
Casglu ymyl y ffordd
Mae ein casgliadau ymyl y ffordd yn cynnwys papur, cardbord, gwydr, caniau, plastig, gwastraff cegin, a gwastraff gardd yn ogystal â sbwriel cartref.
Gwahenir eich casgliadau'n rhai 'Wythnos Werdd' ac 'Wythnos Binc'. Gofynnir i chi ddidoli'ch gwastraff a'i roi yn y sach briodol/bin priodol. Cofiwch ddefnyddio'n Teclyn Chwilio am Gasgliadau Ailgylchu i gael gwybod ar ba ddiwrnodau y casglwn beth.
Arweiniad defnyddiol i gasglu gwastraff o ymyl y ffordd (PDF, 1MB)Yn agor mewn ffenest newydd
Os oes angen arnoch i eitemau o Wastraff Swmpus gael eu casglu, gallwch drefnu casgliad ar gyfer hyd at 3 eitem am £20, neu 6 eitem am £40.
Mae'r gwasanaethau ymyl y ffordd ar gyfer eiddo domestig yn unig. Os ydych yn rheoli busnes yn Abertawe a hoffech ailgylchu'ch sbwriel, mae gwybodaeth ar ein tudalennau Gwastraff masnachol, busnes ac ailgylchu.
Os ydych am roi gwybod nad yw'ch gwastraff wedi'i gasglu, arhoswch tan ar ôl 1.00pm ar eich diwrnod casglu er mwyn rhoi digon o amser i'r criwiau gwblhau casgliadau yn eich ardal.
Sticeri ar sachau/bagiau
Os bydd sticer du a melyn yn cael ei osod ar eich bag/sach, bydd hyn yn golygu nad ydym wedi gallu ei gasglu oherwydd un o'r rhesymau canlynol:
- Mae deunyddiau ailgylchu yn y bag/sach anghywir
- Mae'r bag ailgylchu yn cynnwys deunyddiau nad ydynt yn gallu cael eu hailgylchu
- Mae papur a cherdyn yn yr un sach â chaniau a gwydr
- Mae'r bag/sach wedi ei osod ar y diwrnod/wythnos anghywir
- Mae'r bag/sach yn fwy na'r uchafswm pwysau/maint
- Rhoddwyd mwy na thair sach ddu allan i'w casglu
Symudwch unrhyw sach/fag â sticer arnynt o ymyl y ffordd, a'u didoli'n gywir ar gyfer y casgliad nesaf, neu ddefnyddio'ch canolfan ailgylchu gwastraff cartref agosaf i'w gwaredu.

Casglu sachau gwyrdd
Gallwch ddefnyddio sachau gwyrdd ar gyfer caniau, gwydr, papur, a cherdyn. Byddwn yn eu casglu yn ystod eich wythnos werdd.

Casglu sachau pinc
Gallwch ddefnyddio sachau pinc ar gyfer plastigion. Rydym yn eu casglu yn ystod eich wythnos binc.

Casglu gwastraff bwyd
Defnyddiwch eich bin gwyrdd ar gyfer eich casgliad gwastraff bwyd wythnosol.

Casgliad gwastraff gardd
Defnyddiwch y bagiau gwyn ailddefnyddiadwy ar gyfer eich gwastraff gardd. Byddwn yn ei gasglu ar eich wythnos werdd.

Casglu sachau du - Cadwch at 3
Cesglir gwastraff cartref o ymyl y palmant mewn sach ddu. Caniateir i bob cartref roi hyd at 3 sach ddu allan bob pythefnos.