Teithio llesol
Term ar gyfer gwneud taith mewn ffordd gorfforol, fel beicio neu gerdded yw teithio llesol. Rydym am wella a hyrwyddo teithio llesol er lles pawb.
Mae manteision teithio llesol yn cynnwys y canlynol:
- gwella'ch iechyd a'ch lles
- llai o geir ar y ffordd, lleihau tagfeydd
- gostyngiadau mewn allyriadau carbon ac aer glanach
- gwell cysylltiadau rhwng cymunedau lleol
- gwell mynediad at gyflogaeth, addysg, a gwasanaethau allweddol
Mae'r rhwydwaith teithio llesol presennol yn Abertawe'n cynnwys dros 127km o lwybrau beicio a cherdded oddi ar y ffordd y mae pobl o bob gallu yn eu mwynhau.
Yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru, a ddarperir fel rhan o'r gronfa teithio llesol, rydym wedi ymrwymo i gynyddu a hyrwyddo llwybrau teithio llesol ar draws yr ardal. Mae hyn yn golygu bod rhagor o lwybrau'n cael eu hychwanegu at y rhwydwaith, gan wneud cymudo ar droed ac ar gefn beic yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy cydgysylltiedig.
Bydd prosiectau'n gweld isadeiledd newydd a gwell yn cael ei ddarparu ar draws Abertawe, a fydd yn gwella cysylltedd rhwng cymunedau a hefyd yn cysylltu â'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus ehangach.
Prosiectau wedi'u cwblhau
Prosiectau teithio llesol cyfredol
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
Rhoi gwybod am broblem neu roi adborth
Gwybodaeth am deithio llesol i gyflogwyr
Rhannwch gyda gofal
Beicio
