Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cais am brydau ysgol am ddim

Cwblhewch ffurflen i gyflwyno cais am brydau ysgol am ddim i'ch plentyn.

Mae'n bwysig bod yr wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni ar gyfer y rhiant/gwarcheidwad sy'n hawlio'r taliad. Mae prydau ysgol am ddim ar gael i deuluoedd sy'n derbyn un o'r taliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Elfen warantedig y Credyd Pensiwn Gwladol
  • Cymhorthdal o dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant gydag incwm blynyddol, fel yr asesir gan Gyllid y Wlad, nad yw'n fwy na £16,190.00 ac NID yw'n derbyn Credyd Treth Gwaith.
  • Credyd Treth Gwaith 'ychwanegol' - y taliad y gall rhywun ei dderbyn am bedair wythnos ychwanegol ar ôl iddynt beidio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith (sylwer ni fyddech yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim os byddwch yn derbyn Credyd Treth Gwaith mewn unrhyw amgylchiadau eraill).
  • Credyd Cynhwysol os yw'ch enillion net blynyddol yn £7,400 neu lai.

Ar ôl i'r ysgol gael gwybod bod gan ddisgybl hawl i brydau ysgol am ddim, bydd yn cysylltu â'r gofalwr cymwys i drefnu sut i gofrestru'r taliadau banc. Bydd y gofalwr yn derbyn e-bost i gadarnhau'r broses.

PEIDIWCH Â CHYSYLLTU â'r tîm prydau ysgol am ddim gydag ymholiadau am y taliadau hyn. Cysylltwch ag ysgol eich plentyn.

Close Dewis iaith