
Busnesau Abertawe
Mae gan Abertawe restr drawiadol ac amrywiol o sefydliadau masnachol a chyhoeddus sy'n cyfrannu at economi'r ddinas.
Mae'r rhain yn cynnwys nifer o gyflogwyr mawr sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu, amrywiaeth o gwmnïau'r sector gwasanaeth a sawl sefydliad sector cyhoeddus pwysig.
Dyma rai o'r cwmnïau:
Admiral Insurance sy'n cyflogi bron 2,000 o bobl yn ei ganolfan yng Nglannau SA1 Abertawe ac ar safle newydd ym Mro Tawe. Hwn yw'r cwmni cyntaf yn ne Cymru i gael ei gynnwys ym mynegai FTSE 100.
Arvato sy'n gweithredu Canolfan Gwasanaethau a Rennir annibynnol gyntaf llywodraeth y DU yn yr Adran Drafnidiaeth yn Abertawe.
BT, cwmni cyfathrebu mwyaf sefydledig y byd sy'n gyflogwr pwysig yn yr ardal.
HSBC, un o sefydliadau gwasanaethau bancio ac ariannol mwyaf y byd sy'n gweithredu o Barc Menter Abertawe.
OSTC Wales, cwmni masnachu deilliadau mwyaf y DU y tu allan i Lundain.
Virgin Atlantic sy'n cyflogi dros 200 o bobl yn ei ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid yng nghanol y ddinas.
Wolfestone, cwmni gwasanaethau cyfieithu mwyaf Cymru.