyfraith y DU a gall trefniadau dirprwyon fod yn gymwys). Gall y naill bartner neu'r llall hawlio - gallai'r partner arall gael y Tâl Tadolaeth Statudol a Rennir - gweler isod. Mae'r taliad ar yr un sail â'r Tâl Mamolaeth Statudol a gellir ei dalu am hyd at 39 wythnos. Tâl ac absenoldeb mabwysiadu (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae gan y Tâl Tadolaeth Statudol amodau tebyg i Dâl Mamolaeth Statudol ac eithrio mai dim ond am 1 neu 2 wythnos gyflawn y mae'r taliad yn cael ei wneud (eich dewis chi). Y cynharaf y gellir ei dalu yw o ddyddiad geni'r plentyn neu ddyddiad y rhoddir plentyn i'w fabwysiadu, a'r diweddaraf yw 8 wythnos ar ôl y dyddiadau hynny. Tâl ac absenoldeb tadolaeth (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Tâl Rhiant Statudol a Rennir yn caniatáu i rieni newydd cymwys rannu eu cyflog statudol rhyngddynt. Er ei fod wedi bod ar gael ers 2015, mae'r cyfraddau manteisio arno wedi bod yn isel iawn. Os yw'r ddau ohonoch yn gymwys i gael Tâl Rhiant Statudol a Rennir, gellir ei rannu rhyngoch dros gyfnod o 37 wythnos ar ôl i Dâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol gael eu talu am bythefnos. Gellir talu'r ddau ohonoch ar yr un pryd, ond dim ond cyfanswm o 39 taliad rhyngoch chi (dim ond 37 o'r taliadau hyn all fod ar gyfer Tâl Rhiant Statudol a Rennir) e.e: os yw'ch partner eisoes wedi derbyn 30 wythnos o Dâl Mamolaeth Statudol, dim ond gwerth 9 wythnos o Dâl Rhiant Statudol a Rennir sydd ar ôl i chi. Tâl ac absenoldeb rhiant a rennir (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Telir Lwfans Mamolaeth i fenywod sydd wedi bod yn gweithio ond nid ydynt yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn hunangyflogedig, wedi dod yn ddi-waith, heb fod gyda'ch cyflogwr yn ddigon hir i gael Tâl Mamolaeth Statudol, neu eich bod yn ennill cyflog sy'n rhy isel i fod yn gymwys ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol. Lwfans Mamolaeth (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Budd-dal Plant

Rydych yn gymwys i gael Budd-dal Plant os ydych yn gyfrifol am blentyn dan 16 oed (neu dan 20 oed os yw'n aros mewn addysg neu hyfforddiant) ac rydych yn byw yn y DU. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol nad yw'r 'terfyn dau blentyn' yn berthnasol i Fudd-dal Plant. Fel arfer, caiff Budd-dal Plant ei anwybyddu fel incwm ar gyfer budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd. Gall fod yn ffordd o ddatgloi neu gyflymu hawliadau am fudd-daliadau eraill i blant ac mae'n bwysig wrth benderfynu faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch i dalu'ch rhent drwy Gredyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai.  

Mae Budd-dal Plant yn fudd-dal nad yw'n dibynnu ar brawf modd, ond mae bellach yn 'brawf sy'n dibynnu ar gyfoeth' os oes gennych chi neu'ch partner 'incwm net wedi'i addasu' dros £50,000 yn ôl yr hyn a elwir yn 'Tâl Budd-dal Plant Incwm Uchel'. Mae hyn yn golygu os oes gennych chi neu'ch partner incwm dros £50,000, codir treth ychwanegol arnoch a fydd yn cynyddu'n raddol i 100% o werth eich Budd-dal Plant pan fydd eich incwm unigol dros £60,000. Gallwch ddewis naill ai peidio â hawlio budd-dal plant neu barhau i gael budd-dal plant, ond yna bydd angen i chi gofrestru a llenwi ffurflen dreth 'Hunanasesiad', hyd yn oed os nad oeddech erioed wedi gorfod mynd i fyd hunanasesiadau CThEM o'r blaen.

Hawlio Budd-dal Plant (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Lwfans Byw i'r Anabl i blant

Os yw'ch plentyn dan 16 oed ac yn dioddef o salwch tymor hwy, anabledd, anawsterau dysgu, problemau iechyd meddwl neu anhwylder ymddygiad, efallai bydd hawl ganddo i Lwfans Byw i'r Anabl. Mae hawl plentyn i gael Lwfans Byw i'r Anabl yn seiliedig ar p'un a oes angen llawer mwy o sylw, oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd y plentyn, i ofalu amdano neu ei oruchwylio i'w gadw'n ddiogel, nag y byddai ei angen ar blentyn o'r un oedran neu y byddai ei angen ar blentyn heb anabledd/gyflwr iechyd, neu os yw ei symudedd yn sylweddol gyfyngedig.

Nid yw Lwfans Byw i'r Anabl yn dibynnu ar brawf modd a gall eich hawl olygu eich bod hefyd yn cael arian ychwanegol o fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd fel Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Plant ac yn golygu eich bod wedi'ch eithrio o'r cap ar fudd-daliadau.  Yn dibynnu ar gyfradd y Lwfans Byw i'r Anabl y mae gan y plentyn hawl iddo, gallai hefyd olygu bod gennych hawl i  Lwfans Gofalwr am ofalu amdano.

Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Rhagor o gymorth:

 

Budd-daliadau i bobl dros oedran pensiwn y wladwriaeth

Credyd Pensiwn

Mae gennym rif rhadffôn i bobl ei ffonio i gael cyngor a chefnogaeth: 0800 112 4763.

Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd, a gellir gwneud hawliad newydd pan fyddwch chi ac unrhyw bartner rydych chi'n byw gydag ef dros oedran pensiwn y wladwriaeth, sef 66 oed ar hyn o bryd (mynnwch gyngor os oes gennych bartner iau ac rydych wedi bod yn derbyn Budd-dal Tai dan y rheolau oedran pensiwn ers mis Mai 2019, gan y gallech fod yn gymwys o hyd).

Bydd hawl yn dibynnu ar yr incwm a'r cyfalaf arall sydd gennych chi ac unrhyw bartner.  Nid oes terfyn cyfalaf, fodd bynnag, caiff £10,000 cyntaf eich cyfalaf ei anwybyddu'n llwyr a bydd unrhyw gyfalaf dros y ffigur hwn yn effeithio ar swm y Credyd Pensiwn y mae gennych hawl iddo.  Gellir hawlio Credyd Pensiwn i ychwanegu at eich incwm o'ch Pensiwn y Wladwriaeth neu incwm arall sydd gennych a gellir cynnwys symiau ychwanegol yn y cyfrifiad os ydych yn anabl, yn ofalwr neu'n gofalu am blant dibynnol. Gallwch gyflwyno hawliad hyd at 4 mis cyn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth.

Credyd Pensiwn (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Pensiwn y wladwriaeth

Pensiwn Newydd y Wladwriaeth

Disodlodd Pensiwn Newydd y Wladwriaeth Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth ar gyfer yr holl hawlwyr a oedd yn cyrraedd oedran ymddeol ar 6 Ebrill 2016 neu ar ôl hynny. Nid yw hyn yn dibynnu ar brawf modd, felly nid yw incwm arall neu gynilion yn effeithio ar hawl pobl iddo. Nid yw'n cynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n seiliedig ar eich incwm.

Fel Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth, mae hawl yn dibynnu ar dalu neu gael ei gredydu â'r lefel gywir o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Ond yn wahanol i Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth, nid yw'r hawl yn seiliedig ar gofnod cyfraniadau eich priod neu'ch partner sifil (ac eithrio mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig iawn); mae un math yn unig o Bensiwn Newydd y Wladwriaeth.

Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth

Telir Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth i'r rheini a gyrhaeddodd oedran pensiwn y wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016. Mae hyn yn golygu dyn a anwyd cyn 6 Ebrill 1951 neu fenyw a anwyd cyn 6 Ebrill 1953. Cyn belled â'ch bod wedi cyrraedd oedran pensiwn cyn y dyddiad hwn, rydych yn dal yn gymwys i wneud hawliad, hyd yn oed os nad ydych wedi gwneud hynny eto.

Os cyrhaeddoch eich oedran pensiwn ar neu ar ôl y dyddiad hwn, ni allwch hawlio hen Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth ac yn lle hynny mae angen i chi hawlio Pensiwn Newydd y Wladwriaeth. Nid yw Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth yn dibynnu ar brawf modd ac felly nid yw'r hawl iddo'n dibynnu ar y ffaith fod eich incwm neu gynilion o dan derfynau penodol. Mae'n dibynnu ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu gyfraniadau eich gŵr, eich gwraig neu bartner sifil. Mae'n fudd-dal trethadwy. 

Pensiwn y Wladwriaeth (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae gan Age Cymru wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth a llawer o gyngor defnyddiol arall ar amrywiaeth eang o bynciau yn eu canllawiau a'u taflenni ffeithiau: Age Cymru Gorllewin Morgannwg

Lwfans Gweini

Mae'r Lwfans Gweini'n fudd-dal i bobl dros oedran pensiwn y wladwriaeth y mae ganddynt salwch neu anabledd corfforol neu feddyliol sy'n golygu bod angen help arnynt gyda gofal personol yn ystod y dydd ac/neu yn ystod y nos, neu fod angen rhywun i gadw llygad arnynt i'w cadw'n ddiogel. Nid oes rhaid i chi fod yn derbyn yr help hwn mewn gwirionedd, ond mae angen i chi ddangos bod angen rhesymol am help.

Nid yw'r Lwfans Gweini'n dibynnu ar brawf modd a gall eich hawl olygu eich bod hefyd yn cael arian ychwanegol o fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd fel Credyd Pensiwn a gall ganiatáu i rywun sy'n gofalu amdanoch hawlio  Lwfans Gofalwr.

Attendance Allowance (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae gan wefan Age Cymru lawer o gyngor ac awgrymiadau ar gyfer hawlio Lwfans Gweini: Age Cymru Gorllewin Morgannwg

Mae gan wefan Cyngor ar Bopeth hefyd arweiniad manwl i'ch helpu i lenwi'ch ffurflen hawlio Lwfans Gweini: Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot

Os hoffech gael help i lenwi'r ffurflen Lwfans Gweini ac mae gennych weithiwr cymdeithasol neu weithiwr cymorth, efallai y byddant yn gallu eich helpu.  Mae rhestr o sefydliadau a all helpu ar gael ar: Dod o hyd i gyngor a chymorth ar fudd-daliadau

 

Budd-daliadau a gofalwyr maeth

Nid yw'r system budd-daliadau'n ystyried bod plant maeth (h.y. plant sy'n 'derbyn gofal' gan yr awdurdod lleol) yn blant 'dibynnol' yn nheulu'r gofalwr maeth. Mae hyn yn golygu na all gofalwyr maeth hawlio Budd-dal Plant, Credyd Treth Plant, ychwanegiadau plant o fewn Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor, neu elfennau plant Credyd Cynhwysol ar gyfer unrhyw blant sy'n derbyn gofal. Fodd bynnag, dylech dderbyn lwfans maethu gan yr awdurdod lleol perthnasol. Anwybyddir unrhyw lwfansau maethu a gewch fel incwm wrth gyfrifo'r hawl i fudd-daliadau eraill rydych yn eu hawlio.

Os oes gennych orchymyn gwarcheidwaeth arbennig neu orchymyn trefniant plentyn, nid yw'r plant yn blant sy'n derbyn gofal oherwydd bod gennych chi gyfrifoldeb rhieni. Mae hyn yn golygu bod y plant yn cael eu hystyried yn blant dibynnol a gallwch hawlio Budd-dal Plant, Credyd Treth Plant, ychwanegiadau plant o fewn Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor, neu'r elfennau plant mewn Credyd Cynhwysol. Efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Gwarcheidwad, os felly, yn y rhan fwyaf o achosion caiff ei ddiystyru fel incwm at ddibenion budd-daliadau prawf modd. Os ydych yn derbyn budd-daliadau, gall hyn effeithio ar y swm y mae'r awdurdod lleol yn penderfynu ei dalu i chi.

Pan fydd y person ifanc yn cyrraedd 16 oed, efallai bydd ganddo hawl i'w fudd-daliadau ei hun - byddai unrhyw hawliad yn effeithio ar eich hawl chi i'r budd-daliadau rydych yn eu hawlio ar eu cyfer (er ni ddylai hyn effeithio ar eich Lwfans Maeth).

Costau Tai

Mae'r dreth ystafell wely'n berthnasol i dai cymdeithasol (y cyngor neu gymdeithas tai) ac mae'r Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i'r rheini sy'n byw mewn eiddo a rentir yn breifat. Yn y ddau achos, penderfynir ar nifer yr ystafelloedd gwely y mae eu hangen arnoch, a defnyddir y rhif hwn i gyfrifo faint o Fudd-dal Tai y telir i chi neu faint o'r Elfen Costau Tai y byddwch yn ei derbyn mewn Credyd Cynhwysol. Dan y cynllun hwn, darperir ystafell wely ychwanegol i rieni maeth ni waeth faint o blant maent yn eu maethu na pherthynas y plant â'i gilydd. Mae'n bosib y bydd gennych dri phlentyn maeth ond yn cael help yn unig ar gyfer un ystafell wely.

Os oes diffyg rhwng eich rhent a'r swm a ddyfernir yn eich Budd-dal Tai neu'ch Credyd Cynhwysol, dylech wneud cais am Daliad Tai Dewisol (TTD). Bydd rhaid i chi ddangos incwm a gwariant i egluro pam na allwch dalu'r diffyg, ac ystyrir eich lwfans maethu fel incwm pan gaiff y TTD ei ystyried.

Anabledd a Budd-daliadau Gofalwr

Os yw eich plentyn maeth dan 16 oed ac y mae ganddo salwch neu anabledd, efallai bydd yn bodloni'r amodau ar gyfer Lwfans Byw i'r Anabl (LBA). Gallwch wneud cais am LBA ar gyfer y plentyn, ac fe'i telir i chi, ond oherwydd bod y budd-dal hwn ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc, os yw'r plentyn yn symud o'ch gofal chi, aiff y budd-dal gydag ef (cofiwch bydd angen i chi hysbysu'r AGPh am newid fel hwn).

Os yw'r person ifanc dros 16 oed, efallai bydd yn bodloni'r amodau ar gyfer Taliad Annibyniaeth Personol. Gwneir y cais gan berson ifanc, ac fe'i telir iddo, oni bai fod ganddo benodai.

Os dyfernir cyfradd ganol neu uwch yr elfen ofal ar gyfer LBA i chi neu elfen byw dyddiol PIP, efallai y gallwch hawlio Lwfans Gofalwr (LG) os ydych yn bodloni'r amodau. Ni ddylai hyn effeithio ar eich Lwfans Maethu.

 

Budd-daliadau ar gyfer pobl mewn addysg

Credyd Cynhwysol ar gyfer pobl mewn addysg

Er nad yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gymwys i hawlio Credyd Cynhwysol, mae rhai eithriadau: Credyd Cynhwysol a myfyrwyr (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Ar gyfer oedolion ifanc sy'n parhau mewn addysg nad yw'n addysg uwch ar ôl y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 19 oed (yn aml oherwydd anabledd neu anghenion arbennig): Credyd Cynhwysol ar gyfer pobl ifanc sy'n derbyn addysg (Contact) (Yn agor ffenestr newydd)

Cyllid myfyrwyr

 

Budd-daliadau ar gyfer pobl sydd wedi colli eu swyddi

Gall Cyngor ar Bopeth eich helpu o ran pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt wrth i chi chwilio am swydd newydd.

Cymorth gyda chyflogaeth, hyfforddiant a swyddi:

Manylion ynghylch eich hawliau os ydych yn colli'ch swydd: Eich hawliau os ydych yn colli'ch swydd (ACAS) (Yn agor ffenestr newydd)
Mae llinell gymorth ACAS ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am a 6.00pm ar 0300 123 1100.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Awst 2022